Cynnal presenoldeb brand ar-lein a’i hyrwyddo
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd sy'n gysylltiedig â hyrwyddo cynnwys marchnata digidol, Mae'n cynnwys cynnal presenoldeb brand ar-lein a'i hyrwyddo. Mae eich brand yn cynrychioli eich sefydliad. Rydych yn adeiladu ac yn cynnal y strategaeth ddigidol i gynnal teyrngarwch tuag at y brand gan sylfaen eich cwsmeriaid. Mae eich presenoldeb ar-lein yn cynnwys elfennau gweledol a chopi sy'n adlewyrchu eich hunaniaeth a gwerthoedd eich brand. Rydych hefyd yn cynnal yr holl ddeunydd marchnata digidol, yn rheoli sianeli cyfryngau ar-lein ac yn monitro cydymffurfiaeth reoliadol, cyfreithiol a moesegol. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr marchnata digidol proffesiynol sy'n ymwneud â chynnal presenoldeb brand ar-lein a'i hyrwyddo.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal presenoldeb digidol eich sefydliad a'i hyrwyddo
- diffinio strategaeth ddigidol eich brand ar gyfer eich cynulleidfaoedd targed
- gwneud yn siŵr bod eich cynnwys marchnata uniongyrchol yn unigryw
- datblygu cynnwys digidol ar gyfer eich brand
datblygu'r cynnwys marchnata digidol perthnasol a diweddaru'r cynnwys
nodi sianeli hyrwyddo ar gyfer eich brand a'u cynnal
- gwneud yn siŵr bod eich gwefan yn adlewyrchu hunaniaeth a gwerthoedd eich brand
- ymgysylltu â dylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo eich brand
- dilyn y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol sy'n ymwneud â gweithgareddau marchnata
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gwerthoedd, neges allweddol a datganiad cenhadaeth eich sefydliad
- y strategaeth brand digidol
- y cynulleidfaoedd targed ar gyfer eich brand
- hunaniaeth eich brand a'i bwysigrwydd yn y farchnad
- y cynnwys gweledol ar gyfer eich brand
- y berthynas rhwng platfformau digidol a'u rhyngwyneb
- goblygiadau ehangach torri hawlfraint, difenwi, mynd yn groes i'r Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA)
- pwysigrwydd sicrhau hunaniaeth unigryw eich brand ac nad yw'n torri nac yn copïo brandiau eraill sy'n bodoli eisoes
- egwyddorion creu cynnwys marchnata digidol
- pam mae angen cadw'r cynnwys digidol yn gyfredol a'i ddiweddaru'n rheolaidd
- y sianeli cyfryngau digidol ar gyfer hyrwyddo eich brand
- perfformiad eich brand a sut i'w optimeiddio ar gyfryngau cymdeithasol neu wefan
- sut i ymgysylltu â dylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol
- pam mae'n bwysig adolygu a diweddaru eich presenoldeb digidol yn rheolaidd
- y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol mewn perthynas â gweithgareddau marchnata
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- dadansoddol
- systematig
- trefnus
- gonestrwydd
- cyfathrebu
- adrodd straeon
- cydweithio
- datrys problemau
- gwneud synnwyr
- technoleg ddigidol
- creadigrwydd
- arloesol
- gwerthuso
- cadw at derfynau amser