Sicrhau diogelwch a diogeledd personol wrth weithio ar eich pen eich hun

URN: INSHOU11
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 29 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â sicrhau eich diogelwch a'ch diogeledd personol wrth weithio ar eich pen eich hun.  Mae'n ymwneud â nodi materion a chymryd y camau gofynnol i liniaru risgiau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu'r risgiau i'ch diogelwch a'ch diogeledd personol wrth weithio ar eich pen eich hun
  2. nodi'r risgiau gyda'ch rheolwr llinell a chymryd y camau ataliol gofynnol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  3. asesu'r risgiau i chi eich hun wrth baratoi ar gyfer ymweld â phob cartref
  4. a chymryd y camau ataliol gofynnol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  5. nodi'r risgiau sy'n codi o weithgareddau sy'n digwydd y tu allan i oriau gwaith arferol neu mewn amgylcheddau heb eu rheoli, gyda'ch rheolwr llinell
  6. cynnal cyfweliadau a sesiynau un i un mewn lleoliadau diogel a hygyrch yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  7. sicrhau bod eich cydweithwyr yn ymwybodol o'ch gweithgareddau a gynlluniwyd, eu lleoliad a'u hyd yn fras
  8. nodi sefyllfaoedd neu ddigwyddiadau a allai fod yn anodd a chynllunio sesiynau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  9. adolygu sefyllfaoedd yr ydych yn ansicr yn eu cylch gyda'ch rheolwr llinell a chytuno ar y camau gweithredu gofynnol
  10. sicrhau eich bod yn ymwybodol o weithdrefnau sefydliadol y cytunwyd arnynt a'u dilyn os bydd argyfyngau wrth weithio ar eich pen eich hun

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich polisïau sefydliadol mewn perthynas â diogelwch a diogeledd personol wrth weithio ar eich pen eich hun
  2. y ffynonellau gwybodaeth a chyngor ar y ffyrdd o gynnal a lleihau risg i'ch diogelwch a'ch diogeledd personol
  3. sut i gynllunio ar gyfer ymweliadau cartref a sefyllfaoedd lle gallai eich diogelwch a'ch diogeledd personol fod mewn perygl
  4. y mathau o fygythiadau i ddiogelwch a diogeledd personol a sut i gymryd y camau ataliol gofynnol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  5. y math o gamau proffesiynol y gellir eu cymryd i leihau neu atal bygythiadau i ddiogelwch a diogeledd personol
  6. pwysigrwydd cadarnhau bod eich cydweithwyr yn ymwybodol o'r gweithgareddau rydych wedi'u cynllunio, eu lleoliad a'u hyd yn fras
  7. y gwahanol ffyrdd o reoli gwrthdaro sy'n berthnasol i rôl eich swydd
  8. terfynau eich awdurdod a'ch cyfrifoldeb eich hun a sut i weithredu o fewn y rhain
  9. eich gweithdrefnau adrodd sefydliadol os bydd argyfyngau a digwyddiadau wrth weithio ar eich pen eich hun

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

06 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTH222

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio

Cod SOC

3234

Geiriau Allweddol

cwsmeriaid; cydweithwyr; risg; diogelwch; diogeledd; cymorth; agored i niwed; gwasanaethau; cytundebau; deddfwriaeth; dogfennaeth; ymholiadau; llety; trefnu; cynnal a chadw; atgyweirio; eiddo; wrth gefn