Hyrwyddo cwsmeriaid i gymryd rhan yn natblygiad y gymuned leol
URN: INSHOU27
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
29 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â hyrwyddo cwsmeriaid i gymryd rhan yn natblygiad y gymuned leol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu perthnasoedd gwaith gyda grwpiau, rhwydweithiau a sefydliadau cymunedol presennol
- gwerthuso sut mae cwsmeriaid yn cymryd rhan yn natblygiad y gymuned leol ar hyn o bryd a nodi cyfleoedd i gymryd rhan ymhellach
- nodi dulliau perthnasol o hyrwyddo'r gymuned leol i gymryd rhan gyda chwsmeriaid ar sail eu gofynion a'u galluoedd
- hyrwyddo manteision cynnwys y gymuned leol
- cynorthwyo cwsmeriaid i gymryd rhan mewn cymdeithasau a rhwydweithiau presennol sy'n ymwneud â datblygu'r gymuned leol
- nodi rhwystrau sy'n atal cwsmeriaid rhag cymryd rhan yn y gymuned a gweithio gyda chwsmeriaid i leihau'r rhwystrau hyn
- cyflwyno opsiynau i gwsmeriaid o ran cymryd rhan yn y gymuned leol
- cynorthwyo cysylltiadau effeithiol rhwng sefydliadau cymunedol
- rheoli anghydfodau a/neu wahaniaethau barn yn unol â'ch gweithdrefnau sefydliadol
- creu a threfnu gweithgareddau cymunedol sy'n cyfrannu at ddatblygiad y gymuned leol
- cynorthwyo cwsmeriaid a grwpiau, sefydliadau ac asiantaethau perthnasol i sefydlu a rheoli gweithgareddau sy'n bodloni gofynion y gymuned leol
- monitro canlyniadau gweithgaredd lleol a defnyddio'r canlyniadau i lywio datblygiad yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gyfathrebu â'ch cwsmeriaid a sefydliadau cymunedol lleol a gweithio gyda nhw
- sut i nodi a chytuno ar rôl eich sefydliad wrth ddatblygu cymdeithasau a rhwydweithiau cymunedol lleol newydd
- y cyfyngiadau gweithredol ar y mathau o gymorth y gallwch eu darparu ac ar ba lefel
- y polisïau, y gweithdrefnau, y gofynion cyfreithiol a'r trefniadau perthnasol sy'n ymwneud â chydweithio ag asiantaethau allanol
- pwysigrwydd hyrwyddo'r gymuned leol i gymryd rhan
- ystod, swyddogaethau, cyfrifoldebau a gwerthoedd sefydliadau a grwpiau perthnasol sy'n gweithredu yn y gymuned leol
- yr ystod o gyfleoedd i gwsmeriaid gymryd rhan yn y gymuned leol
- sut i weithio gyda chymdeithasau a rhwydweithiau sy'n ymwneud â datblygu'r gymuned leol
- sut i fonitro'r gefnogaeth rydych chi'n ei roi a'i mesur
- y gwahanol ddulliau ymgynghori â'r gymuned leol
- dulliau ymarfer democrataidd a chyfranogol a'r hyn y mae'n ei olygu mewn gwaith datblygu cymunedol lleol
- cryfderau a gwendidau'r dulliau ymgynghori y byddwch yn eu defnyddio
- sut i gynorthwyo gyda'r gymuned a'i hwyluso
- sut mae'n rhaid i'ch sefydliad gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol ym maes diogelu data
- sut i gynorthwyo cwsmeriaid wrth iddynt chwarae rhan fwy blaenllaw yn y gymuned
- y gofyniad i gymdeithasau a rhwydweithiau cwsmeriaid fod yn hunangynhaliol yn y tymor hwy
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
06 Ion 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTH318
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio
Cod SOC
3234
Geiriau Allweddol
eiddo; ymchwilio; delio; torri; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu; hyrwyddo; cymryd rhan; datblygu; adfywio; cymuned