Cynorthwyo gofynion datblygiad cymdeithasol a phersonol cwsmeriaid
URN: INSHOU31
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo gofynion datblygiad cymdeithasol a phersonol cwsmeriaid. Mae'n ymwneud â chynorthwyo cwsmeriaid i gaffael, cadw a datblygu'r sgiliau i reoli eu bywydau a'u hamgylchedd. Mae'n ymwneud â chytuno ar nodau gyda nhw a monitro ac adolygu sut y datblygir eu sgiliau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynorthwyo cwsmeriaid i gyfleu eu gofynion datblygiad cymdeithasol a phersonol o ran rheoli eu bywyd bob dydd
- gweithio gyda chydweithwyr perthnasol i nodi a rhoi cymorth i gwsmeriaid sy'n ymwneud â gwella sgiliau a datblygu rhai newydd
- gweithio gyda chwsmeriaid yn unol â'ch gweithdrefnau sefydliadol
- ymgymryd â'ch gwaith yn unol â chodau ymddygiad a'r ddeddfwriaeth berthnasol
- cytuno ar nodau gyda chwsmeriaid fydd yn eu galluogi i weithio yn ôl eu pwysau eu hunain i gaffael, adennill a chynnal sgiliau sy'n hanfodol i'w bywyd bob dydd
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun, cwsmeriaid a chydweithwyr perthnasol ynghylch datblygu a chyflwyno strategaethau cymorth
- addasu'r rhaglen gymorth i fynd i'r afael â gofynion cwsmeriaid
- darparu cofnodion ac adroddiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ategu'r rhaglen gymorth
- pennu meini prawf ar gyfer gwerthuso'r gweithgareddau a'r dulliau a ddefnyddir
- monitro ac adolygu'r ddarpariaeth gyda chwsmeriaid a chydweithwyr perthnasol i amserlenni eich sefydliad y cytunwyd arnynt
- cyfeirio cwsmeriaid at gydweithwyr perthnasol neu sefydliadau allanol pan na allwch fodloni eu gofynion
- cofnodi camau gweithredu, prosesau a chanlyniadau ac adrodd arnynt yn unol â gofynion eich sefydliad a'r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y rhwymedigaethau cyfreithiol a'r codau ymarfer perthnasol sy'n berthnasol i gwmpas eich gwaith
- y gweithdrefnau a'r ddeddfwriaeth sefydliadol berthnasol ar gyfer cydraddoldeb ac iechyd a diogelwch
- sut mae'n rhaid i'ch sefydliad gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol ym maes diogelu data
- ystod gofynion cwsmeriaid o ran datblygiad cymdeithasol a phersonol a'r gwahanol fathau o gymorth sydd ar gael
- sut i weithio mewn partneriaeth â chwsmeriaid, cydweithwyr a sefydliadau allanol, lle bo hynny'n berthnasol
- y gofynion archwilio neu fonitro penodol allanol y mae'n rhaid cydymffurfio â nhw yn eich maes gwaith
- sut mae nodau a gofynion y cwsmer yn effeithio ar eu dewisiadau
- sut i osod amcanion a'u monitro
- pwysigrwydd cydymffurfio ag arferion da cydnabyddedig
- sut i asesu risgiau a'u rheoli yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- terfynau eich cyfrifoldebau eich hun a goblygiadau gweithredu y tu allan i'r terfynau hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTH322
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio
Cod SOC
3234
Geiriau Allweddol
eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu; caffael; cadw; datblygu; sgiliau; rheoli; bywydau; yr amgy