Datblygu a chynnal trefniadau gweithio mewn partneriaeth neu gydweithio
URN: INSHOU28
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
29 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a chynnal trefniadau mewn partneriaeth neu gydweithio ag unigolion a sefydliadau perthnasol. Gallai trefniadau gweithio mewn partneriaeth fod yn rhai mewnol neu allanol, ffurfiol neu anffurfiol, a bydd ganddynt ystod o ddibenion.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- datblygu trefniadau gweithio mewn partneriaeth neu gydweithio â phartneriaid a rhanddeiliaid perthnasol
- cyfathrebu ag unigolion a sefydliadau perthnasol mewn modd proffesiynol yn unol â safonau eich sefydliad
- hyrwyddo ac esbonio'r gwasanaethau a ddarperir gan eich sefydliad
- cadarnhau bod arferion gweithio mewn partneriaeth neu gydweithio yn cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol yn ogystal â gofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol
- cadarnhau rolau a chyfrifoldebau gwahanol unigolion a sefydliadau sy'n ymwneud â threfniadau partneriaeth neu gydweithio â nhw
- rhannu'r wybodaeth berthnasol ag unigolion a sefydliadau
- cyfrannu at yr adolygiad o effeithiolrwydd trefniadau gweithio mewn partneriaeth eich sefydliad
- nodi bylchau mewn darpariaeth ac arferion gyda'r partneriaid a'r rhanddeiliaid perthnasol
- gwerthuso trefniadau gweithio mewn partneriaeth eich sefydliad i lywio gwelliannau i arferion gwaith yn y dyfodol a chynnal y bartneriaeth neu'r trefniadau cydweithio
- rhannu eich canfyddiadau â chydweithwyr perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gwahanol ddulliau datblygu trefniadau gweithio mewn partneriaeth neu gydweithio â phartneriaid a rhanddeiliaid
- natur y sector rydych chi'n gweithio ynddo a gwahanol rolau a chyfrifoldebau sefydliadau perthnasol
- yr ystod o drefniadau gweithio mewn partneriaeth neu gydweithio presennol sy'n berthnasol i'ch gwaith
- y cytundebau ffurfiol ac anffurfiol sydd ar waith gyda sefydliadau perthnasol
- sut mae'n rhaid i'ch sefydliad gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol ym maes diogelu data
- sut i reoli gwrthdaro ac anawsterau sy'n codi wrth weithio gydag unigolion a sefydliadau perthnasol a rhoi gwybod amdanynt
- terfynau eich cyfrifoldebau eich hun a goblygiadau gweithredu y tu allan i'r terfynau hyn
- y gwahanol ddulliau a ddefnyddir gan eich sefydliad i adolygu effeithiolrwydd trefniadau gweithio mewn partneriaeth neu gydweithio
- ffyrdd o weithio mewn sefydliadau eraill a allai effeithio ar bartneriaethau presennol a darpar bartneriaethau
- pwysigrwydd cynnal trefniadau gweithio mewn partneriaeth neu gydweithio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
06 Ion 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTH319
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio
Cod SOC
3234
Geiriau Allweddol
eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundebau; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu; datblygu; cynnal; partneriaeth; sefydliadau; cydweithio