Defnyddio gwasanaeth i gwsmeriaid fel offeryn cystadleuol

URN: INSCS044
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 22 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig â Rheoli Gwasanaeth i Gwsmeriaid. Mae'n ymwneud â defnyddio gwasanaeth i gwsmeriaid fel arf cystadleuol. Mae'n cynnwys ymddygiadau a phrosesau gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n cael yr effaith fwyaf ar brofiad y cwsmer wrth gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid. Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.

Mae gwasanaeth i gwsmeriaid yn cyfrannu at pa mor gystadleuol yw eich sefydliad. Mae gan gwsmeriaid ddewisiadau ynghylch y gwasanaethau neu'r cynhyrchion y maent yn eu defnyddio a phwy sy'n eu cyflenwi. Yn aml, mae nodweddion technegol a chost y gwasanaeth neu'r cynnyrch bron union yr un fath. Os felly, mae ansawdd y gwasanaeth a gynigir i gwsmeriaid yn dylanwadau ar ba gyflenwr y mae'r cwsmer yn ei ddewis. Rydych yn sicrhau bod eich sefydliad yn defnyddio'r fantais gystadleuol y gellir ei hennill o gynnig gwasanaeth gwell i gwsmeriaid.  Rydych yn defnyddio gwasanaeth i gwsmeriaid fel offeryn i gystadlu'n effeithiol ag eraill sy'n darparu gwasanaethau neu gynhyrchion tebyg.

Mae'r safon ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid ar lefelau goruchwylio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. datblygu eich dealltwriaeth eich hun a'ch cydweithwyr o'r gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan eich sefydliad
  2. cymharu gwasanaethau a chynhyrchion eich sefydliad â rhai eich cystadleuwyr
  3. cyflwyno delwedd i'ch cwsmeriaid sy'n atgyfnerthu gwasanaeth eich sefydliad
  4. dangos gwasanaeth i gwsmeriaid fel esiampl o arf cystadleuol i gydweithwyr
  5. annog camau gweithredu gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n meithrin teyrngarwch cwsmeriaid a'i ddatblygu
  6. cymryd camau i roi gwerth ychwanegol i gwsmeriaid yng ngwasanaethau eich sefydliad
  7. annog cydweithwyr i roi gwerth ychwanegol i gwsmeriaid
  8. esbonio'r manteision ychwanegol y mae eich sefydliad yn eu cynnig i gwsmeriaid o'u cymharu â'ch cystadleuwyr
  9. cynnig cyngor technegol ychwanegol i gwsmeriaid i wella gwasanaeth i gwsmeriaid
  10. nodi goblygiadau ariannol unrhyw gamau gwerth ychwanegol y gallech chi neu eich cydweithwyr eu cynnig
  11. cyrraedd targedau gwasanaeth i gwsmeriaid i sicrhau bod eich cwsmeriaid yn gweld y manteision o ddelio â'ch sefydliad
  12. ailgyfeirio cwsmeriaid at ddarparwyr gwasanaethau eraill pan na all eich sefydliad fodloni eu disgwyliadau
  13. atgoffa cwsmeriaid am wasanaethau a chynhyrchion y maent wedi dangos diddordeb ynddynt yn y gorffennol
  14. cynnig gwasanaethau neu gynhyrchion ategol yn seiliedig ar foddhad a diddordebau cwsmeriaid
  15. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan eich sefydliad
  2. y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y rhai sy'n cystadlu â'ch sefydliad
  3. eich rôl a'ch cyfrifoldebau ar gyfer defnyddio gwasanaeth i gwsmeriaid fel arf cystadleuol
  4. canllawiau eich sefydliad ar gyfer defnyddio gwasanaeth i gwsmeriaid fel offeryn cystadleuol a sut i fodelu hyn i gydweithwyr
  5. y ffactorau sy'n dylanwadu ar farn a chredoau cwsmeriaid ynghylch gwasanaethau a chynhyrchion eich sefydliad, i deimlo eu bod yn cael gwerth am arian
  6. sut i ymchwilio i wasanaethau neu gynhyrchion a'u cymharu â'r rhai sy'n cystadlu â'ch sefydliad, gan gynnwys defnyddio'r rhyngrwyd a ffynonellau cyfryngau cymdeithasol
  7. nodweddion a manteision gwasanaethau neu gynhyrchion y mae cwsmeriaid yn eu hystyried fel gwerth ychwanegol
  8. sut i ychwanegu eitemau na ellir codi tâl ar gwsmeriaid amdanynt i greu argraff arnynt a datblygu eu teyrngarwch
  9. sut i bortreadu delwedd gadarnhaol sy'n atgyfnerthu pa mor gystadleuol yw eich sefydliad
  10. targedau gwasanaeth eich sefydliad i gwsmeriaid
  11. sut i osgoi achosi tramgwydd wrth ailgyfeirio cwsmeriaid at ddarparwyr gwasanaethau eraill
  12. goblygiadau camau gwerth ychwanegol o ran cost i wella sefyllfa gystadleuol y sefydliad
  13. y gwasanaethau neu'r cynhyrchion ategol a allai fod o ddiddordeb i'ch cwsmeriaid megis archebion dro ar ôl tro a gwasanaethau ychwanegol
  14. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFACSA14

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Cod SOC

7212

Geiriau Allweddol

Cystadleuaeth; gwasanaethau; cynhyrchion; gwasanaeth i gwsmeriaid; cyfathrebu; datrys problemau; ymddygiadau; gweithio gydag eraill; gweithio mewn tîm