Datblygu, gweithredu ac adolygu cynlluniau cymorth gyda chwsmeriaid
URN: INSHOU30
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
29 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a cynlluniau cymorth gyda chwsmeriaid a chytuno arnynt. Mae'n ymwneud â chynorthwyo cwsmeriaid i ddeall y trefniadau ar gyfer gweithredu'r cynllun cymorth a monitro ac adolygu'r ddarpariaeth gyda chydweithwyr perthnasol a sefydliadau allanol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun, y cwsmer a chydweithwyr perthnasol o ran datblygu cynlluniau cymorth a'u cyflwyno
- gwerthuso gwybodaeth am ofynion y cwsmer
- cynnwys cwsmeriaid a chydweithwyr perthnasol a sefydliadau allanol, lle bo hynny'n berthnasol, wrth ddatblygu cynlluniau cymorth
- nodi cynnwys cynlluniau cymorth a chytuno arnynt, gan gadarnhau bod cynlluniau'n bodloni gofynion y cwsmer unigol
- darparu cofnodion ac adroddiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ategu'r cynllun cymorth
- cynorthwyo cwsmeriaid, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol i ddeall y trefniadau ar gyfer rhoi'r cynllun cymorth ar waith
- rheoli gofynion cwsmeriaid a rhoi cyngor ar gwynion neu weithdrefnau apelio
- monitro ac adolygu'r modd y cyflwynir y cynllun cymorth i sicrhau ei fod yn parhau i fodloni gofynion cwsmeriaid, sefydliadau perthnasol a'ch sefydliad
- cadarnhau bod cwsmeriaid, cydweithwyr perthnasol a sefydliadau yn cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau lle bo hynny'n bosibl
- cyfeirio cwsmeriaid at gydweithwyr neu sefydliadau perthnasol pan na allwch fodloni eu gofynion
- cynnal eich gwaith o fewn terfynau eich awdurdod
- ymgymryd â chamau sy'n cyd-fynd â gofynion sefydliadol a chyfreithiol perthnasol
- cadw cofnodion o'ch penderfyniadau a'r camau a gymerir yn unol â gofynion eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae nodau, gofynion ac amgylchiadau tymor byr, canolig a hirdymor y cwsmer yn effeithio ar eu dewisiadau
- y rhwymedigaethau cyfreithiol, y safonau a'r codau ymarfer perthnasol sy'n berthnasol i gwmpas eich gwaith
- rolau, cyfrifoldebau, atebolrwydd a dyletswyddau cwsmeriaid, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol wrth ddatblygu cynlluniau cymorth, eu rhoi ar waith a'u hadolygu
- eich gweithdrefnau sefydliadol a deddfwriaeth berthnasol ar gyfer cydraddoldeb ac iechyd a diogelwch
- sut mae'n rhaid i'ch sefydliad gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol ym maes diogelu data
- y camau, y gweithdrefnau, y gwaith papur a'r cwsmeriaid, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol sy'n ymwneud â datblygu cynlluniau cymorth, eu rhoi ar waith a'u hadolygu
- mentrau llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig sy'n effeithio ar ddatblygu ac adolygu cynlluniau cymorth wrth fodloni gofynion, dewisiadau ac amgylchiadau unigol
- sut a ble i gael mynediad at lenyddiaeth, gwybodaeth a chymorth i lywio eich arferion
- y ffactorau sy'n effeithio ar allu eich sefydliad i ddarparu'r gwasanaethau a'r cyfleusterau a nodir yn y cynlluniau cymorth
- terfynau eich cyfrifoldebau eich hun a goblygiadau gweithredu y tu allan i'r terfynau hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
06 Ion 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTH321
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio
Cod SOC
3234
Geiriau Allweddol
eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu; datblygu; gweithredu; adolygu; cynlluniau