Ymateb i geisiadau cwsmeriaid am atgyweiriadau
URN: INSHOU10
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
29 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â derbyn ceisiadau am waith atgyweirio gan gwsmeriaid, wyneb yn wyneb a dros y ffôn, ac ymateb iddynt. Mae'n ymwneud ag awdurdodi neu gomisiynu gwaith yn uniongyrchol neu gyfeirio ceisiadau at gydweithwyr perthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cymryd a chofnodi manylion cwsmeriaid a'u ceisiadau am atgyweiriadau
- gwirio cyfrifoldebau cwsmeriaid mewn perthynas â chynnal a chadw eiddo a'u hatebolrwydd am gostau trwsio penodol
- ymateb i gwsmeriaid a phennu natur eu ceisiadau am atgyweiriadau
- darparu gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n bodloni safonau gwasanaeth i gwsmeriaid a pholisi cydraddoldeb ac amrywiaeth eich sefydliad
- nodi ai cyfrifoldeb eich sefydliad yw'r broblem ac a ddylai'r cwsmer dalu am y gwaith atgyweirio
- cyfeirio cwsmeriaid at gydweithwyr neu sefydliadau eraill pan na allwch fodloni eu gofynion
- trefnu ymweliadau archwilio, os oes angen, i gadarnhau problemau a gofnodwyd gan gwsmeriaid
- cynghori cwsmeriaid os nad yw eu ceisiadau o fewn cyfrifoldebau eich sefydliad
- trefnu i waith atgyweirio gael ei wneud gan gynnwys gwneud apwyntiadau gyda'r cwsmer
- dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer comisiynu gwaith mwy cymhleth neu waith sydd y tu hwnt i derfynau eich awdurdod
- cyfeirio problemau sydd y tu hwnt i'ch awdurdod neu gyfrifoldeb at gydweithwyr neu sefydliadau perthnasol
- blaenoriaethu atgyweiriadau brys neu rai a achosir gan fethiant gwasanaeth ynni
- cadw cofnodion o'ch penderfyniadau a'r camau gweithredu a gymerir yn unol â'ch gofynion sefydliadol
- ymgymryd â chamau sy'n cyd-fynd â'ch gofynion cyfreithiol sefydliadol a pherthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin â cheisiadau am atgyweiriadau
- cyfrifoldebau cwsmeriaid mewn perthynas â chyflwr yr eiddo gan gynnwys atebolrwydd cwsmeriaid am gostau penodol
- safonau sefydliadol eich gwasanaeth i gwsmeriaid a'r polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth sefydliadol
- pryd y dylid codi tâl ar gwsmeriaid am atgyweiriadau
- sut i ddelio â cheisiadau brys ac neu fethiannau gwasanaeth ynni
- yr angen i ddiogelu gwybodaeth gyfrinachol yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol
- y cynllun a'r termau a ddefnyddir i ddisgrifio nodweddion eiddo y mae eich sefydliad yn eu rheoli a'r mathau o ddiffygion a allai ddigwydd
- cyfrifoldebau eich sefydliad o dan gytundebau gwasanaeth gyda chwsmeriaid a deddfwriaeth a rheoliadau perthnasol
- y sefydliadau perthnasol sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau sy'n ymwneud â thai eich cwsmeriaid
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
06 Ion 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTH213
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio
Cod SOC
3234
Geiriau Allweddol
cwsmeriaid; cydweithwyr; cymorth; agored i niwed; gwasanaethau; cytundebau; deddfwriaeth; dogfennaeth; ymholiadau; llety; trefnu; cynnal a chadw; atgyweirio; eiddo; wrth gefn