Casglu, dadansoddi a dehongli adborth cwsmeriaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig â Rheoli Gwasanaeth i Gwsmeriaid. Mae'n cynnwys casglu, dadansoddi a dehongli adborth cwsmeriaid. Mae'n cynnwys cynllunio, trefnu a rheoli gweithrediadau gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae'n cynnwys ymddygiadau a phrosesau gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n cael yr effaith fwyaf ar brofiad y cwsmer wrth gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid. Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.
Rydych yn gwella gwasanaeth i gwsmeriaid drwy fod yn gwbl ymwybodol o ddymuniadau a disgwyliadau cwsmeriaid. Rydych yn gofyn am adborth strwythuredig gan eich cwsmeriaid am eu profiadau o wasanaethau neu gynhyrchion eich sefydliad. Gellir dod o hyd i adborth pwysig gan gwsmeriaid ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol hefyd, lle mae cwsmeriaid a dylanwadwyr yn cyfnewid barn ar wasanaeth eich sefydliad i gwsmeriaid. Mae'r safbwyntiau hyn yn effeithio ar enw da eich sefydliad, felly rydych yn monitro ac yn adolygu cynnwys cyfryngau cymdeithasol i nodi tueddiadau. Rydych hefyd yn defnyddio cynnwys cyfryngau cymdeithasol ac adborth cwsmeriaid i wneud awgrymiadau ar gyfer gwella gwasanaeth i gwsmeriaid a newidiadau yn y ffordd y mae eich sefydliad yn delio â'i gwsmeriaid.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid ar lefelau goruchwylio neu reoli sy'n casglu, dadansoddi a dehongli adborth gan gwsmeriaid i wella gwasanaeth i gwsmeriaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r dulliau sydd ar gael ar gyfer casglu adborth ar wasanaeth i gwsmeriaid
- gwerthuso costau a manteision pob dull o gasglu adborth gan gwsmeriaid
- dewis dulliau ar gyfer casglu adborth cwsmeriaid o wahanol ffynonellau
- datblygu cynllun i gasglu gwybodaeth gan gwsmeriaid am wasanaeth i gwsmeriaid
- cymhwyso'ch dulliau dewisol i gasglu adborth gan gwsmeriaid
- chwilio drwy blatfformau cyfryngau cymdeithasol am adborth cwsmeriaid
- cadarnhau bod adborth ar wasanaeth i gwsmeriaid a bostiwyd ar y cyfryngau cymdeithasol yn gywir ac yn ddilys
- categoreiddio a choladu adborth ar wasanaeth i gwsmeriaid ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol
- casglu adborth ar wasanaeth i gwsmeriaid ar y cyfryngau cymdeithasol am ymatebion i geisiadau penodol
- monitro'r broses o gasglu adborth i sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar eich sampl dewisol o gwsmeriaid a gwasanaeth i gwsmeriaid
- cofnodi data drwy ddefnyddio meddalwedd eich sefydliad yn barod ar gyfer y cam dadansoddi a dehongli
- casglu data a gesglir gan gwsmeriaid i nodi patrymau a thueddiadau mewn gwasanaeth i gwsmeriaid
- gwneud cyfrifiadau i grynhoi patrymau a thueddiadau yn y data a gesglir
- cyflwyno eich dadansoddiad yn fformat gofynnol eich sefydliad
- dehongli ystyr y data drwy gysylltu eich dadansoddiad â gwybodaeth am wasanaethau neu gynhyrchion eich sefydliad, a phrosesau
- gwneud argymhellion ar gyfer newidiadau mewn gwasanaeth i gwsmeriaid mewn ymateb i farn eich cwsmeriaid
- defnyddio adborth cwsmeriaid i ddatblygu perthnasoedd gyda chwsmeriaid
- ymateb i adborth ar wasanaeth i gwsmeriaid ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol pan fo angen
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- manteision ac anfanteision casglu adborth gan gwsmeriaid drwy ddulliau gwahanol, gan gynnwys holiaduron ysgrifenedig; dros y ffôn, drwy gyfweliad; defnyddio grwpiau ffocws; rhyngrwyd; ebost; a'r cyfryngau cymdeithasol
- pwysigrwydd dilysu adborth a gyflwynir drwy sianeli electronig fel cyfryngau cymdeithasol i sicrhau ei fod yn cynrychioli barn cwsmeriaid go iawn
- y technegau samplu ar hap y gellir eu defnyddio i ddewis cwsmeriaid i roi adborth a sut i osgoi rhagfarn mewn samplau nad ydynt ar hap
- egwyddorion cynllunio holiaduron y feddalwedd y mae eich sefydliad yn ei defnyddio
- egwyddorion cyfweld â chwsmeriaid a'r math o ddata y mae'r dull hwn yn ei gynhyrchu
- sut i gyfrifo costau datblygu arolwg cwsmeriaid a'i roi ar waith
- sut i roi arolygon cwsmeriaid ar waith
- sut i chwilio am adborth ar wasanaeth i gwsmeriaid a gyflwynwyd gan gwsmeriaid ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol
- sut i sicrhau bod adborth ar wasanaeth i gwsmeriaid a gyflwynwyd ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol yn gywir ac yn ddilys
- y technegau ar gyfer monitro sut y cesglir data o wahanol ffynonellau
- sut i ddefnyddio meddalwedd eich sefydliad i gofnodi a dadansoddi adborth cwsmeriaid
- fformat eich sefydliad ar gyfer arddangos a chyflwyno data fel ei fod yn hawdd ei ddeall
- y technegau ystadegol y gellir eu defnyddio i grynhoi tueddiadau a phatrymau
- y ffyrdd y gellir defnyddio adborth cwsmeriaid i roi gwybodaeth i gwsmeriaid a meithrin perthynas â nhw
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer argymell newidiadau mewn gweithdrefnau, prosesau a systemau gwasanaeth i gwsmeriaid
- y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal