Defnyddio offer dadansoddol i werthuso perfformiad gweithgareddau marchnata digidol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd sy'n gysylltiedig â dadansoddi a gwerthuso. Mae'n ymwneud â defnyddio offer dadansoddol i werthuso perfformiad gweithgareddau marchnata digidol. Bydd eich dadansoddeg yn ymdrin â gweithgareddau ar-lein sy'n gysylltiedig â gwefannau a phlatfformau cyfryngau cymdeithasol. Mae'r manylion a gasglwch yn eich galluogi i asesu pa mor dda y mae eich gweithgareddau marchnata yn perfformio a'r camau gweithredu posibl i'w cymryd. Rydych yn gwybod sut mae'r data'n cael ei reoli, ei drin a'i ddiogelu yn y bôn. Yn seiliedig ar ddadansoddiad y canlyniadau, rydych hefyd yn adolygu ac yn addasu eich cynnwys digidol. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr marchnata digidol proffesiynol sy'n defnyddio offer dadansoddol i werthuso perfformiad gweithgareddau marchnata digidol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymchwilio a dewis yr ystod o offer dadansoddol a phlatfformau rheoli data (DMPs)
- cynnal dadansoddiad o'r sector a'r rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn i helpu i lywio eich strategaeth a'ch tactegau marchnata digidol
- olrhain, monitro a dadansoddi setiau data penodol sy'n cefnogi'r nodwedd marchnata digidol
- dadansoddi'r data i nodi tueddiadau a dealltwriaeth
- asesu sut mae eich gweithgareddau'n perfformio o'u cymharu â'r rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn
- nodi'r pwyntiau gweithredu sy'n deillio o ganlyniadau eich dadansoddiad
- gwneud argymhellion a nodi cyfleoedd ar draws yr holl weithgareddau marchnata digidol gan gynnwys cynulleidfaoedd, targedu, anfon negeseuon, sianeli, cynnwys a thaith cwsmeriaid
- adolygu ac addasu eich cynnwys digidol
- ehangu'r defnydd o offer a phlatfformau dadansoddol yn dibynnu ar eich anghenion a'ch mathau o ddata
- deall polisïau a gweithdrefnau diogelu data eich sefydliad
- dilyn y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol sy'n ymwneud â gweithgareddau marchnata
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr ymgyrch farchnata uniongyrchol
- polisïau a gweithdrefnau diogelu data eich sefydliad
- ystod yr offer dadansoddol a phlatfformau rheoli data (DMPs)
- sut i integreiddio platfform rheoli data i'r sianeli cyfryngau ar gyfer gweithgareddau marchnata
- y mathau o ddata
- ystod y gweithgareddau i'w dadansoddi, gan gynnwys cynulleidfaoedd, targedu, anfon negeseuon, sianeli, cynnwys a thaith cwsmeriaid
- ystod yr offer dadansoddeg marchnata
- egwyddorion dadansoddeg marchnata digidol
- y ddeddfwriaeth diogelu data
- sut i ddefnyddio data ar gyfer dadansoddi, targedu, mesur a gwella cynnwys
- y pwyntiau gweithredu sy'n deillio o ganlyniadau eich dadansoddiad
- pam mae'n bwysig adolygu ac addasu eich cynnwys digidol
- sut i ddiweddaru eich gwybodaeth am offer a phlatfformau dadansoddol
- y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol mewn perthynas â gweithgareddau marchnata
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- dadansoddol
- systematig
- trefnus
- cyfathrebu
- cydweithio
- datrys problemau
- gwneud synnwyr
- rhifedd
- defnyddio technoleg ddigidol
- arloesol
- gwerthuso
- cadw at derfynau amser