Hyrwyddo gwasanaethau a/neu gynhyrchion i'ch cwsmeriaid

URN: INSHOU02
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 29 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â hyrwyddo gwasanaethau i'ch cwsmeriaid. Mae'n ymwneud â nodi cyfleoedd perthnasol a hyrwyddo gwasanaethau eich sefydliad yn fewnol ac yn allanol.

Mae gwasanaethau neu gynhyrchion yn newid o hyd mewn sefydliadau er mwyn parhau i fodloni gofynion cynyddol cwsmeriaid. Trwy gynnig gwasanaethau neu gynhyrchion newydd neu well, gall eich sefydliad gynyddu bodlonrwydd cwsmeriaid. Mae llawer o sefydliadau yn hyrwyddo'r rhain i allu goroesi mewn byd cystadleuol. Fodd bynnag, mae'r un mor bwysig bod sefydliadau nad ydynt yn cystadlu ag eraill yn annog eu cwsmeriaid i roi cynnig ar wasanaethau neu gynhyrchion newydd.

Mae'r safon hon yn ymwneud â chael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau newydd a'u hyrwyddo i'ch cwsmeriaid. Mae angen gwneud cwsmeriaid yn ymwybodol o'r hyn sydd ar gael gan eich sefydliad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau bod gweithgaredd hyrwyddo sydd wedi'i gynllunio yn cyfrannu at amcanion sefydliadol perthnasol
  2. diweddaru a datblygu eich gwybodaeth am wasanaethau a/neu gynhyrchion eich sefydliad
  3. nodi'r gwasanaethau a/neu'r cynhyrchion perthnasol sy'n bodloni gofynion eich cwsmeriaid
  4. cadarnhau bod adnoddau ar gael i gynnal y gweithgaredd hyrwyddo
  5. nodi'r mathau o weithgareddau hyrwyddo sydd i'w cynnal gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol digidol
  6. hyrwyddo'ch gwasanaethau a/neu gynhyrchion ymhlith cwsmeriaid a nodwyd
  7. dewis y gweithgaredd hyrwyddo perthnasol i gyrraedd eich cwsmeriaid a nodwyd
  8. casglu a choladu'r wybodaeth a'r deunyddiau i'w defnyddio yn y gweithgaredd hyrwyddo
  9. dewis cyfryngau cymdeithasol, lleoliadau a/neu ddigwyddiadau sy'n darparu mecanweithiau i hyrwyddo eich gwasanaethau a/neu eich cynhyrchion
  10. cynllunio'r gweithgaredd hyrwyddo i wneud yn siŵr ei fod yn bodloni gofynion y cwsmer a'ch sefydliad
  11. hyrwyddo eich gwasanaethau a/neu eich cynhyrchion i fodloni eich safonau sefydliadol
  12. nodi cyfleoedd ar gyfer cynnig gwasanaethau a/neu gynhyrchion ychwanegol i'ch cwsmeriaid fydd yn gwella eu profiad fel cwsmeriaid
  13. rhoi gwybodaeth berthnasol i'ch cwsmeriaid i'w galluogi i benderfynu am y gwasanaethau a/neu'r cynhyrchion ychwanegol
  14. ymateb i unrhyw gwestiynau gan gwsmeriaid am y gwasanaethau a/neu'r cynhyrchion ychwanegol
  15. mynd ar drywydd datganiadau o ddiddordeb a cheisiadau am gymorth sy'n deillio o weithgaredd hyrwyddo
  16. cyfeirio eich cwsmer at gydweithwyr neu at ffynonellau gwybodaeth amgen os nad eich cyfrifoldeb chi yw'r gwasanaethau a/neu'r cynhyrchion ychwanegol
  17. cyfrannu at werthuso'r gweithgaredd hyrwyddo ac argymell newidiadau ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. rôl gweithgaredd hyrwyddo yn eich sefydliad a sut mae'n gweithredu
  2. manteision gweithgaredd hyrwyddo i'ch sefydliad
  3. sut bydd gwasanaethau a/neu gynhyrchion ychwanegol o fudd i'ch cwsmeriaid
  4. y cyfyngiadau ariannol ac adnoddau sy'n dylanwadu ar natur gweithgaredd hyrwyddo yn eich sefydliad a pha mor aml y caiff ei gynnal
  5. y prif fathau o weithgaredd hyrwyddo sydd ar gael i'ch sefydliad
  6. sut i gyflwyno gwasanaethau a/neu gynhyrchion ychwanegol i gwsmeriaid gan amlinellu eu manteision
  7. sut i roi gwybodaeth berthnasol i gwsmeriaid am wasanaethau a/neu gynhyrchion
  8. sut gellir defnyddio cyfryngau cymdeithasol digidol i hyrwyddo gwasanaethau a/neu gynhyrchion
  9. y rhanddeiliaid allweddol y mae eich sefydliad yn ymgysylltu â nhw
  10. y ffyrdd o ymgysylltu â grwpiau a chymunedau lleol i hyrwyddo gwasanaethau a/neu gynhyrchion
  11. sut i ddewis gwybodaeth a deunyddiau perthnasol ar gyfer gweithgareddau hyrwyddo
  12. pwy i'w gynnwys wrth gynllunio'r gweithgaredd hyrwyddo
  13. y ffyrdd o gyflwyno eich sefydliad trwy weithgaredd hyrwyddo
  14. y ffyrdd o ymgysylltu ag unigolion a grwpiau
  15. sut i gynllunio logisteg gweithgareddau hyrwyddo
  16. sut i fynd ar drywydd cysylltiadau gyda chwsmeriaid ar ôl gweithgareddau hyrwyddo
  17. sut i werthuso effeithiolrwydd gweithgareddau hyrwyddo, a phwy y dylech gysylltu â nhw i argymell newidiadau ar gyfer gweithgaredd yn y dyfodol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

06 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTH205

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio

Cod SOC

3234

Geiriau Allweddol

cwsmeriaid; cydweithwyr; gweithgareddau hyrwyddo; gwasanaethau; rhanddeiliaid