Cynorthwyo cwsmeriaid i leihau'r risg o ddigartrefedd
URN: INSHOU36
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
29 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo cwsmeriaid i leihau eu risg o fynd yn ddigartref. Gallai'r cymorth a roddir gynnwys cyfarfodydd un i un, ymweliadau cartref, cyfryngu a chynrychiolaeth yn ogystal â hwyluso a chynorthwyo cwsmeriaid gyda pherthnasoedd â sefydliadau eraill.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi cwsmeriaid sydd mewn perygl o fod yn ddigartref ac asesu eu hanghenion tai
- gweithio gyda chwsmeriaid i'w galluogi i ddeall eu sefyllfa
- rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, a chynorthwyo cwsmeriaid i leihau'r risg o ddigartrefedd
- cynorthwyo cwsmeriaid i ryngweithio â gwasanaethau eraill a allai fod o gymorth
- gweithio gyda chydweithwyr a sefydliadau perthnasol os na allwch fodloni gofynion cymorth penodol cwsmeriaid
- nodi cyfryngu neu gynlluniau eraill sy'n ofynnol i atal digartrefedd
- cynorthwyo cwsmeriaid i ddod o hyd i dŷ addas
- monitro gofynion cwsmeriaid a chadarnhau bod unrhyw risg yn cael ei reoli
- cymryd camau yn unol â'ch gofynion sefydliadol a chyfreithiol
- cofnodi ac adrodd ar gamau gweithredu, prosesau a chanlyniadau, yn unol â gofynion sefydliadol a'r ddeddfwriaeth berthnasol ar ddiogelu data
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi cwsmeriaid sydd mewn perygl o fod yn ddigartref
- sut i nodi pryd mae angen mwy o gymorth ar gwsmeriaid
- sut i asesu gofynion cymorth cwsmeriaid
- offer a mecanweithiau cymorth eich sefydliad sydd ar gael i gynorthwyo cwsmeriaid i leihau'r risg o ddigartrefedd
- yr opsiynau tai sydd ar gael i gynorthwyo cwsmeriaid
- sut mae nodau a gofynion y cwsmer yn effeithio ar ei opsiynau
- y rhwymedigaethau cyfreithiol, y safonau a'r codau ymarfer perthnasol sy'n berthnasol i gwmpas eich gwaith
- y gweithdrefnau sefydliadol a'r ddeddfwriaeth berthnasol ar gyfer cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac iechyd a diogelwch
- sut mae'n rhaid i'ch sefydliad gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol ym maes diogelu data
- sut i ddefnyddio dulliau cwestiynu a chyfathrebu perthnasol i alluogi trafodaeth a sefydlu dealltwriaeth gyffredin o ganlyniadau a chamau gweithredu y cytunwyd arnynt
- sut y gall gwahanol egwyddorion, blaenoriaethau a chodau ymarfer effeithio ar weithio mewn partneriaeth
- sut i ffurfio perthnasoedd sy'n hyrwyddo hawliau, dewisiadau a lles yr unigolyn
- mentrau llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig sy'n effeithio ar faes eich gwaith
- sut a ble i gael mynediad at lenyddiaeth, gwybodaeth a chymorth i lywio eich arferion
- terfynau eich cyfrifoldebau eich hun a goblygiadau gweithredu y tu allan i'r terfynau hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
06 Ion 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTH327
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio
Cod SOC
3234
Geiriau Allweddol
eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu; cymorth; unigolion; lleihau; risg; digartref;