Trefnu cyfarfodydd gyda chwsmeriaid a rhanddeiliaid allanol
URN: INSHOU12
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
29 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â threfnu cyfarfodydd gyda chwsmeriaid a/neu randdeiliaid allanol naill ai'n unigol neu mewn grwpiau. Mae'n ymwneud â chytuno ar ddiben cyfarfodydd, eu cynnal mewn modd sy'n dderbyniol i gwsmeriaid, a chofnodi camau gweithredu a chanlyniadau y cytunwyd arnynt.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cytuno ar nodau'r cyfarfod gyda chwsmeriaid a/neu randdeiliaid allanol a pharatoi agenda
- cael y wybodaeth berthnasol i drefnu'r cyfarfod
- nodi a chadarnhau amser, dyddiad a lle ar gyfer y cyfarfod gyda'r cwsmeriaid perthnasol a/neu randdeiliaid allanol
- rhoi'r wybodaeth a'r dogfennau perthnasol i gyfranogwyr ar gyfer y cyfarfod yn unol â'ch gweithdrefnau sefydliadol
- cadarnhau bod gennych yr holl wybodaeth ofynnol sydd ar gael i gyflawni nodau'r cyfarfod
- esbonio nodau'r cyfarfod gyda'r rhai sydd yn y cyfarfod
- helpu'r rhai sydd yn y cyfarfod i ofyn cwestiynau a gofyn am eglurhad pellach lle bo angen
- cwblhau'r cyfarfod o fewn yr amserlen a nodwyd ar gyfer y cyfarfod
- cynnal y cyfarfod yn unol â gofynion deddfwriaethol sefydliadol a pherthnasol
- sicrhau bod canlyniadau'r cyfarfod yn cael eu cofnodi yn unol â gofynion deddfwriaethol sefydliadol a pherthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gwahanol fathau o gyfarfodydd, fformatau a gweithdrefnau ar gyfer eich sefydliad
- nodau'r cyfarfod a sut y dylid cytuno ar y rhain yn unol â'ch gweithdrefnau sefydliadol
- sut i drefnu cyfarfodydd a gwneud y defnydd gorau o amser ac adnoddau yn unol â'ch gweithdrefnau sefydliadol
- y wybodaeth sydd ei hangen i drefnu'r cyfarfodydd
- yr wybodaeth sy'n ofynnol gan y rhai sy'n mynd i'r cyfarfod
- y mathau o ofynion ar gyfer y rhai sy'n mynd i'r cyfarfod ynghylch mynediad a chyfleusterau yn y lleoliadau sydd ar gael a chymorth yn y cyfarfod a'i amseriad
- y gofynion sefydliadol a deddfwriaethol perthnasol
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- sut i gynnal cyfrinachedd yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol
- y mathau o rwystrau i gyfathrebu a sut gellir lleihau'r rhain
- y cofnodion y mae'n rhaid eu cynhyrchu a'u cadw o'r cyfarfod yn unol â'ch gweithdrefnau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
06 Ion 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTH223
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio
Cod SOC
3234
Geiriau Allweddol
cwsmeriaid; cydweithwyr; risg; diogelwch; diogeledd; cymorth; agored i niwed; gwasanaethau; cytundebau; deddfwriaeth; dogfennaeth; ymholiadau; llety; trefnu; eiddo; dehongli