Rhoi cymorth i unigolion mewn sefyllfaoedd wedi'u hynysu i gynnal cysylltiadau cymdeithasol

URN: INSHOU35
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 29 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr sy'n gweithio gydag unigolion mewn sefyllfaoedd wedi'u hynysu i'w helpu i gynnal cysylltiadau cymdeithasol.  Mae hyn yn cynnwys unigolion sy'n gaeth i'r tŷ, sy'n cael gofal hirdymor i ffwrdd o'u cartref, neu sydd â chyfyngiadau ar eu rhyddid a'u symudiad, er enghraifft unigolion sy'n cael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.  Gall unigolion hefyd gael eu hynysu gan wahaniaethau cyfathrebu, er enghraifft drwy wahaniaethau iaith neu nam ar y synhwyrau neu drwy drallod emosiynol. Mae'r gweithiwr yn cynorthwyo'r unigolyn i gynnal cysylltiadau cymdeithasol drwy roi cefnogaeth a chymorth ymarferol a chael gwybodaeth a llenyddiaeth berthnasol.  

Amlygir pwysigrwydd parchu gofynion a dymuniadau'r unigolyn ynghylch cynnal a datblygu cysylltiadau a diddordebau. Disgwylir i'r gweithiwr gydnabod a mynd i'r afael â thensiynau a allai godi rhwng hawliau a buddiannau'r unigolyn a chyfrifoldebau'r gweithiwr o fewn y cynllun gofal.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynnig amser a chyfle i unigolion mewn sefyllfaoedd wedi'u hynysu i'w cynorthwyo i fynegi eu gofynion ar gyfer cynnal cysylltiadau cymdeithasol, a'u diddordeb ynddynt
  2. rhoi cymorth i unigolion sy'n mynegi diddordeb mewn cysylltu neu gwrdd ag eraill
  3. cynorthwyo unigolion i gynnal eu cysylltiadau, gan gyd-fynd â'u gofynion
  4. rhoi cymorth sy'n berthnasol i'r unigolyn a'i ofynion, yn unol â'r cynllun gofal a'ch rôl
  5. trosglwyddo gwybodaeth i gydweithwyr neu sefydliadau perthnasol pan fydd unigolion mewn perygl o roi'r gorau i gadw at eu cynllun gofal
  6. cynorthwyo unigolion i gael gwybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau drostynt eu hunain a rheoli eu hunain
  7. cadarnhau, pan fydd unigolyn yn gofyn am gymorth, ei fod yn gymorth o fath a lefel benodol, a'i fod yn cael ei ddarparu yn unol â'i gynllun gofal
  8. cofnodi gwybodaeth yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol
  9. trafod ffynonellau gwybodaeth posibl gyda'r unigolyn a gwneud yn siŵr eu bod yn addas
  10. rhoi gwybodaeth sy'n berthnasol i'r unigolyn ar yr adeg sy'n ofynnol ac mewn fformat perthnasol
  11. annog unigolion i roi adborth ar y wybodaeth a gafwyd ac i wneud ceisiadau pellach

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pam mae cysylltiadau cymdeithasol yn bwysig a phryd mae'n berthnasol i unigolion eu datblygu a'u cynnal
  2. terfynau eich cyfrifoldebau eich hun a goblygiadau gweithredu y tu allan i'r terfynau hyn
  3. y rhesymau pam y gellir defnyddio dulliau ac ymatebion gwahanol wrth gynorthwyo cleientiaid ag anawsterau cyfathrebu
  4. y ffactorau a allai achosi i gleientiaid gael eu hynysu
  5. sut mae anawsterau a gwahaniaethau cyfathrebu yn amrywio mewn gwahanol leoliadau ac ar wahanol gamau datblygu i unigolion mewn sefyllfaoedd wedi'u hynysu
  6. y dulliau cynorthwyo unigolion i gynnal cysylltiadau cymdeithasol
  7. pam y dylid annog unigolion i reoli eu hunain
  8. pam mae'n rhaid ystyried dymuniadau unigolion hyd yn oed os nad ydynt am fanteisio ar y buddion a'r gwasanaethau sydd ar gael
  9. hawliau'r unigolyn i gyfrinachedd ynghylch y wybodaeth y maent yn dewis ei chael a sut y dylid cynnal neu wella hyn yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol
  10. y mathau perthnasol o gymorth i unigolion mewn sefyllfaoedd wedi'u hynysu
  11. ffynonellau gwybodaeth am wahanol wasanaethau sydd ar gael
  12. sut y gall anawsterau cyfathrebu a gwahaniaethau amrywio mewn gwahanol leoliadau ac ar wahanol gamau yn natblygiad unigolion
  13. y dulliau cofnodi gwybodaeth yn unol â gofynion sefydliadol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

06 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

SFJGB5

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio

Cod SOC

3234

Geiriau Allweddol

eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu; unigolion; ynysu; sefyllfaoedd; cymorth; cynnal;