Recriwtio, rheoli a datblygu unigolion yn eich tîm
URN: INSHOU37
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
29 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â recriwtio, rheoli a datblygu unigolion yn eich tîm. Gallai 'tîm' yn y cyd-destun hwn fod yn un neu fwy o bobl sydd ym maes eich cyfrifoldeb.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau bod gwaith yn eich tîm a'ch maes yn cael ei adolygu i nodi diffyg o ran staffio, sgiliau, gwybodaeth neu brofiad
- adolygu'r opsiynau ar gyfer mynd i'r afael ag unrhyw ddiffygion a nodwyd a dilyn trefniadau eich sefydliad ar gyfer eu datrys
- rhoi cymorth yn ystod y broses ddethol, cyfweld a recriwtio
- darparu rhaglen sefydlu ar gyfer unigolion newydd yn eich tîm
- cadarnhau bod eich tîm yn deall gweledigaeth, amcanion a chynlluniau gweithredol maes eich gwaith a sut mae'r rhain yn cyfrannu at y sefydliad cyfan
- rheoli perfformiad unigolion yn eich tîm i gyflawni amcanion sefydliadol
- dirprwyo cyfrifoldebau i unigolion yn eich tîm i gynnig cyfleoedd datblygu
- dangos ystod o arddulliau rheoli gwrthdaro a'u chymhwyso i sefyllfaoedd a heriau perthnasol yn eich tîm
- cynorthwyo eich tîm i gyflawni eu hamcanion gwaith a datblygu, cydnabod llwyddiant a rhoi cyngor yn ôl yr angen
- gweithio gyda chydweithwyr i nodi a blaenoriaethu gofynion dysgu a datblygu yn seiliedig ar eu rolau gwaith a gwneud argymhellion ar gyfer gweithredu yn unol â pholisi sefydliadol
- monitro ac adolygu a yw'r gweithgareddau dysgu a gyflawnwyd wedi cyflawni'r deilliannau gofynnol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer nodi diffygion o ran staffio neu sgiliau, a mynd i'r afael â nhw
- rolau, cyfrifoldebau, atebolrwydd a dyletswyddau adrannau eraill yn eich sefydliad wrth wneud trefniadau recriwtio neu ddatblygu staff
- y rhwymedigaethau, polisïau a'r codau ymarfer cyfreithiol perthnasol sy'n berthnasol i recriwtio yn eich sefydliad
- y gweithdrefnau sefydliadol a'r ddeddfwriaeth berthnasol yng nghyd-destun cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac iechyd a diogelwch
- sut mae'n rhaid i'ch sefydliad gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol ym maes diogelu data
- sut i ddewis a defnyddio gwahanol ddulliau ar gyfer cyfathrebu ag unigolion yn eich tîm
- y weledigaeth, yr amcanion, y diwylliant a'r cynlluniau gweithredol ar gyfer eich tîm a maes eich cyfrifoldeb ac ar gyfer y sefydliad ehangach
- sut i reoli a gwella perfformiad unigolion yn eich tîm yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
- sut i greu a chynnal diwylliant gwaith cadarnhaol sy'n annog cydweithredu a chreadigrwydd
- eich cryfderau a'ch cyfyngiadau yn y rôl arwain
- cryfderau, cyfyngiadau a photensial y staff yn eich tîm
- arddull arwain a diwylliant ehangach eich sefydliad
- gofynion system eich sefydliad ar gyfer gwerthuso perfformiad a datblygu staff
- yr adnoddau sydd ar gael i ddatblygu staff
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
06 Ion 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTH404
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio
Cod SOC
3234
Geiriau Allweddol
eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu; recriwtio; rheoli; datblygu; tîm; cyfrifoldeb