Hysbysebu a marchnata eiddo i gwsmeriaid
URN: INSHOU03
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â hysbysebu a marchnata eiddo i gwsmeriaid. Mae'n ymwneud â pharatoi gwybodaeth i'w defnyddio mewn deunyddiau marchnata gan gynnwys arddangosfeydd, hysbysebion a chyfryngau ar y we.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dod o hyd i'r holl wybodaeth berthnasol am eiddo a'i choladu
- cadarnhau bod y wybodaeth am yr eiddo yn gywir ac yn gyflawn
- dewis pa nodweddion o'r eiddo i'w farchnata i gwsmeriaid
- cael sêl bendith eich rheolwr llinell ynglŷn â'r wybodaeth derfynol a sut caiff ei chyflwyno
- hysbysebu'r eiddo i gwsmeriaid yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cysylltu â chyflenwyr gwasanaethau ar-lein a deunyddiau marchnata i gadarnhau cywirdeb y cynnwys terfynol
- nodi'r lleoliad perthnasol ar gyfer arddangos deunyddiau marchnata
- cadarnhau bod cynllun arddangosfeydd yn bodloni gofynion diogelwch eich sefydliad
- monitro arddangosfeydd yn ôl yr amserlenni y cytunwyd arnynt ac ailgyflenwi stociau yn ôl yr angen
- monitro cynnwys ar-lein i wneud yn siŵr bod ymholiadau'n cael eu hateb yn ogystal â diweddaru manylion yn ôl yr angen
- gwerthuso'r gweithgaredd marchnata ac argymell newidiadau ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y mathau o weithgareddau marchnata ar gyfer cwsmeriaid a ddefnyddir gan eich sefydliad
- y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer hysbysebu eiddo i gwsmeriaid
- terfynau eich awdurdod eich hun mewn gweithgareddau hysbysebu a marchnata
- sut i ddewis a choladu gwybodaeth am eiddo
- pa nodweddion i'w dewis am eiddo i'w defnyddio mewn hysbysebion a gwybodaeth a arddangosir
- eich gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cymeradwyo deunyddiau marchnata
- y mathau o gyflenwyr gwasanaethau ar-lein a'r deunyddiau marchnata a ddefnyddir gan eich sefydliad, a'ch gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cymeradwyo deunyddiau marchnata terfynol
- y mathau o arddangosfeydd a sut i'w gosod
- sut i gynnal deunyddiau arddangos i wneud yn siŵr eu bod yn bodloni gofynion sefydliadol
- sut i fonitro hysbysebion ar-lein ac ymateb i ymholiadau
- sut i fonitro lefelau stoc ac ailgyflenwi deunyddiau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTH206
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio
Cod SOC
3234
Geiriau Allweddol
cwsmeriaid; cydweithwyr; gweithgareddau hyrwyddo; arddangosfeydd; hysbysebu; marchnad; ar-lein; gwasanaethau; rhanddeiliaid