Rheoli eiddo gwag
URN: INSHOU23
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
29 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â monitro a rheoli eiddo gwag. Gallai eiddo gwag gynnwys eiddo sy'n wag yn rhan o strategaeth cynnal a chadw neu werthu arfaethedig, ond hefyd y rhai a ystyrir yn "wagleoedd". Mae gwagle yn eiddo nad oes ganddo denant neu lesddeiliad am gyfnod rhwng meddiannaethau. Gallai hyn fod oherwydd nad yw'r eiddo'n bodloni gofynion cwsmeriaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- casglu a chynnal gwybodaeth i roi data gweithredol, rheoli a pherfformiad ar eiddo gwag
- monitro ac adrodd ar resymau dros eiddo gwag i'ch rheolwr llinell a chydweithwyr perthnasol
- rheoli eiddo gwag yn unol â'ch gweithdrefnau sefydliadol
- gweithio gyda chydweithwyr a chontractwyr perthnasol i drefnu bod eiddo gwag yn cael ei wneud yn ddiogel
- gweithio gyda chydweithwyr a chontractwyr perthnasol i gymryd y camau gofynnol mewn ymateb i broblemau o ran cael gafael ar eiddo
- trefnu neu ddarparu cyfleoedd ar y cyd i gwsmeriaid fynd i weld eiddo gwag
- trefnu archwiliadau neu atgyweiriadau yn unol â chanllawiau sefydliadol
- nodi a chofnodi problemau gyda chyflwr eiddo
- cymryd y camau gofynnol i gadarnhau bod problemau'n cael eu datrys
- cadarnhau bod yr eiddo yn bodloni eich safonau sefydliadol ar gyfer eiddo
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y rhesymau dros sicrhau eiddo gwag
- eich gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer monitro eiddo gwag a rhoi gwybod amdanynt
- eich gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer trefnu archwiliadau ac atgyweiriadau
- eich gofynion iechyd, diogelwch a diogeledd sefydliadol
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gosod a dyrannu
- sut i gofnodi'r camau a gymerwyd i wneud eiddo gwag yn ddiogel ac ymateb i broblemau o ran cael gafael ar eiddo
- targedau perfformiad eich sefydliad ar gyfer rheoli eiddo gwag
- y rhesymau pam mae'n rhaid i eiddo fodloni safonau iechyd a diogelwch gofynnol
- terfynau eich cyfrifoldebau eich hun a goblygiadau gweithredu y tu allan i'r terfynau hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
06 Ion 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTH312
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio
Cod SOC
3234
Geiriau Allweddol
eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu