Datblygu rhwydweithiau cymdeithasol gwasanaeth i gwsmeriaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig â Rheoli Gwasanaeth i Gwsmeriaid. Mae'n cynnwys datblygu rhwydweithiau cymdeithasol gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae'n ymwneud â gweithgareddau a dulliau gweithredu sy'n chwarae rhan hanfodol mewn gwasanaeth i gwsmeriaid drwy chwilio am welliannau a datblygiadau a'u rhoi ar waith. Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.
Mae eich sefydliad yn cyflwyno agweddau ar ei weithgareddau gwasanaeth i gwsmeriaid drwy ddefnyddio platfformau cyfryngau cymdeithasol. Rydych yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid yn rhagweithiol ac yn adweithiol. Rydych yn sefydlu ac yn cynnal presenoldeb ar y platfformau cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddir gan eich sefydliad. Rydych yn delio â chwsmeriaid sy'n defnyddio'r platfformau fel bod cymuned cyfryngau cymdeithasol yn cael ei rheoli sy'n cysylltu'n uniongyrchol â'ch sefydliad.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid ar lefelau goruchwylio neu reoli sy'n datblygu rhwydweithiau gwasanaeth i gwsmeriaid gan ddefnyddio platfformau cyfryngau cymdeithasol fel sianeli cyfathrebu pwysig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r platfformau cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddir gan gwsmeriaid eich sefydliad
- ymchwilio i'r ffyrdd y mae eich sefydliad ac eraill ar hyn o bryd yn defnyddio platfformau cyfryngau cymdeithasol i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid
- llunio proffil o sut mae eich cwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid yn defnyddio platfformau cyfryngau cymdeithasol
- nodi cymunedau cyfryngau cymdeithasol sy'n berthnasol i wasanaethau a chynhyrchion cwsmeriaid eich sefydliad
- diffinio proffiliau ar gyfer cymunedau cyfryngau cymdeithasol sy'n cyd-fynd â gwasanaethau a chynhyrchion eich sefydliad
- argymell gwelliannau i sut mae eich sefydliad yn defnyddio gyfryngau cymdeithasol i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid
- cynllunio i ddefnyddio platfformau cyfryngau cymdeithasol i gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid yn seiliedig ar eich ymchwil
- dyrannu rolau a chyfrifoldebau ar gyfer gwneud gwelliannau i'r gwasanaeth i gwsmeriaid a ddarperir drwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
- cyfrannu at ddatblygu gweithdrefnau ar gyfer darparu gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n defnyddio cymunedau cyfryngau cymdeithasol
- cyfrannu at weithredu gwelliannau mewn gwasanaeth i gwsmeriaid gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
- monitro gwelliannau mewn gwasanaeth i gwsmeriaid gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
- adolygu gwasanaeth i gwsmeriaid drwy ddefnyddio data a gesglir drwy fonitro i nodi gwelliannau pellach
- cytuno ar welliannau mewn gwasanaeth i gwsmeriaid gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- platfformau'r cyfryngau cymdeithasol prif ffrwd ac arbenigol a ddefnyddir gan gwsmeriaid eich sefydliad
- sut mae gwahanol sefydliadau'n defnyddio platfformau cyfryngau cymdeithasol i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid
- sut i broffilio defnydd cwsmeriaid o wahanol blatfformau cyfryngau cymdeithasol
- sut i sicrhau bod cymunedau cyfryngau cymdeithasol yn cyd-fynd â gwasanaethau a chynhyrchion cwsmeriaid eich sefydliad
- pwysigrwydd cael effaith wrth gyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol
- y dulliau a ddefnyddir i argymell gwelliannau i sut y defnyddir cyfryngau cymdeithasol er mwyn cyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid
- pwysigrwydd gwaith tîm wrth roi gwelliannau ar waith mewn gwasanaeth i gwsmeriaid gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
- sut i ddyfeisio a chyflwyno gweithdrefnau ar gyfer darparu gwasanaeth i gwsmeriaid gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
- eich rôl a'ch cyfrifoldebau ar gyfer rhoi gwelliannau ar waith mewn gwasanaeth i gwsmeriaid gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
- sut i ddewis data monitro ac arsylwi gwelliannau mewn gwasanaeth i gwsmeriaid gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
- sut i fonitro effeithiau gwelliannau mewn gwasanaeth i gwsmeriaid wrth arsylwi data cyfryngau cymdeithasol
- y metrigau sydd ar gael i fonitro gwelliannau mewn gwasanaeth i gwsmeriaid gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
- y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn eich sefydliad sydd ag awdurdod i gytuno ar welliannau i ddulliau gwasanaeth i gwsmeriaid gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
- y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal