Ysgrifennu a chreu cynnwys ar gyfer mwy nag un platfform digidol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd sy'n ymwneud â datblygu cynnwys, adrodd straeon a dylanwadu ar gyfer marchnata digidol. Mae'n cynnwys ysgrifennu a chreu cynnwys ar gyfer mwy nag un platfform digidol. Mae creu cynnwys digidol yn rhan hanfodol o ymgyrchoedd marchnata digidol. Gall y cynnwys fod mewn gwahanol ffurfiau gan gynnwys podlediadau fideo, blogiau, hysbysebion ac e-farchnata, astudiaethau achos, cylchlythyrau, hysbysebu, ymgyrchoedd hyrwyddo, neu'n gynnwys ar gyfer eich gwefan. Marchnata cynnwys yw un o'r technegau hyrwyddo mwyaf effeithiol sy'n denu eich darpar ddefnyddwyr ac sy'n cynyddu rhyngweithio ar-lein gyda chynulleidfa darged. Rydych yn deall manteision marchnata cynnwys ac yn cymhwyso'r rhain i hyrwyddo eich cynhyrchion, eich gwasanaethau neu eich brandiau. Yn seiliedig ar ddadansoddiad berfformiad eich cynnwys, rydych yn gwerthuso ei lwyddiant ac yn gwneud addasiadau perthnasol, lle bo angen i wneud yn siŵr eich bod yn cadw eich cynulleidfa. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr marchnata digidol proffesiynol sy'n ymwneud ag ysgrifennu a chreu cynnwys ar gyfer mwy nag un platfform.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal ymchwil marchnata i nodi diddordebau, anghenion, ymddygiad a chymhellion eich cwsmeriaid
- diffinio eich cynulleidfaoedd targed yn unol â dulliau segmentu'r farchnad
- nodi mantais gystadleuol neu bwynt gwerthu unigryw eich sefydliad (USP)
- creu cynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd targed mewn fformatau testun a gweledol
- datblygu elfennau animeiddio, graffig neu fideo ychwanegol i ehangu eich cynnwys
- gwneud yn siŵr bod eich cynnwys yn unigryw er mwyn rhoi cymaint o sylw â phosibl i'ch cynulleidfaoedd targed
- cyhoeddi cynnwys sy'n rhoi hwb i'ch gradd optimeiddio peiriannau chwilio (SEO)
- cyhoeddi a hyrwyddo eich cynnwys ar eich gwefan, a phlatfformau digidol eraill a gwneud yn siŵr eu bod yn gysylltiedig
- defnyddio'r ystod o weithgareddau rhyngweithiol i gysylltu ac ymgysylltu â'ch cynulleidfaoedd targed
- nodi gwelliannau i'ch cynnwys ar-lein a gwneud newidiadau, lle bo angen
- dilyn y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol sy'n ymwneud â gweithgareddau marchnata
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- egwyddorion marchnata ymchwil a segmentu
- diddordebau, anghenion, ymddygiadau a chymhellion eich cwsmeriaid
- ystyr mantais gystadleuol neu bwynt gwerthu unigryw (USP)
- sut i roi cymaint o sylw â phosibl i'ch cynulleidfaoedd targed
- y technegau cynllunio cynnwys yn unol ag ymchwil marchnata a dulliau segmentu
- ystod y fformatau a'r arddulliau ar gyfer eich cynnwys
- rôl dylunio graffig a'i chysyniadau craidd
- y berthynas rhwng platfformau a'u rhyngwyneb
- y sgiliau ysgrifennu a golygu copi ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol ac ar fwy nag un platfform digidol
- peryglon ehangach torri hawlfraint, difenwi, mynd yn groes i'r Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA)
- ystyriaethau fideo, sain, podledu, delweddau a straeon cyfryngau cymdeithasol
- sut i greu disgrifiadau perthnasol sy'n canolbwyntio ar gynnwys ar gyfer unrhyw gynhyrchion, gwasanaethau neu frandiau
- amrywiaeth yr elfennau animeiddio, graffig neu fideo ar gyfer eich cynnwys
- yr amrywiaeth o gysylltiadau i roi hwb i'ch gradd optimeiddio peiriannau chwilio (SEO)
- pwysigrwydd optimeiddio peiriannau chwilio (SEO)
- ystod y sianeli cyfryngau cymdeithasol neu blatfformau digidol eraill ar gyfer cyhoeddi a hyrwyddo eich cynnwys
- elfennau a nodweddion eich cynnwys a sut i brofi a ydyn nhw'n gweithio
- y gweithgareddau rhyngweithiol i gysylltu ac ymgysylltu â'ch cynulleidfaoedd targed
- sut i optimeiddio perfformiad sianelau allweddol
- y dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs)
- y technegau monitro ar gyfer marchnata perfformiad cynnwys
- y platfformau dadansoddol a systemau rheoli cysylltiadau cwsmeriaid (CRM)
- sut i adrodd ar nifer y darpar ddefnyddwyr a'u hansawdd
- pam mae angen adolygu eich cynnwys yn rheolaidd
- y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol mewn perthynas â gweithgareddau marchnata
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- dadansoddol
- trefnus
- cyfathrebu
- adrodd straeon
- cydweithio
- datrys problemau
- gwneud synnwyr
- technoleg ddigidol
- creadigrwydd
- arloesol
- cadw at derfynau amser