Cynorthwyo tenantiaid a phreswylwyr i gynrychioli eu buddiannau yn y gymuned leol
URN: INSHOU15
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
29 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â sicrhau bod tenantiaid a phreswylwyr yn ymwybodol o'u hawliau yn y gymuned leol a'u cynorthwyo i gynrychioli eu buddiannau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cefnogi hawliau tenantiaid a phreswylwyr yn y gymuned leol yn unol â gofynion sefydliadol a chyfreithiol perthnasol
- cadarnhau bod tenantiaid a phreswylwyr yn ymwybodol o'u hawliau eu hunain a sut gellir eu cynrychioli
- nodi a rhoi mesurau ar waith i gynorthwyo'r holl denantiaid a phreswylwyr i gynrychioli eu buddiannau
- nodi ffynonellau cymorth a chynrychiolaeth ar gyfer tenantiaid a phreswylwyr
- cael cyngor os oes angen gan gydweithwyr a sefydliadau perthnasol ynghylch gofynion penodol tenantiaid a phreswylwyr
- rhoi cymorth sy'n seiliedig ar ofynion unigol tenantiaid a phreswylwyr
- rhoi'r wybodaeth berthnasol i'r tenantiaid a'r preswylwyr i'w helpu i gynrychioli eu buddiannau eu hunain
- cynnig cymorth i'r tenantiaid a'r preswylwyr a'u helpu i gynrychioli eu buddiannau eu hunain ac ymarfer eu hawliau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion sefydliadol a chyfreithiol perthnasol sy'n gysylltiedig â chefnogi hawliau tenantiaid a phreswylwyr
- terfynau eich cyfrifoldeb dros gefnogi hawliau tenantiaid a phreswylwyr
- y gwahanol ddulliau o gefnogi hawliau tenantiaid a phreswylwyr yn y gymuned
- y sefydliadau sy'n rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth ar hawliau tenantiaid a phreswylwyr
- y mathau o ddulliau cael gafael ar wybodaeth sy'n ymwneud â hawliau cyfreithiol a phersonol perthnasol
- y ffynonellau perthnasol sy'n rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth ar hawliau a sut gall tenantiaid a phreswylwyr gael mynediad atynt
- pan mae'n ofynnol i eiriolwr/cynrychiolydd roi cymorth a chyngor cyfreithiol i denantiaid a phreswylwyr
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
06 Ion 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTH226
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio
Cod SOC
3234
Geiriau Allweddol
tenantiaid a phreswylwyr; cydweithwyr; risg; diogelwch; cymuned leol; cymorth; agored i niwed; deddfwriaeth; dogfennaeth; ymholiadau; trefnu; hawliau; buddiannau