Defnyddio partneriaethau gwasanaethau i gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig â Rheoli Gwasanaeth i Gwsmeriaid. Mae'n cynnwys defnyddio partneriaethau gwasanaethau i gyflwyno gwasanaeth i cwsmeriaid. Mae'n cynnwys cynllunio, trefnu a rheoli gweithrediadau gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae'n cynnwys ymddygiadau a phrosesau gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n cael yr effaith fwyaf ar brofiad y cwsmer wrth gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid. Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.
Mae eich gwasanaeth i gwsmeriaid yn dibynnu ar waith tîm. Mewn llawer o sefyllfaoedd, mae cyflwyno gwasanaeth yn llwyddiannus i gwsmeriaid sy'n ei ddefnyddio yn y pen draw yn dibynnu ar wasanaeth sydd â chadwyn gyflawn o gwsmeriaid mewnol neu allanol a chyflenwyr mewnol neu allanol. Rydych yn ffurfio cyfres o bartneriaethau gwasanaethau sy'n galluogi'r gadwyn i weithio'n effeithlon ac yn effeithiol. Rydych yn gweithio o fewn cadwyn y gwasanaeth ac yn datblygu'r cysylltiadau sy'n cadarnhau perthnasoedd allweddol. Rydych yn cyfathrebu â rolau gwahanol sefydliadau, adrannau ac unigolion, ac yn eu deall, ar gyfer cyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid ar lefelau goruchwylio neu reoli sy'n defnyddio partneriaethau gwasanaethau i gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- diffinio partneriaid sy'n ymwneud â chadwyn y gwasanaeth sy'n cyflenwi'r cwsmeriaid sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn y pen draw
- nodi'r partneriaid gwasanaethau mewnol ac allanol sy'n rhan o gadwyn gwasanaeth eich sefydliad
- esbonio sut mae eich gwaith gyda phartneriaid gwasanaethau unigol yn cyfrannu at gadwyn gyffredinol o wasanaeth
- darparu gwasanaeth i gwsmeriaid mewnol ac allanol yn dilyn yr un egwyddorion ac arferion
- gweithio gyda chwsmeriaid mewnol yng nghadwyn y gwasanaeth i wella gwasanaeth i gwsmeriaid allanol
- cyfathrebu â chwsmeriaid mewnol i dynnu sylw at unrhyw agweddau ar eich gwaith a allai effeithio arnynt
- gweithio gyda chyflenwyr mewnol neu allanol yng nghadwyn y gwasanaeth i wella gwasanaeth i gwsmeriaid allanol
- cynnal perthnasoedd rhwng cyflenwyr a chwsmeriaid mewnol neu allanol i atgyfnerthu sut mae pob rôl yn nghadwyn y gwasanaeth yn cyfrannu at wasanaeth
- nodi lle mae pŵer ac awdurdod yn bodoli o fewn cadwyn y gwasanaeth
- trafod gyda chwsmeriaid mewnol, a chyflenwyr mewnol neu allanol, i gytuno ar weithdrefnau gwasanaeth sy'n cyfrannu at wasanaeth cwsmeriaid
- datblygu perthynas waith gyda chwsmeriaid neu gyflenwyr mewnol gan ddefnyddio cytundebau lefel gwasanaeth (SLAs)
- gweithio gyda chydweithwyr i gynnal ymwybyddiaeth o'r angen am gydweithio tîm o fewn cadwyn y gwasanaeth
- cytuno â phartneriaid gwasanaethau sut y caiff eich gwaith ei flaenoriaethu os bydd gwrthdaro mewn buddiannau rhwng gofynion cwsmeriaid mewnol ac allanol
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y timau, y cydweithwyr a'r partneriaid gwasanaethau allanol sy'n ymwneud â chyflenwi eich cwsmeriaid sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn y pen draw
- sut mae partneriaethau gwasanaethau yn cyfrannu at eich rôl o ran darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
- egwyddorion ac arferion darparu gwasanaeth i gwsmeriaid mewnol ac allanol
- y cyfrifoldebau a'r hawliau y gellir eu cynnwys mewn perthynas fewnol rhwng cwsmer a chyflenwr
- manteision ac anfanteision disgrifio perthynas mewn cadwyn gwasanaeth fel perthynas rhwng cyflenwyr a chwsmer neu bartneriaeth gwasanaeth
- sut i sefydlu eich blaenoriaethau pan fydd gofynion mewnol cwsmeriaid yn gwrthdaro â gofynion cwsmeriaid allanol
- sut i gynnal hunaniaeth y tîm wrth gydweithio â thimau eraill i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid
- sut i drafod yn llwyddiannus gyda chwsmeriaid mewnol a phartneriaid gwasanaethau allanol
- strwythurau ffurfiol ac anffurfiol eich sefydliad a sut maent yn gallu dylanwadu ar berthnasoedd
- y dulliau a ddefnyddir i feithrin a chynnal perthynas â phartneriaid gwasanaethau a sut i newid eich dull o gwrdd â gwahanol arddulliau cyfathrebu
- sut i ddefnyddio'r ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael am bartneriaid gwasanaethau allanol a chyfryngau cymdeithasol i ddatblygu perthnasoedd gwaith cadarnhaol
- y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal