Datblygu strategaeth gwasanaeth i gwsmeriaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig â Rheoli Gwasanaeth i Gwsmeriaid. Mae'n cynnwys datblygu strategaeth gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae'n ymwneud â gweithgareddau a dulliau gweithredu sy'n chwarae rhan hanfodol mewn gwasanaeth i gwsmeriaid drwy chwilio am welliannau a datblygiadau a'u rhoi ar waith. Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.
Er mwyn bod yn llwyddiannus yn gyson gyda gwasanaeth i gwsmeriaid, mae angen strategaeth gwasanaeth i gwsmeriaid ar eich sefydliad. Rydych yn defnyddio eich gwybodaeth am gwsmeriaid eich sefydliad a'ch arbenigedd mewn gwasanaeth i gwsmeriaid i ddatblygu strategaeth gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n cyd-fynd â strategaeth gyffredinol eich sefydliad ar gyfer maes eich cyfrifoldeb. Rydych yn seilio eich strategaeth ar ymchwil am sefydliadau eraill a thueddiadau cyfredol mewn gwasanaeth i gwsmeriaid ac yn ymgynghori â'ch tîm i gael eu barn.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid ar lefelau goruchwylio neu reoli sy'n datblygu strategaeth gwasanaeth i gwsmeriaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi strategaeth, gwerthoedd, nodau ac amcanion busnes cyffredinol eich sefydliad
- nodi sut mae maes eich cyfrifoldeb yn helpu i gyflawni strategaeth fusnes gyffredinol eich sefydliad
- gwerthuso goblygiadau'r strategaeth fusnes gyffredinol ar gyfer gwasanaeth i gwsmeriaid yn eich maes cyfrifoldeb
- cadarnhau goblygiadau'r strategaeth fusnes gyffredinol ar gyfer cyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid gyda'ch rheolwr
- nodi sefydliadau eraill sy'n cynrychioli modelau arfer da mewn gwasanaeth i gwsmeriaid
- gwerthuso nodweddion allweddol gwasanaeth i gwsmeriaid mewn sefydliadau eraill a'r egwyddorion sy'n sail i'w dulliau gweithredu
- dadansoddi ymchwil gyfredol ar dueddiadau a datblygiadau mewn gwasanaeth i gwsmeriaid
- ystyried goblygiadau eich ymchwil ar gyfer maes eich cyfrifoldeb
- trafod canlyniadau eich ymchwil gyda'ch tîm i gytuno ar yr hyn y byddwch yn ei gynnwys yn eich strategaeth gwasanaeth i gwsmeriaid
- llunio strategaeth gwasanaeth i gwsmeriaid ar gyfer maes eich cyfrifoldeb
- diffinio gwerthoedd, nodau ac amcanion strategaeth gwasanaeth i gwsmeriaid yn seiliedig ar eich ymchwil ar gyfer maes eich cyfrifoldeb
- nodi prosesau a sianelau cyfathrebu ar gyfer gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n cyd-fynd â'ch gwerthoedd, nodau ac amcanion diffiniedig
- amlinellu sut y byddwch yn gwerthuso effeithiolrwydd y strategaeth
- cytuno ar eich strategaeth gwasanaeth i gwsmeriaid gyda'ch rheolwr
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gael gafael ar wybodaeth am strategaeth fusnes gyffredinol eich sefydliad a dadansoddi ei goblygiadau i faes eich cyfrifoldeb
- yr amcanion gweithredol ar gyfer maes eich cyfrifoldeb a sut mae'r rhain yn cysylltu â strategaeth fusnes gyffredinol eich sefydliad
- pwysigrwydd cael strategaeth gwasanaeth i gwsmeriaid ar gyfer maes eich cyfrifoldeb a sut i'w chysoni â strategaeth fusnes eich sefydliad
- y ffynonellau gwybodaeth y gallwch eu defnyddio i gael gwybodaeth am eich cwsmeriaid a'u disgwyliadau
- sut i nodi sefydliadau eraill a allai gynrychioli modelau arfer gorau mewn gwasanaeth i gwsmeriaid y gallwch ddysgu oddi wrthynt
- yr egwyddorion sy'n sail i ddulliau sefydliadau eraill o ymdrin â gwasanaeth i gwsmeriaid a sut i werthuso eu nodweddion allweddol i nodi'r rhai yr hoffech eu rhoi ar waith yn eich sefydliad eich hun
- ffynonellau ymchwil ar dueddiadau a datblygiadau mewn gwasanaeth i gwsmeriaid, gan gynnwys sut i'w defnyddio a'u dadansoddi
- pwysigrwydd defnyddio canfyddiadau eich ymchwil i nodi'r hyn y mae angen i chi ei gynnwys yn eich strategaeth gwasanaeth i gwsmeriaid
- sut i rannu eich canfyddiadau ymchwil â'ch tîm, trafod y goblygiadau a chytuno ar yr hyn y dylech ei gynnwys yn eich strategaeth gwasanaeth i gwsmeriaid
- y dulliau a ddefnyddir i ddatblygu strategaeth gwasanaeth i gwsmeriaid a'r hyn y dylai ei gynnwys
- sut i ddiffinio gwerthoedd, nodau ac amcanion sy'n berthnasol i faes eich cyfrifoldeb a'r amcanion strategol y cytunwyd arnynt
- y sianeli a'r prosesau cyfathrebu sy'n cefnogi gwasanaeth i gwsmeriaid yn eich sefydliad
- y dulliau a ddefnyddir i werthuso pa mor effeithiol yw eich strategaeth gwasanaeth i gwsmeriaid o ran cyflawni amcanion strategol
- y gweithdrefnau ar gyfer gwneud argymhellion i'ch rheolwr a sut i gytuno ar eich strategaeth
- y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal