Creu, rheoli ac addasu tudalennau ar y we drwy ddefnyddio systemau rheoli cynnwys (CMS)
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd sy'n ymwneud â thechnolegau, sianeli a phlatfformau digidol. Mae'n ymwneud â chreu, rheoli ac addasu tudalennau ar y we gyda systemau rheoli cynnwys (CMS). Mae'r wefan yn gwneud yn siŵr bod eich cynhyrchion, eich gwasanaethau neu eich brandiau yn weladwy ac wedi'u targedu at y gynulleidfa gywir. Gallwch greu, golygu, cyhoeddi a diweddaru cynnwys gwefan yn barhaus. Gallwch wella ei safle ar beiriannau chwilio trwy ddiweddaru'r cynnwys yn rheolaidd a'i gadw'n berthnasol ac yn gyfoes. Rydych chi'n gyfarwydd â gwahanol fathau o systemau rheoli cynnwys. Rydych chi'n deall platfformau amlgyfrwng a sut i gyrraedd cynifer o bobl â phosibl trwy ddolenni i blatfformau cyfryngau cymdeithasol. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol Marchnata Digidol sy'n ymwneud â chreu, rheoli ac addasu tudalennau gwe gyda systemau rheoli cynnwys (CMS).
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau nodweddion a chynnwys eich cynhyrchion, gwasanaethau neu frandiau
- ymchwilio i'r ystod o systemau rheoli cynnwys cyfredol (CMS)
- nodi'r math o feddalwedd systemau rheoli cynnwys, ei nodweddion a'i chyfyngiadau
- dewis dyluniad a thempledi tudalennau ar gyfer eich gwefan
- cynllunio strwythurau a lefelau ar gyfer llywio o gwmpas eich gwefan
- grwpio'r strwythurau gwe-lywio yn setiau cynradd, eilaidd a thrydyddol
- defnyddio'r offer gwe-lywio a'r opsiynau arddangos cynnwys
- datblygu tudalennau sy'n cynnwys prif bynciau ac is-bynciau
- creu cynnwys neu gyfres o ddogfennau ar gyfer tudalennau perthnasol eich gwefan
- gwneud yn siŵr bod yr elfennau y gellir eu clicio ac na ellir eu clicio i'w gweld yn glir
- cymhwyso canllawiau brand wrth ddatblygu cynllun a chynnwys gwefan
- labelu eiconau, delweddau ac elfennau eraill yn unol â hynny
- safoni'r holl wrthrychau graffig yn y maint sy'n cyd-fynd â gwelededd eich tudalennau
- mireinio, diweddaru ac amserlennu cynnwys tudalennau gwe yn rheolaidd
- dilyn y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol sy'n ymwneud â gweithgareddau marchnata
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cynhyrchion, eich gwasanaethau neu eich brandiau a'u nodweddion
- yr ystod o systemau rheoli cynnwys cyfredol (CMS)
- egwyddorion ymchwil i nodi'r math o feddalwedd CMS i'w defnyddio
- nodweddion a chyfyngiadau'r feddalwedd CMS a ddewisir
- cynllun a thempledi eich gwefan
- y setiau cynradd, eilaidd a thrydyddol ar gyfer strwythurau gwe-lywio
- yr offer gwe-lywio a'r opsiynau arddangos cynnwys
- templedi'r wefan
- y pynciau a'r is-bynciau ar gyfer tudalennau eich gwefan
- rhyngwyneb y dudalen we a'r opsiynau o ran maint
- elfennau cynnwys tudalennau eich gwefan
- y gwahaniaeth rhwng elfennau y gellir eu clicio ac elfennau nad oes modd eu clicio
- sut i labelu eiconau, delweddau ac elfennau eraill
- sut ddylai'r dyluniad gyd-fynd â chysondeb eich cynhyrchion, eich gwasanaethau neu eich brandiau
- pam mae'n bwysig mireinio, diweddaru ac amserlennu cynnwys yn rheolaidd
- y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol mewn perthynas â gweithgareddau marchnata
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- dadansoddol
- systematig
- trefnus
- cyfathrebu
- adrodd straeon
- cydweithio
- datrys problemau
- gwneud synnwyr
- technoleg ddigidol
- creadigrwydd
- gwerthuso
- arloesol