Rheoli a gwerthuso ymgyrchoedd marchnata digidol ac adrodd arnynt

URN: INSDGM010
Sectorau Busnes (Suites): Marchnata Digidol
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 03 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd sy'n gysylltiedig â dadansoddi a gwerthuso. Mae'n ymwneud â rheoli a gwerthuso ymgyrchoedd marchnata digidol ac adrodd arnynt. A chithau'n farchnatwr digidol, chi sy'n gyfrifol am greu, dylunio a chynnal ymgyrchoedd marchnata. Rydych yn llunio cynllun ar gyfer eich ymgyrchoedd, yn nodi'r nodau a'r amcanion, ac yn datblygu strategaethau i'w cefnogi. Rydych yn defnyddio'r gyfres o offer rheoli i ddiwallu anghenion eich cynulleidfa. Rydych yn defnyddio dull optimeiddio peiriannau chwilio, rhestrau chwilio â thâl neu noddedig i sicrhau bod eich cynulleidfa yn gweld eich cynhyrchion, eich gwasanaethau neu eich brandiau. Rydych yn deall ei bod yn bwysig profi a monitro eich ymgyrchoedd, gwerthuso eu perfformiad a dadansoddi'r canlyniadau. Rydych yn ymdrin â'ch ymgyrchoedd drwy ystod o nodweddion meddalwedd ymgyrchoedd marchnata. Mae gwerthuso ac asesu eich ymgyrchoedd marchnata yn barhaus yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod eich ymgyrchoedd yn parhau'n berthnasol ac yn cyrraedd cynulleidfa darged. Rydych yn gwybod sut i adrodd ar ganlyniadau a pherfformiad yr ymgyrchoedd marchnata. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr marchnata digidol proffesiynol sy'n ymwneud â rheoli a gwerthuso ymgyrchoedd marchnata digidol ac adrodd arnynt.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sefydlu'r amcanion ar gyfer ymgyrchoedd marchnata digidol
  2. nodi eich cynulleidfaoedd targed
  3. cadarnhau'r gyllideb ar gyfer eich ymgyrchoedd marchnata digidol
  4. nodi offer rheoli eich ymgyrchoedd marchnata
  5. cadarnhau'r cynnwys perthnasol ar gyfer eich ymgyrchoedd marchnata
  6. profi eich ymgyrchoedd marchnata a'u lansio
  7. dewis y feddalwedd berthnasol ar gyfer rheoli ymgyrchoedd marchnata
  8. dyrannu adnoddau ar gyfer rheoli eich ymgyrch(oedd) marchnata uniongyrchol
  9. pennu amseroedd a therfynau amser penodol ar gyfer gwahanol elfennau'r ymgyrchoedd
  10. cytuno ar amserlenni ar gyfer adolygiadau o ymgyrchoedd a gofynion ar gyfer diweddaru cynnwys
  11. monitro ymatebion ac adborth i ymgyrchoedd marchnata
  12. addasu'r dangosfwrdd ar gyfer monitro dadansoddeg ac olrhain cysylltiadau
  13. cymharu eich canlyniadau â nodau ac amcanion cychwynnol i nodi tueddiadau a gwneud addasiadau
  14. creu a monitro taith cwsmeriaid i gofnodi eu gweithredoedd neu eu penderfyniadau prynu
  15. alinio'r cynnwys ag anghenion a diddordebau cwsmeriaid
  16. adrodd ar ganlyniadau ymgyrchoedd marchnata cyffredinol, metrigau unigol, camau gweithredu perthnasol, casgliadau ac argymhellion
  17. adolygu'r gyllideb yn unol â chanlyniadau gwerthuso ac adroddiadau ar weithgareddau marchnata
  18. dilyn y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol sy'n ymwneud â gweithgareddau marchnata

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich nodau a'ch amcanion ar gyfer ymgyrchoedd marchnata uniongyrchol
  2. eich cynulleidfaoedd targed a'u demograffeg
  3. sut i ddyfeisio ymgyrchoedd marchnata digidol
  4. y gyllideb ar gyfer eich ymgyrchoedd marchnata 
  5. y dangosyddion perfformiad allweddol
  6. pam mae angen profi'r ymgyrchoedd marchnata digidol
  7. yr offer sydd eu hangen ar gyfer cynnwys eich ymgyrchoedd marchnata
  8. y feddalwedd rheoli marchnata uniongyrchol sy'n berthnasol i'r ymgyrch
  9. yr adnoddau sydd eu hangen i werthuso a rheoli ymatebion i'ch ymgyrchoedd marchnata
  10. offer cynllunio prosiectau
  11. pam mae'n bwysig adolygu'r dogfennau a'u diweddaru'n rheolaidd
  12. sut i goladu adborth a monitro ymatebion i ymgyrchoedd marchnata
  13. y dulliau olrhain aml-sianel ac arweiniol
  14. y rhybuddion amser real, neu'r rhybuddion gwerthu
  15. y dangosfyrddau ar gyfer monitro dadansoddeg ac olrhain cysylltiadau
  16. sut i werthuso perfformiad eich ymgyrchoedd marchnata digidol yn erbyn metrigau penodedig
  17. y camau gweithredu a'r gwersi a ddysgwyd o ddadansoddi ymgyrchoedd marchnata
  18. taith y cwsmeriaid
  19. sut i adolygu'r gyllideb a'i diweddaru
  20. y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol mewn perthynas â gweithgareddau marchnata

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  • dadansoddol
  • systematig
  • rhesymegol
  • trefnus
  • cyfathrebu
  • gwrando
  • adrodd straeon
  • cydweithio
  • datrys problemau
  • gwneud synnwyr
  • defnyddio technoleg ddigidol
  • creadigrwydd
  • arloesol
  • gwerthuso
  • cadw at derfynau amser

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

N/A

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Marchnata Digidol Gweithredol, Rheolwr Marchnata Digidol, Cynorthwyydd Marchnata Digidol, Cydlynydd Marchnata Digidol, Arweinydd Marchnata Digidol, Galwedigaethau Marchnata Digidol, Swyddog Marchnata Digidol, Arbenigwr Marchnata Digidol

Cod SOC

3554

Geiriau Allweddol

ymgyrchoedd marchnata digidol, cynhyrchion a gwasanaethau, marchnata digidol, strategaeth farchnata, cynnwys marchnata, platfformau cyfryngau cymdeithasol, meddalwedd marchnata, dadansoddi, dadansoddeg, platfformau digidol, optimeiddio peiriannau chwilio