Dyrannu llety i fodloni gofynion cwsmeriaid

URN: INSHOU18
Sectorau Busnes (Cyfresi): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dyrannu llety parhaol, dros dro ac mewn argyfwng i fodloni gofynion cwsmeriaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. darparu gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n bodloni safonau gwasanaeth i gwsmeriaid a pholisi cydraddoldeb ac amrywiaeth eich sefydliad
  2. cadarnhau bod cwsmeriaid yn deall y broses o wneud ceisiadau, yn cael y ffurflenni perthnasol ac yn cael gwybod am y cymorth sydd ar gael i gwblhau eu cais
  3. prosesu ceisiadau sydd wedi'u cwblhau yn unol â gofynion sefydliadol a chyfreithiol perthnasol
  4. asesu gofynion llety'r cwsmer a nodi'r math o lety sydd ei angen
  5. nodi gofynion llety sydd y tu hwnt i gylch gwaith eich sefydliad a chyfeirio cwsmeriaid at asiantaethau perthnasol
  6. rhoi gwybod i gwsmeriaid a ydynt yn gymwys i gael tai wedi'u dyrannu ar eu cyfer yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. nodi math, maint a lleoliadau'r eiddo sydd ar gael i'w dyrannu
  8. nodi cwsmeriaid y mae eu gofynion yn cyfateb i fath, maint a lleoliad yr eiddo sydd ar gael a dewis cwsmeriaid fydd yn cael cynnig llety yn unol â gofynion sefydliadol a chyfreithiol perthnasol
  9. nodi ymgeiswyr wrth gefn rhag ofn y bydd y dewis cyntaf yn gwrthod y llety a gynigir
  10. ymchwilio i'r rhesymau a roddir pan nad yw cwsmeriaid yn derbyn llety a gynigir iddynt i werthuso problemau posibl
  11. cynorthwyo gydag apeliadau neu gwynion yn erbyn penderfyniadau dyrannu yn unol â'ch gweithdrefnau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. safonau eich sefydliad o ran gwasanaeth i gwsmeriaid a pholisi cydraddoldeb ac amrywiaeth
  2. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer prosesu ceisiadau am lety gan gwsmeriaid
  3. y meini prawf a'r gweithdrefnau sy'n sail i brosesau asesu eich sefydliad a'r amserlenni ar gyfer gwneud asesiadau
  4. y gofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol sy'n ymwneud â cheisiadau, asesu a dyrannu llety
  5. polisi ac arferion cyfle cyfartal a gweithdrefnau iechyd a diogelwch eich sefydliad
  6. y gofyniad i ddiogelu cyfrinachedd yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol
  7. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer pennu'r angen am dai a rhoi gwybod i gwsmeriaid am benderfyniadau
  8. eich gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer mynd i'r afael â gofynion llety brys a'u blaenoriaethu
  9. y sefydliadau a'r asiantaethau y gellir cyfeirio cwsmeriaid atynt, eu rolau, eu cylchoedd gwaith a'u systemau cyfeirio
  10. math, maint a lleoliadau amrywiol yr eiddo ym mhortffolio eich sefydliad
  11. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer dyrannu llety i gwsmeriaid
  12. gweithdrefnau apelio neu gwyno eich sefydliad mewn perthynas ag asesu'r angen am dai a dyrannu llety
  13. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio â chwsmeriaid sy'n gwrthod llety a gynigir

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTH307

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio

Cod SOC

3234

Geiriau Allweddol

eiddo; parhaol; dros dro; argyfwng; llety; risg; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu