Hyrwyddo arferion diogel, moesegol a chynaliadwy ym maes eich cyfrifoldeb
URN: INSHOU16
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
29 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â sut rydych chi'n gweithio gyda chydweithwyr a chwsmeriaid mewn ffordd sy'n hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod eich gweithle, maes eich cyfrifoldeb a'ch arferion chi a'ch cydweithwyr yn ddiogel, yn foesegol ac yn gynaliadwy.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio gyda chydweithwyr a chwsmeriaid yn unol â'ch polisi a'ch deddfwriaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth sefydliadol
- rhoi gwybodaeth a chymorth perthnasol i alluogi cydweithwyr a chwsmeriaid i ddeall eu hawliau a'u cyfrifoldebau
- hyrwyddo arferion diogel, moesegol a chynaliadwy ym maes eich cyfrifoldeb yn unol â'ch gofynion sefydliadol
- datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith cynhyrchiol gyda chydweithwyr a chwsmeriaid
- asesu risgiau i'ch diogelwch a'ch diogeledd personol sy'n gysylltiedig â'ch gwaith a chymryd y camau gofynnol i leihau'r risgiau hyn
- cyflawni eich gwaith yn unol â chodau ymddygiad, deddfwriaeth, safonau moesegol ac arferion da cydnabyddedig
- cynnal cyfrinachedd a phreifatrwydd cwsmeriaid i gydymffurfio â safonau sefydliadol eich gwasanaeth i gwsmeriaid a'r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol
- nodi eich cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol a pholisi iechyd a diogelwch eich sefydliad
- defnyddio arbenigedd pan fo angen mewn perthynas ag iechyd a diogelwch
- cadarnhau bod system ar waith ar gyfer nodi peryglon ac asesu risgiau ym maes eich cyfrifoldeb a chymryd camau i liniaru'r rhain
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a gwahaniaethu
- sut i hyrwyddo arferion diogel, moesegol a chynaliadwy ym maes eich cyfrifoldeb
- y gofynion cyfreithiol a'r prosesau sefydliadol perthnasol sy'n ymwneud â diogelu data, cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth
- sut i weithio gyda chydweithwyr a chwsmeriaid i ddatrys gwrthdaro
- sut i gyfathrebu i sicrhau bod barn a'r hyn sydd orau gan gydweithwyr a chwsmeriaid yn cael eu hystyried
- y safonau moesegol neu'r codau ymarfer perthnasol sy'n ymwneud â maes eich gwaith
- y ddeddfwriaeth berthnasol a'r polisïau sefydliadol sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch
- sut i asesu a rheoli risg wrth gyflawni eich rôl
- maint a therfynau eich rôl a'ch cyfrifoldeb
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
06 Ion 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTH301
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio
Cod SOC
3234
Geiriau Allweddol
cydweithwyr; risg; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; amgylchedd; diogel; trefnu