Darparu gwasanaethau rhent tai
URN: INSHOU24
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu gwasanaethau rhent tai. Mae hyn yn cynnwys rheoli prosesau cyfrifo rhent a gweinyddu gweithdrefnau adennill dyledion i gynnal tenantiaethau cwsmeriaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- darparu gwasanaethau rhent tai i gwsmeriaid
- cadarnhau rhent a thaliadau gwasanaeth gyda chwsmeriaid
- hysbysu cwsmeriaid o'u cyfrifoldeb cyfreithiol i dalu rhent a thaliadau gwasanaeth fel y nodir yn eu cytundebau tenantiaeth
- cynnal gwiriadau incwm neu fudd-daliadau cwsmeriaid a'u cynghori ar y canlyniadau mewn perthynas â thalu rhent
- cytuno a sefydlu dull(iau) talu sy'n bodloni gofynion eich sefydliad a gofynion eich cwsmeriaid
- cadarnhau bod cwsmeriaid yn deall y ffordd y bydd cyfrifon eu rhent yn gweithredu
- monitro cyfrifon rhent cwsmeriaid yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol perthnasol
- cadw cofnodion a chynhyrchu gwybodaeth gyfrifeg yn ôl yr angen
- nodi cyfrifon sydd mewn ôl-ddyledion yn unol â'ch gofynion sefydliadol
- gweinyddu gweithdrefnau adennill dyledion yn unol â gofynion sefydliadol a chyfreithiol perthnasol
- cofnodi'r holl gamau a gymerwyd i adennill rhent
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddarparu gwasanaethau rhent tai i gwsmeriaid
- gofynion cyfreithiol perthnasol eich sefydliad a'ch cwsmeriaid mewn perthynas â gosod, talu a chasglu rhenti a thaliadau am wasanaethau
- eich gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer sefydlu cyfrifon rhent
- y system budd-daliadau tai sy'n berthnasol i'ch cwsmeriaid
- sut i gyfathrebu â'ch cwsmeriaid
- yr ystod o wasanaethau cynghori ar ddyledion sydd ar gael i gwsmeriaid
- y mathau o ddull(iau) talu sydd ar gael i gwsmeriaid
- eich gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer monitro cyfrifon rhent
- goblygiadau gwahanol weithgareddau neu gamau adfer rhent i gwsmeriaid
- eich gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adfer dyled
- y prosesau cyfreithiol perthnasol sy'n ymwneud ag ôl-ddyledion rhent
- sut i ddefnyddio systemau TG ar gyfer cyfrifo rhent a'i fonitro
- terfynau eich cyfrifoldebau eich hun a goblygiadau gweithredu y tu allan i'r terfynau hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTH313
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio
Cod SOC
3234
Geiriau Allweddol
eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu