Cynorthwyo tenantiaid a phreswylwyr i gymryd rhan yn y gymuned leol

URN: INSHOU14
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo tenantiaid a phreswylwyr i gymryd rhan yn y gymuned leol. Mae'n ymwneud ag ymgynghori â nhw ynghylch eu hanghenion a'u problemau a sefydlu gweithgareddau i'w galluogi i gymryd rhan yn y gymuned leol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi i ba raddau ac ym mha ffordd y mae tenantiaid a phreswylwyr yn cymryd rhan yn y gymuned leol ar hyn o bryd a sut y gallwch gynorthwyo hyn
  2. trafod a nodi anghenion y tenantiaid a'r preswylwyr, a chyfrannu at sefydlu a chynnal gweithgareddau sy'n diwallu eu hanghenion
  3. nodi dulliau ymgynghori â thenantiaid a phreswylwyr i alluogi unigolion a grwpiau i gymryd rhan
  4. rhannu deilliannau ymgynghori i lywio'r broses o wneud penderfyniadau gyda'r sefydliadau perthnasol yn y gymuned leol
  5. cynnal cyfrinachedd a diogeledd y wybodaeth a gesglir yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ar ddiogelu data
  6. sefydlu a chynnal cysylltiad â chymdeithasau tenantiaid a phreswylwyr yn ogystal â rhwydweithiau eraill yn y gymuned leol
  7. cynorthwyo preswylwyr i ymgysylltu â chymdeithasau a rhwydweithiau presennol o denantiaid a phreswylwyr

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr ystod o sefydliadau a grwpiau sy'n gweithredu yn y gymuned leol
  2. sut i ymgysylltu â thenantiaid a phreswylwyr yn y gymuned leol a'u cynorthwyo
  3. y gwahanol ffyrdd y gall tenantiaid a phreswylwyr fod yn rhan o'r gymuned leol
  4. sut i gynorthwyo tenantiaid a phreswylwyr i chwarae rhan fwy amlwg yn y gymuned
  5. sut i sicrhau bod pawb yn cael yn cael cyfle cyfartal ac yn cael eu cynnwys wrth ymgysylltu â'r gymuned
  6. y gwahanol ddulliau ymgynghori â'r gymuned leol
  7. y rhesymau dros gyfrinachedd a therfynau cyfrinachedd yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ar gyfer diogelu data
  8. y cymdeithasau a'r rhwydweithiau tenantiaid a phreswylwyr perthnasol yn y gymuned leol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTH225

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio

Cod SOC

3234

Geiriau Allweddol

tenantiaid a phreswylwyr; cydweithwyr; risg; diogelwch; cymuned leol; cymorth; agored i niwed; deddfwriaeth; dogfennaeth; ymholiadau; trefnu; datblygu; sgiliau; grwpiau llywodraethu tai; rhwydweithiau