Cynllunio a chyflwyno ymgyrchoedd marchnata digidol ar gyfer eich sefydliad
URN: INSDGM002
Sectorau Busnes (Suites): Marchnata Digidol
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
03 Maw 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd marchnata digidol sy'n gysylltiedig ag egwyddorion a damcaniaethau marchnata digidol. Mae'n ymwneud â chreu cynnwys, cynllunio a chyflwyno ymgyrchoedd marchnata digidol mewn perthynas â strategaeth farchnata. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr marchnata digidol proffesiynol sy'n ymwneud â chynllunio a chyflwyno ymgyrchoedd marchnata digidol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r targedau ar gyfer yr ymgyrchoedd marchnata digidol
- nodi eich cynulleidfaoedd targed a'r math o ymgyrch i'w gweithredu
- nodi dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs) ar gyfer ymgyrchoedd marchnata a chytuno arnynt
- adolygu ymgyrchoedd marchnata digidol blaenorol er mwyn cymharu ac edrych ar y gwersi a ddysgwyd
- casglu ymgyrchoedd marchnata digidol y rhai syn cystadlu yn eich erbyn a'u dadansoddi
- diffinio'r neges ar gyfer eich ymgyrch marchnata digidol a chynllunio'r broses o greu cynnwys
- cynllunio ymgyrchoedd marchnata yn unol â'r gyllideb y cytunwyd arni ac amserlenni
- nodi cyfrwng, sianeli perthnasol neu blatfformau ar gyfer cynnal yr ymgyrchoedd
- datblygu ymgyrchoedd marchnata digidol integredig o'r cam creu i'r cam gweithredu
- defnyddio dulliau mesur perfformiad neu chwilio i nodi tueddiadau a dealltwriaeth
- sicrhau bod ymgyrchoedd marchnata digidol mor effeithiol â phosibl
- dadansoddi'r gymhareb enillion ar fuddsoddiad (ROI)
- mesur a gwerthuso perfformiad ymgyrchoedd marchnata digidol yn erbyn amcanion penodol
- adrodd ar effaith ymgyrchoedd marchnata digidol a nodi'r meysydd i'w gwella
- adolygu amcanion ymgyrchoedd marchnata digidol yn seiliedig ar adroddiadau blaenorol
- cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol sy'n ymwneud â chynnal ymgyrchoedd marchnata digidol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- strategaeth farchnata eich sefydliad
- y cynulleidfaoedd targed
- ystod y cynhyrchion neu wasanaethau a gynigir neu sydd ar gael yn eich sefydliad
- sut i osod targedau ar gyfer ymgyrchoedd marchnata
- y mathau o ymgyrchoedd marchnata
- y dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs) ac enillion ar fuddsoddiad (ROI) ar gyfer ymgyrchoedd marchnata
- y cyllidebau a'r amserlenni ar gyfer ymgyrchoedd marchnata digidol
- ymgyrchoedd marchnata blaenorol eich sefydliad
- ymgyrchoedd marchnata'r rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn
- sut i ddiffinio'r neges a datblygu'r cynnwys ar gyfer ymgyrch farchnata
- sut i ddatblygu'r ymgyrch o'r cam creu i'r cam gweithredu
- ystod y cyfryngau cymdeithasol, sianeli a phlatfformau ar gyfer cynnal yr ymgyrchoedd
- y ffactorau strategol ar gyfer dewis y cyfrwng cymdeithasol, y sianel neu'r platfform perthnasol ar gyfer cynnal yr ymgyrch
- sut i sicrhau bod eich ymgyrchoedd yn ymgysylltu, yn hysbysu ac yn ysgogi'r cynulleidfaoedd targed
- y rheolaethau cost a bennir ymlaen llaw a'r cyfraddau ymateb a dargedir
- y tueddiadau sy'n dod i'r amlwg o ganlyniad i ddadansoddi ymgyrchoedd yn erbyn amcanion penodol
- y dulliau optimeiddio gwariant a pherfformiad ymgyrchoedd marchnata digidol
- yr offer a'r dulliau ar gyfer monitro a mesur effaith ymgyrchoedd marchnata digidol
- pwysigrwydd adolygu perfformiad yr ymgyrchoedd marchnata yn rheolaidd
- y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol sy'n ymwneud â chynnal ymgyrchoedd marchnata digidol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- dadansoddol
- systematig
- rhesymegol
- trefnus
- cyfathrebu
- cydweithio
- datrys problemau
- gwneud synnwyr
- arloesol
- gwerthuso
- cadw at derfynau amser
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
N/A
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Marchnata Digidol Gweithredol, Rheolwr Marchnata Digidol, Cynorthwyydd Marchnata Digidol, Cydlynydd Marchnata Digidol, Arweinydd Marchnata Digidol, Galwedigaethau Marchnata Digidol, Swyddog Marchnata Digidol, Arbenigwr Marchnata Digidol
Cod SOC
3554
Geiriau Allweddol
cynhyrchion a gwasanaethau, marchnata digidol, ymgyrchoedd marchnata, ymgyrchoedd ebost, ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol, ymgyrchoedd hysbysebu arddangos, ymgyrchoedd tymhorol, ymgyrchoedd cynhyrchion penodol, ymwybyddiaeth o frand, ail-frandio, B2B