Datblygu strategaethau marchnata digidol a’u gweithredu

URN: INSDGM001
Sectorau Busnes (Suites): Marchnata Digidol
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 03 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd marchnata digidol sy'n gysylltiedig ag egwyddorion a damcaniaethau marchnata digidol. Mae'n ymwneud â datblygu strategaethau marchnata digidol a'u gweithredu. Gall y rhain fod yn berthnasol i amrywiaeth eang o sefydliadau: er enghraifft, mentrau cymdeithasol, elusennau, busnesau bach, cwmnïau cyhoeddus neu breifat. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr Marchnata Digidol proffesiynol sy'n ymwneud â datblygu strategaethau marchnata digidol ar lefel oruchwylio neu reoli, a'u gweithredu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu ystod eich cynlluniau a'ch gweithgareddau marchnata digidol cyfredol
  2. cynnal archwiliadau ar draws eich gweithgareddau marchnata digidol i nodi cyfleoedd sy'n bodloni nodau a gwerthoedd y sefydliad
  3. creu'r metrigau sylfaenol i gofnodi deilliannau a nodau strategaethau marchnata digidol
  4. cynnal dadansoddiad o'r rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn a'r sector i lywio strategaethau a thactegau marchnata digidol
  5. dylunio a gweithredu prosesau mewnol ac allanol i gyflwyno strategaethau marchnata a chynnwys digidol
  6. cynorthwyo cydweithwyr neu dimau i baratoi strategaethau marchnata a'u gweithredu
  7. cydweithio â chydweithwyr neu dimau i alinio strategaethau marchnata â phrosesau, nodau a dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs)
  8. cydlynu'r gwaith o greu deunydd marchnata cynnwys digidol
  9. cydweithio â dylunwyr cynnwys digidol sy'n ymwneud â chynhyrchu cynnwys marchnata
  10. rheoli gweithgareddau marchnata sy'n gysylltiedig â disgwyliadau cwsmeriaid, rheoli gwefannau a sianeli cyfryngau cymdeithasol o ddydd i ddydd
  11. monitro traffig y wefan a'i gynyddu drwy'r gweithgareddau marchnata perthnasol
  12. rheoli pob sianel caffael traffig a phlatfformau cymdeithasol
  13. casglu gwybodaeth am draffig o ymweliadau dienw â gwefannau a'u troi'n ddefnyddwyr y gellir eu hadnabod
  14. cydweithredu â chydweithwyr neu dimau perthnasol i'w galluogi i gymryd camau ar ddarpar ddefnyddwyr a gwneud y mwyaf o broffidioldeb brand neu ymwybyddiaeth ohono
  15. dadansoddi data ac adrodd arno i werthuso strategaeth marchnata digidol ar draws y busnes
  16. dadansoddi'r gymhareb enillion ar fuddsoddiad (ROI)
  17. rheoli adroddiadau am berfformiad marchnata digidol a mesur dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs), drwy adolygu perfformiad a diweddaru strategaethau
  18. nodi technolegau perthnasol a'u hadolygu i sicrhau bod strategaethau ar flaen y gad o ran datblygiadau ym maes marchnata digidol
  19. rheoli perthnasoedd ag asiantaethau a phartneriaid allanol, lle bo angen
  20. dilyn y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol presennol sy'n ymwneud â datblygu ymgyrchoedd marchnata digidol a'u gweithredu

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. nodau a gwerthoedd eich sefydliad
  2. y dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs)
  3. ystod eich cynlluniau a'ch gweithgareddau marchnata digidol cyfredol
  4. sut i gynnal archwiliadau i nodi cyfleoedd marchnata
  5. y prosesau a'r metrigau ar gyfer mesur deilliannau a nodau strategaethau marchnata
  6. y gwahaniaeth rhwng strategaethau marchnata y telir amdanynt a'r rhai sy'n datblygu'n organig
  7. amrywiaeth y strategaethau marchnata digidol yn unol â'u nodau a'u hamcanion
  8. y technolegau, y platfformau, y sianeli a'r offer amserlennu perthnasol a chyfredol ar gyfer marchnata
  9. y dadansoddiad o'r rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn a'r sector er mwyn datblygu strategaethau a thactegau marchnata digidol
  10. y prosesau mewnol ac allanol ar gyfer cyflwyno strategaethau marchnata a chynnwys digidol
  11. rheoli gwefannau, sianeli cyfryngau y telir amdanynt a'r rhai sy'n datblygu'n organig
  12. sut i reoli sianeli cofnodi traffig gan gynnwys platfformau y telir amdanynt, rhai sy'n datblygu'n organig, a rhai chymdeithasol
  13. sut i droi ymweliadau dienw yn ddarpar ddefnyddwyr y gellir eu nodi
  14. y dulliau a'r technegau sy'n rhoi hwb i'r ymwybyddiaeth o frand eich sefydliad neu'r elw mae'n gallu ei wneud
  15. yr offer dadansoddi ac adrodd perthnasol ar gyfer gwerthuso strategaethau marchnata
  16. y gymhareb enillion ar fuddsoddiad (ROI)
  17. y prosesau adolygu ac arfarnu beirniadol i wella strategaethau'n barhaus a'u diweddaru o ganlyniad i ddadansoddiadau
  18. y ffyrdd o gydweithio ag asiantaethau allanol neu bartneriaethau cysylltiedig unigol
  19. y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol cyfredol sy'n ymwneud â datblygu ymgyrchoedd marchnata digidol a'u gweithredu

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  • dadansoddol
  • systematig
  • trefnus
  • cyfathrebu
  • gwrando
  • greddfol
  • cydweithio

  • datrys problemau

  • gwneud synnwyr
  • gwrthrychol
  • creadigrwydd
  • arloesol
  • gwerthuso
  • cadw at derfynau amser

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

N/A

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Marchnata Digidol Gweithredol, Rheolwr Marchnata Digidol, Cynorthwyydd Marchnata Digidol, Cydlynydd Marchnata Digidol, Arweinydd Marchnata Digidol, Galwedigaethau Marchnata Digidol, Swyddog Marchnata Digidol, Arbenigwr Marchnata Digidol

Cod SOC

3554

Geiriau Allweddol

cynhyrchion a gwasanaethau, marchnata digidol, ymgyrchoedd marchnata, ymgyrchoedd ebost, ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol, ymgyrchoedd hysbysebu arddangos, ymgyrchoedd tymhorol, ymgyrchoedd cynhyrchion penodol, ymwybyddiaeth o frand, ail-frandio, B2B