Sefydlu cytundebau meddiannaeth
URN: INSHOU07
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
29 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â sefydlu cytundebau ar gyfer gwahanol fathau o feddiannaeth - tenantiaeth, trwydded a lesddeiliad*. Mae'n ymwneud â chynorthwyo cwsmeriaid i roi'r wybodaeth ofynnol a chwblhau dogfennau cytundeb yn unol ag egwyddorion, arferion a deddfwriaeth gyfredol, yn ogystal ag ymateb i ymholiadau gan gwsmeriaid.
*Nid yw cytundebau lesddeiliaid yn berthnasol yn yr Alban.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- penderfynu ar y math perthnasol o gytundeb meddiannaeth i'w sefydlu
- cadarnhau natur gyfreithiol berthnasol y cytundeb sy'n cael ei sefydlu a hawliau a chyfrifoldebau'r gwasanaeth tai a'r tenant, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- rhoi gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n bodloni eich safonau sefydliadol a'ch polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth
- nodi gofynion cwsmeriaid am wybodaeth a chymorth a'u cyfeirio at gydweithwyr neu sefydliadau perthnasol
- esbonio cynnwys a gofynion cytundebau a dogfennau perthnasol i gwsmeriaid, gan ymateb i ymholiadau a phryderon ynghylch y broses
- cadarnhau bod cwsmeriaid yn deall a bod y gwasanaethau sy'n cael eu darparu iddynt yn bodloni gofynion y cytundeb meddiannaeth
- esbonio gweithdrefnau apeliadau a chwynion eich sefydliad i'r cwsmer
- defnyddio'r dogfennau perthnasol ar gyfer y math o gytundeb meddiannaeth sy'n cael ei gynnig
- cwblhau holl ddogfennau'r cytundeb yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a chyfreithiol
- cwblhau, neu os yn unol â'ch gweithdrefnau sefydliadol, trosglwyddo dogfennau i gydweithwyr perthnasol i gael mynediad at systemau gwybodaeth rheoli eich sefydliad
- cyfeirio cwsmeriaid at gydweithwyr os na allwch roi rhagor o gymorth
- ymgymryd ag unrhyw gamau dilynol gofynnol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- safonau sefydliadol eich gwasanaeth i gwsmeriaid a'r polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth sefydliadol
- y ddeddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio â chytundebau meddiannaeth
- eich gweithdrefnau sefydliadol a'ch systemau sicrhau ansawdd mewn perthynas â chytundebau meddiannaeth
- yr ystod o gytundebau meddiannaeth a ddefnyddir
- sut i sefydlu'r cytundeb meddiannaeth perthnasol a chwblhau'r dogfennau gofynnol
- hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol y gwasanaeth tai a'r tenant mewn perthynas â'r cytundeb
- gweithdrefnau apelio a chwynion eich sefydliad
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer camau gweithredu dilynol
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio â phroblemau a nodwyd gan gwsmeriaid
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
06 Ion 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTH210
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio
Cod SOC
3234
Geiriau Allweddol
cwsmeriaid; cydweithwyr; cymorth; agored i niwed; gwybodaeth; cyfrinachedd data; cyfrinachedd cwsmeriaid; ar-lein; gwasanaethau; rhanddeiliaid; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; deddfwriaeth; dogfennaeth; ymholiadau; llety