Sefydlu gofynion tai cwsmeriaid
URN: INSHOU05
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
29 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â sefydlu gofynion tai cwsmeriaid yn ystod y cam cysylltu cychwynnol ac adolygu newidiadau yn eu hamgylchiadau. Mae'n ymwneud â sefydlu eu rheswm uniongyrchol dros ofyn am gefnogaeth, casglu a chofnodi gwybodaeth berthnasol, a'u cyfeirio at gydweithwyr perthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi rôl asesu a'i gyfraniad at fodloni gofynion tai cwsmeriaid
- rhoi gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n bodloni eich safonau sefydliadol a'ch polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth
- sefydlu rhesymau'r cwsmer dros gysylltu â'ch sefydliad a'r hyn y maent yn ei ddisgwyl gan eich gwasanaeth
- nodi gofynion tai cychwynnol a pharhaus y cwsmer
- casglu gwybodaeth gefndir berthnasol gan y cwsmer
- cynnal cyfrinachedd a phreifatrwydd cwsmeriaid i gydymffurfio â safonau sefydliadol eich gwasanaeth i gwsmeriaid a'r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol
- nodi a chytuno ar y cymorth tai y gall eich sefydliad ei roi i'r cwsmer
- cyfeirio cwsmeriaid at wasanaethau neu gymorth amgen os nad yw eich sefydliad yn gallu eu cynorthwyo
- esbonio'r camau nesaf yn y broses gymorth i'r cwsmer
- cofnodi gwybodaeth berthnasol i gydweithwyr a rhoi gwybodaeth iddynt
- adolygu unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau a chynnal asesiad pellach o ofynion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gwasanaethau y gall eich sefydliad eu darparu i ddarpar gwsmeriaid
- y mathau o ofynion tai y mae cwsmeriaid yn eu cyflwyno i'ch sefydliad
- y gwahaniaeth rhwng gofynion tai a mathau eraill o gymorth y mae'r cwsmer yn gofyn amdanynt
- pwysigrwydd gwrando ar gwsmeriaid, gofyn cwestiynau a chadarnhau dealltwriaeth y cwsmer
- y gwasanaethau neu'r cymorth amgen sydd ar gael a sut i gyfeirio cwsmeriaid atynt
- y ffynonellau cymorth tai sydd ar gael yn eich sefydliad a pha gydweithwyr i gyfeirio cwsmeriaid atynt
- y mathau o wybodaeth am gwsmeriaid sydd eu hangen i'ch cynorthwyo i fodloni eu gofynion tai
- safonau sefydliadol eich gwasanaeth i gwsmeriaid a'r polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth sefydliadol
- sut i gyfeirio cwsmeriaid at gydweithwyr mewnol
- sut mae'n rhaid i'ch sefydliad gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol ym maes diogelu data
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
06 Ion 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTH208
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio
Cod SOC
3234
Geiriau Allweddol
cwsmeriaid; cydweithwyr; cymorth; agored i niwed; gwybodaeth; cyfrinachedd data; cyfrinachedd cwsmeriaid; ar-lein; gwasanaethau; rhanddeiliaid