Rheoli rhyngwynebau a phlatfformau digidol yn unol ag amcanion ymgyrch farchnata uniongyrchol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd sy'n ymwneud â thechnolegau, sianeli a phlatfformau digidol. Mae'n ymwneud â rheoli rhyngwynebau a phlatfformau digidol yn unol ag amcanion ymgyrch farchnata uniongyrchol. Rydych yn creu'r cynnwys a'i dargedu at y gynulleidfa berthnasol. Gallwch ddefnyddio nifer o blatfformau ac offer ar-lein integredig i ryngweithio â'ch cynulleidfa. A chithau'n farchnatwr digidol, rydych yn croesawu'r byd o dechnolegau sy'n newid yn gyflym a bob amser yn adolygu sut y defnyddir rhyngwynebau a phlatfformau newydd. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr marchnata digidol proffesiynol sy'n ymwneud â rheoli rhyngwynebau a phlatfformau digidol yn unol ag amcanion ymgyrch farchnata uniongyrchol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau nodau ac amcanion marchnata eich sefydliad
- diffinio eich cynulleidfaoedd targed a'u disgwyliadau
- sefydlu perthynas rhwng cwsmeriaid a chynhyrchion a gwasanaethau
- datblygu eich strategaeth marchnata digidol yn erbyn nodau ac amcanion eich sefydliad a disgwyliadau eich cynulleidfaoedd targed
- coladu rhyngwynebau a phlatfformau digidol sy'n cefnogi eich nodau, amcanion a disgwyliadau'r cynulleidfaoedd a dargedir
- nodi dibenion platfformau marchnata a meddalwedd awtomeiddio yn erbyn yr amcanion
- nodi'r ymgyrchoedd marchnata perthnasol
- dadansoddi'r offer, yr opsiynau a'r nodweddion o fewn y platfformau a'r meddalwedd a ddewiswyd
- creu'r cynnwys ar gyfer eich cynulleidfaoedd targed yn y fformatau perthnasol
- cefnogi cynnwys fideo a graffig gyda theitlau a disgrifiadau testun ychwanegol
- cynnal ymchwil drwy ddefnyddio geiriau allweddol i wneud y defnydd gorau posibl o beiriannau chwilio (SEO) i nodi'r geiriau allweddol y mae eich cynulleidfaoedd targed yn eu defnyddio
- optimeiddio eich cynnwys ar-lein gyda geiriau allweddol perthnasol i gynyddu nifer y darpar ddefnyddwyr a'r rhyngweithio â'ch cynulleidfaoedd targed
- casglu gwybodaeth am eich cwsmeriaid newydd i gynyddu eu teyrngarwch
- adolygu eich cynnwys a gyhoeddwyd yn flaenorol a'i ddiweddaru
- gwerthuso eich strategaeth marchnata digidol a gwneud newidiadau, lle bo angen
- ceisio cyfnewid syniadau, awgrymiadau ac arweiniad ynghylch rhyngwynebau a phlatfformau digidol
- chwilio am ddarnau newydd o feddalwedd a phlatfformau marchnata
- dilyn y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol sy'n ymwneud â gweithgareddau marchnata
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau ac amcanion marchnata eich sefydliad
- eich cynulleidfaoedd targed a'u disgwyliadau
- y berthynas rhwng cwsmeriaid a chynhyrchion a gwasanaethau
- eich strategaeth marchnata digidol yn erbyn nodau ac amcanion y sefydliad a thargedu disgwyliadau cynulleidfaoedd
- yr ystod o ymgyrchoedd marchnata digidol
- sut i reoli ymgyrchoedd ar fwy nag un sianel
- y rhyngwynebau a'r platfformau digidol i gefnogi a rheoli eich strategaeth marchnata digidol
- y mathau o feddalwedd marchnata, gan gynnwys meddalwedd fewnol ac awtomeiddio
- dibenion platfformau a meddalwedd marchnata
- yr offer, yr opsiynau a'r nodweddion o fewn y platfformau a'r meddalwedd a ddewiswyd
- y cynnwys marchnata a'r amrywiaeth o fformatau y gellir eu creu
- sut i ehangu eich cynnwys gyda theitlau, disgrifiadau, tagiau, hyperddolenni ac elfennau perthnasol eraill
- at ba ddiben y defnyddir optimeiddio peiriannau chwilio (SEO)
- sut i gynnal ymchwil gyda geiriau allweddol gydag optimeiddio peiriannau chwilio (SEO)
- sut i gynyddu nifer y darpar ddefnyddwyr a'r rhyngweithio â'ch cynulleidfaoedd targed
- sut i gynyddu'r siawns o ymddangos ar frig Tudalennau Canlyniadau'r Peiriannau Chwilio (SERPs)
- y meta ddisgrifiad am eich dolenni sy'n ymddangos ar SERPs
- y darpar defnyddwyr sy'n dod i'r amlwg drwy ryngweithio â'ch cynulleidfaoedd targed
- y tudalennau glanio sy'n troi ymweliadau dienw yn ddarpar ddefnyddwyr a botymau galw i weithredu (CTA)
- y mathau o wybodaeth am eich cwsmeriaid newydd
- y dulliau darparu cymorth i gwsmeriaid
- pam mae'n bwysig adolygu cynnwys a gyhoeddwyd yn flaenorol a'i ddiweddaru
- sut i werthuso eich strategaeth farchnata yn erbyn nodau ac amcanion
- sut i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddarnau newydd o feddalwedd a phlatfformau marchnata
- y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol mewn perthynas â gweithgareddau marchnata
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- dadansoddol
- systematig
- trefnus
- gonestrwydd
- cyfathrebu
- brwdfrydedd
- cydweithio
- greddfol
- datrys problemau
- creadigol
- gwneud synnwyr
- technoleg ddigidol
- arloesol
- gwerthuso
- cadw at derfynau amser