Defnyddio systemau TG sefydliadol
URN: INSHOU04
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â mewnbynnu gwybodaeth i'r systemau TG a ddefnyddir yn eich sefydliad. Mae'n ymwneud â dilyn gweithdrefnau mewnbynnu a storio cywir yn ogystal â chynnal cyfrinachedd cwsmeriaid i fodloni'r ddeddfwriaeth gyfredol ym maes Diogelu Data.
Gall systemau TG amrywio rhwng sefydliadau sydd â rhai systemau pwrpasol yn ogystal â systemau mwy generig ar draws sawl platfform.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r systemau TG a ddefnyddir yn eich sefydliad
- cyrchu, mewnbynnu a thrin data ar y systemau TG sefydliadol hynny yr ydych wedi eich awdurdodi i'w defnyddio
- dilyn gweithdrefnau sefydliadol sy'n cadarnhau cyfrinachedd a diogeledd y data y mae gennych fynediad ato
- gweithredu o fewn terfynau eich awdurdod wrth ddefnyddio eich systemau TG sefydliadol
- rhoi gwybod i'r cydweithiwr perthnasol am broblemau fel sydd wedi'i nodi yn eich gweithdrefnau TG sefydliadol
- nodi ffynonellau cymorth i gynnal eich gwybodaeth a'ch cymhwysedd wrth ddefnyddio eich systemau TG sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y mathau o systemau TG a ddefnyddir yn eich sefydliad a'u prif nodweddion
- y systemau TG sy'n benodol i'ch rôl a'ch sefydliad
- eich gofynion sefydliadol ar gyfer agor a chau systemau TG
- sut i fewnbynnu data a'i ddefnyddio
- pwysigrwydd cynnal cyfrinachedd cwsmeriaid a'r ffyrdd o wneud hyn
- sut mae'n rhaid i'ch sefydliad gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol ym maes diogelu data
- eich rôl eich hun wrth gynnal cyfrinachedd a diogeledd data eich sefydliad
- terfynau eich awdurdod eich hun i ddefnyddio systemau TG sefydliadol a defnyddio data sefydliadol
- y rheoliadau iechyd a diogelwch perthnasol mewn perthynas â defnyddio offer sgrîn arddangos
- sut i roi gwybod am broblemau TG yn eich sefydliad a sut i gael gafael ar gymorth
- sut i roi gwybod am achosion o dorri cyfrinachedd
- y ffynonellau cymorth i gynnal eich cymhwysedd eich hun i weithredu systemau TG sefydliadol
Cwmpas/ystod
- Systemau Rheoli Eiddo
- Systemau Cyfrifeg
- System Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid
- Systemau Marchnata
- Systemau Rheoli Adnoddau
- Systemau TG
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTH207
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio
Cod SOC
3234
Geiriau Allweddol
cwsmeriaid; cydweithwyr; gwybodaeth; TG; meddalwedd; cyfrinachedd data; cyfrinachedd cwsmeriaid; gweithgareddau hyrwyddo; arddangosfeydd; hysbysebu; marchnad; ar-lein; gwasanaethau; rhanddeiliaid