Hyrwyddo cynnwys drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol, systemau rheoli perthynas â chwsmeriaid (CRM) a phlatfformau digidol
URN: INSDGM006
Sectorau Busnes (Suites): Marchnata Digidol
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd sy'n ymwneud â datblygu cynnwys, adrodd straeon a dylanwadu. Mae'n ymwneud â hyrwyddo cynnwys drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol, systemau rheoli perthynas â chwsmeriaid (CRM) a phlatfformau digidol. Rydych yn creu cynnwys sy'n berthnasol i'ch cynulleidfa darged, yn ehangu eich cyrhaeddiad ac yn ymgysylltu drwy gyfryngau â thâl, dylanwadwyr ac yn defnyddio optimeiddio peiriannau chwilio (SEO) i gyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr marchnata digidol proffesiynol sy'n ymwneud â hyrwyddo cynnwys drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol, systemau CRM a phlatfformau digidol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi eich cynulleidfaoedd targed
- datblygu'r ymgyrchoedd a'r offer hyrwyddo perthnasol ar gyfer eich cynulleidfaoedd targed
- creu'r cynnwys perthnasol ar gyfer eich ymgyrchoedd
- defnyddio cyfryngau sy'n eiddo, cyfryngau a enillwyd neu gyfryngau â thâl i hyrwyddo eich cynnwys
- defnyddio optimeiddio peiriannau chwilio (SEO) er mwyn cyrraedd ac ymgysylltu'n ehangach â'ch cynulleidfaoedd targed
- nodi dylanwadwyr perthnasol ac ymgysylltu â nhw
- monitro ymgysylltiad ac adolygu eich ymgyrchoedd, dulliau hyrwyddo, defnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol a gwneud newidiadau perthnasol
- diweddaru eich cynnwys yn rheolaidd
- dilyn y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol sy'n ymwneud â gweithgareddau marchnata
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cynulleidfaoedd targed yn unol â dulliau segmentu'r farchnad
- yr ymgyrchoedd perthnasol ar gyfer hyrwyddo eich cynnwys a'r gwahanol negeseuon ar gyfer eich cynulleidfaoedd
- sut i ysgrifennu copi ar gyfer cynulleidfaoedd a sianelau amrywiol
- cymhwyso fideo, sain, podlediadau, delweddau a straeon cyfryngau cymdeithasol
- ystod y sianeli cyfryngau cymdeithasol
- y systemau rheoli cysylltiadau â chwsmeriaid (CRM)
- pam mae angen i chi ddiweddaru eich cynnwys yn rheolaidd
- yr ystod o weithgareddau rhyngweithio ar gyfer ymgysylltu'n ehangach ar gyfryngau cymdeithasol
- sut i ddefnyddio marchnata dylanwadwr yn rhan o'ch proses creu cynnwys
- gwahaniaethau, manteision ac anfanteision cyfryngau sy'n eiddo, cyfryngau a enillwyd neu gyfryngau â thâl
- peryglon ehangach torri hawlfraint, difenwi, mynd yn groes i'r Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA)
- y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol mewn perthynas â gweithgareddau marchnata
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- dadansoddol
- systematig
- trefnus
- cyfathrebu
- adrodd straeon
- gwerthu
- brwdfrydig
- cydweithio
- datrys problemau
- gwneud synnwyr
- technoleg ddigidol
- creadigrwydd
- arloesol
- gwerthuso
- cadw at derfynau amser
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
N/A
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Marchnata Digidol Gweithredol, Rheolwr Marchnata Digidol, Cynorthwyydd Marchnata Digidol, Cydlynydd Marchnata Digidol, Arweinydd Marchnata Digidol, Galwedigaethau Marchnata Digidol, Swyddog Marchnata Digidol, Arbenigwr Marchnata Digidol
Cod SOC
3554
Geiriau Allweddol
cynhyrchion a gwasanaethau, marchnata digidol, deunyddiau marchnata, cynnwys marchnata, sianeli cyfryngau cymdeithasol, cyfryngau digidol, ymgyrchoedd hysbysebu, optimeiddio peiriannau chwilio, rheoli perthnasoedd â chwsmeriaid, dylanwadwyr