Arwain tîm i ddatblygu gwasanaeth i gwsmeriaid a'i wella
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig â Rheoli Gwasanaethau Cwsmeriaid. Mae'n cynnwys arwain tîm i ddatblygu a gwella gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae'n ymwneud â gweithgareddau a dulliau gweithredu sy'n chwarae rhan hanfodol mewn gwasanaeth i gwsmeriaid drwy chwilio am welliannau a datblygiadau a'u rhoi ar waith. Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.
Rydych yn gyfrifol am arwain tîm sy'n darparu gwasanaeth i gwsmeriaid. Rydych yn cynllunio ac yn trefnu eu gwaith ac yn eu cefnogi wrth iddynt ddatblygu eu perfformiad. Rydych yn edrych ar eich sefydliad a'ch adnoddau staffio ac yn dod â'r rhain at ei gilydd mewn ffordd adeiladol i wella gwasanaeth cyffredinol i gwsmeriaid. Rydych yn rhoi cymorth ac arweiniad i'ch tîm i'w hannog i wella sut maent yn cyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid. Rydych yn rhannu eich brwdfrydedd gyda'ch tîm ac yn ei arwain drwy esiampl. Rydych yn datblygu staff newydd yn unol â safonau gofynnol eich sefydliad ac yn diweddaru staff sefydledig ar weithdrefnau a thechnegau newydd.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid ar lefel oruchwylio neu reoli sy'n arwain tîm i ddatblygu a gwella gwasanaeth i gwsmeriaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cytuno ar y gwahanol rolau ar gyfer darparu gwasanaeth i gwsmeriaid gydag aelodau'r tîm
- cynnwys aelodau'r tîm wrth gynllunio a threfnu eu gwaith gwasanaeth i gwsmeriaid
- dyrannu gwaith yn seiliedig ar sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid aelodau'r tîm ac amcanion eich sefydliad
- ysgogi aelodau'r tîm i gydweithio i wella eu perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid
- gwneud yn siŵr bod aelodau'r tîm yn deall eu rolau wrth ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid
- nodi'r cymorth y gallai fod ei angen ar aelodau'r tîm i gyflawni eu rolau
- rhoi cymorth a chyfeiriad i aelodau'r tîm pan mae angen help arnynt
- rhoi adborth i aelodau'r tîm am eu perfformiad o ran darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
- annog aelodau'r tîm i adolygu a thrafod eu perfformiad eu hunain o ran darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
- cytuno ar gamau gweithredu gydag aelodau'r tîm i wella eu perfformiad o ran darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
- nodi pryd mae angen hyfforddiant a datblygiad i wella perfformiad o ran darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
- helpu aelodau'r tîm i nodi eu hanghenion datblygu a hyfforddi eu hunain
- cytuno ar y gweithgareddau datblygu a hyfforddi staff sydd eu hangen i ddatblygu perfformiad o ran darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
- rhoi gwybod am anghenion datblygu staff i gydweithwyr sy'n gyfrifol am hyfforddi a datblygu
- cytuno ar nodau ac amcanion gweithgareddau datblygu a hyfforddi gwasanaeth i gwsmeriaid gyda chydweithwyr sy'n gyfrifol am hyfforddi a datblygu
- cadarnhau'r dulliau datblygu a hyfforddi gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n cyd-fynd â'r nodau a'r amcanion y cytunwyd arnynt
- trefnu gweithgareddau datblygu gwasanaeth i gwsmeriaid a hyfforddiant ar gyfer aelodau eich tîm
- monitro perfformiad aelodau'r tîm yn dilyn datblygiad a hyfforddiant i gadarnhau bod dysgu'n cael ei roi ar waith
- trefnu datblygiad a hyfforddiant ychwanegol i aelodau'r tîm pan fo angen
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr amcanion a'r targedau presennol sy'n ymwneud â gwasanaeth i gwsmeriaid ym maes eich cyfrifoldeb
- rolau a chyfrifoldebau aelodau eich tîm a sut maent yn cyd-fynd â strwythur cyffredinol eich sefydliad i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid
- sut gall perfformiad tîm ac unigol effeithio ar gyflawni amcanion sefydliadol ar gyfer cyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid
- sut i annog eich tîm i gynllunio a threfnu eu gweithgareddau gwaith o ran darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
- sut i gynllunio a dyrannu gwaith i'ch tîm mewn ffordd sy'n sicrhau eu dealltwriaeth a'u hymrwymiad
- sut i gynnwys ac ysgogi staff i annog gwaith tîm i wella'n barhaus y modd y cyflwynir gwasanaeth i gwsmeriaid
- sut i hwyluso cyfarfodydd i annog trafodaeth agored rhwng aelodau'r tîm i egluro eu rolau a'r berthynas rhyngddynt
- sut i roi adborth i gydnabod perfformiad effeithiol a delio'n sensitif â materion sy'n ymwneud â thanberfformio
- pwysigrwydd datblygu staff yn barhaus sy'n darparu gwasanaeth i gwsmeriaid a'u hannog i adolygu eu perfformiad eu hunain
- y dulliau a ddefnyddir i gytuno ar gamau gwella gydag aelodau'r tîm a'r mathau o gamau gweithredu y gallai fod eu hangen
- sut i nodi pryd y byddai datblygu a hyfforddi yn gwella perfformiad o ran darparu gwasanaeth i cwsmeriaid
- yr ystod o ddulliau datblygu a hyfforddi sydd ar gael a sut i ddewis y rhai sy'n briodol i wasanaeth i gwsmeriaid, eich sefydliad, y nodau a'r amcanion hyfforddi a datblygu penodol, a'r gyllideb
- y cydweithwyr yn eich sefydliad sy'n gyfrifol am weithgareddau datblygu a hyfforddi a sut i roi gwybod iddynt am anghenion hyfforddi eich tîm
- pwysigrwydd rhoi mewnbwn i ddull dylunio a chyflwyno gweithgareddau hyfforddi a datblygu staff gwasanaeth i gwsmeriaid, a'r effaith a gaiff hyn
- pwysigrwydd trefnu gweithgareddau datblygu a hyfforddi er mwyn iddynt beidio ag effeithio'n ormodol ar waith eich sefydliad o ddydd i ddydd
- sut y gallwch helpu staff i roi'r hyn y maent wedi'i ddysgu yn ystod hyfforddiant ar waith yn y gweithle
- sut i asesu'r effaith y mae datblygiad a hyfforddiant wedi'i chael ar berfformiad o ran darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
- y mathau o gymorth ychwanegol y gallech eu darparu i aelodau'r tîm yn dilyn datblygiad a hyfforddiant
- goblygiadau methu â gwella gwasanaeth i gwsmeriaid i aelodau eich tîm a'ch sefydliad
- y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal