Datblygu perfformiad personol drwy ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid

URN: INSCS037
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig â Rheoli Gwasanaeth i Gwsmeriaid.  Mae'n cynnwys datblygu perfformiad personol drwy ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae'n ymwneud â gweithgareddau a dulliau gweithredu sy'n chwarae rhan hanfodol mewn gwasanaeth i gwsmeriaid drwy chwilio am welliannau a datblygiadau a'u rhoi ar waith.  Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.

Mae darparu gwasanaeth i gwsmeriaid yn cynnig llawer o gyfleoedd i chi ddysgu yn ogystal â datblygu eich sgiliau personol. Rydych yn datblygu eich sgiliau personol ar yr un pryd â gwella perfformiad eich gwasanaeth i gwsmeriaid.  Rydych yn bwriadu gwella eich perfformiad personol gyda'ch rheolwr neu fentor, yn seiliedig ar adborth, cyn mynd ati i gynnal gweithgareddau datblygu i'ch helpu i wella yn eich rôl gwasanaeth i gwsmeriaid.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid ar lefelau goruchwylio neu reoli sy'n datblygu perfformiad personol drwy ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ymchwilio i'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fodloni safonau eich sefydliad yn eich rôl gwasanaeth i gwsmeriaid
  2. adolygu eich profiadau cadarnhaol a negyddol eich hun fel cwsmer i ddangos empathi gyda safbwynt eich cwsmeriaid
  3. asesu eich perfformiad eich hun yn eich rôl gwasanaeth i gwsmeriaid gan ddefnyddio safonau eich sefydliad
  4. casglu adborth gan eich rheolwr a'r chydweithwyr yn eich tîm am eich perfformiad
  5. nodi eich cryfderau a'ch meysydd datblygu yn seiliedig ar adborth cydweithwyr a'ch hunanasesiad
  6. cytuno ar eich cryfderau a'ch anghenion datblygu gyda'ch rheolwr neu fentor
  7. ysgrifennu amcanion personol i gynnal eich cryfderau wrth gyflawni eich rôl gwasanaeth i gwsmeriaid
  8. cynhyrchu amcanion datblygiad personol i wella eich perfformiad yn eich rôl gwasanaeth i gwsmeriaid yn seiliedig ar yr anghenion a nodwyd ar eich cyfer
  9. creu cynlluniau datblygu personol gan gynnwys gweithgareddau a dyddiadau targed ar gyfer eu cwblhau
  10. adolygu eich cynnydd tuag at eich amcanion gyda'ch rheolwr neu fentor
  11. cwblhau'r gweithgareddau datblygu a nodwyd yn eich cynlluniau datblygu personol o ran gwasanaeth i gwsmeriaid
  12. myfyrio ar eich profiadau o ddydd i ddydd gyda'ch cwsmeriaid i ddatblygu eich perfformiad o ran gwasanaeth i gwsmeriaid
  13. cael adborth gan eich rheolwr a'r cydweithwyr yn eich tîm am newidiadau yr ydych wedi'u gwneud i'ch perfformiad
  14. adolygu a diweddaru eich cynlluniau datblygu personol o ran gwasanaeth i gwsmeriaid
  15. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. safonau eich sefydliad ar gyfer eich rôl a'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fodloni disgwyliadau perfformiad
  2. sut y gallwch ddefnyddio eich profiadau eich hun fel cwsmer gyda sefydliadau eraill i ddeall beth allai cwsmeriaid fod yn ei feddwl a'i deimlo am y gwasanaeth yr ydych yn ei ddarparu iddynt
  3. sut i gynnal hunanasesiad o'ch perfformiad gan ddefnyddio safonau eich sefydliad
  4. y dulliau a ddefnyddir i gasglu adborth gan gydweithwyr a'ch rheolwr llinell a manteision ac anfanteision pob dull
  5. sut i ymateb yn gadarnhaol i adborth personol
  6. sut i ddadansoddi'r adborth yr ydych wedi'i gael i nodi meysydd o gryfder a meysydd y mae angen eu datblygu
  7. sut i greu cynllun datblygu personol fydd yn adeiladu ar eich cryfderau ac yn datblygu meysydd y mae angen eu gwella i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid
  8. proses ffurfiol eich sefydliad ar gyfer greu cynlluniau datblygu personol a'r hyn y mae angen i chi ei gynnwys
  9. pwysigrwydd defnyddio proses o gynllunio, gwneud ac adolygu cynnydd gyda'ch rheolwr neu fentor er budd datblygiad personol
  10. sut i adolygu eich cynnydd gyda'ch rheolwr neu fentor a diweddaru eich cofnodion datblygu
  11. y dulliau y gellir eu defnyddio i fyfyrio ar ddysgu a'r dulliau sydd fwyaf defnyddiol i chi
  12. sut i gael gafael ar ffynonellau gwybodaeth a chymorth ar gyfer eich dysgu
  13. sut i gael adborth personol gan aelodau a rheolwr eich tîm sy'n cysylltu â'ch amcanion datblygu
  14. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFACSD3

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Cod SOC

7212

Geiriau Allweddol

perfformiad personol; datblygu sgiliau; gwella perfformiad; gwelliant parhaus; gwella sgiliau; gwasanaeth i gwsmeriaid; canolfannau cyswllt; gwella; datblygu; cyfathrebu;