Cynorthwyo cwsmeriaid i symud ac ymgartrefu mewn amgylcheddau byw newydd
URN: INSHOU32
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
29 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo cwsmeriaid i symud ac ymgartrefu mewn amgylcheddau byw newydd. Gallai hyn gynnwys symud unigolion a theuluoedd o lety dros dro a'u hailsefydlu mewn cartrefi parhaol. Gallai hefyd gynnwys cynorthwyo unigolion sy'n symud o amrywiaeth o wahanol leoliadau fel amgylcheddau diogel, y lluoedd arfog, yr ysbyty neu ganolfannau adsefydlu o ganlyniad i gyffuriau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio gyda chydweithwyr i sicrhau'r math perthnasol o lety i gwsmeriaid
- cynorthwyo cwsmeriaid i nodi a chyfleu eu gofynion ynghylch symud o'u trefniadau byw cyfredol i amgylchedd byw newydd
- cynllunio'r camau ar gyfer y symud a nodi dulliau fydd yn galluogi'r broses symud i gael ei chynnal
- rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid am y broses symud
- gwneud cwsmeriaid yn ymwybodol o'r effaith y gallai newidiadau yn eu hamgylchedd byw ei chael arnynt
- ymgymryd â gwaith yn unol â'r codau ymddygiad a'r ddeddfwriaeth berthnasol
- cynorthwyo cwsmeriaid i symud ac ymgartrefu yn eu hamgylchedd byw newydd
- gweithio gyda chwsmeriaid, cydweithwyr a phobl berthnasol yn yr amgylchedd newydd i gynllunio'r broses symud, gan gadarnhau ei bod yn ystyried gofynion y cwsmeriaid
- cynorthwyo cwsmeriaid i addasu i'r trefniadau byw newydd
- rheoli disgwyliadau cwsmeriaid a rhoi cyngor ar gwynion neu weithdrefnau apelio eich sefydliad
- cymryd camau yn unol â gofynion sefydliadol a chyfreithiol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau a gofynion y cwsmer
- sut i weithio mewn partneriaeth â chwsmeriaid, cydweithwyr a sefydliadau allanol wrth wneud trefniadau ailsefydlu
- y gweithdrefnau sefydliadol a'r ddeddfwriaeth berthnasol ar gyfer cydraddoldeb ac iechyd a diogelwch.
- sut mae'n rhaid i'ch sefydliad gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol ym maes diogelu data
- yr ystod o gefnogaeth a chymorth sydd ar gael i gwsmeriaid symud ac ymgartrefu mewn amgylcheddau byw newydd
- sut mae nodau a gofynion y cwsmer yn effeithio ar eu dewisiadau
- sut y gall gwahanol egwyddorion, blaenoriaethau a chodau ymarfer sefydliadol effeithio ar weithio mewn partneriaeth
- y camau, y gweithdrefnau, y gwaith papur a'r sefydliadau perthnasol sy'n ymwneud ag ailsefydlu mewn amgylcheddau byw newydd
- mentrau llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig sy'n effeithio ar faes eich gwaith
- sut a ble i gael gafael ar lenyddiaeth, gwybodaeth a chymorth i lywio eich arferion gwaith
- yr ystod lawn o offer a mecanweithiau cymorth sydd ar gael i chi
- terfynau eich cyfrifoldebau eich hun a goblygiadau gweithredu y tu allan i'r terfynau hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
06 Ion 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTH323
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio
Cod SOC
3234
Geiriau Allweddol
eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu; unigolion; ymgartrefu; amgylcheddau byw; teuluoedd;