Cynnal gwasanaeth i gwsmeriaid drwy weithdrefnau trosglwyddo

URN: INSCS024
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 22 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig â Chyflwyno Gwasanaeth i Gwsmeriaid.  Mae'n ymwneud â chynnal gwasanaeth i gwsmeriaid drwy weithdrefnau trosglwyddo. Mae'n cynnwys cynllunio, trefnu a rheoli gweithrediadau gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae'n cynnwys ymddygiadau a phrosesau gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n cael yr effaith fwyaf ar brofiad y cwsmer yn ystod y Broses o Gyflwyno Gwasanaeth i Gwsmeriaid. Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.

Mae cyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid yn eich tîm yn cynnwys sefyllfaoedd pan na allwch gwblhau pob cam gweithredu ac mae'n rhaid i chi drosglwyddo cyfrifoldeb i gydweithiwr. Rydych yn trefnu ac yn dilyn patrwm cydnabyddedig i rannu'r cyfrifoldebau hyn.  Mae angen i chi fod yn siŵr, pan gaiff cyfrifoldeb ei drosglwyddo, bod camau gweithredu yn cael eu rhoi ar waith. Rydych yn gwirio gyda'ch cydweithwyr fel mater o drefn bod camau gweithredu gwasanaeth i gwsmeriaid wedi'u cwblhau.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n cynnal y gwaith o gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid drwy weithdrefnau trosglwyddo ac yn rhoi'r cyfrifoldeb am gwblhau camau gwasanaeth i gwsmeriaid i gydweithwyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi'r gwasanaethau neu'r cynhyrchion a ddarparwch sy'n dibynnu ar waith tîm
  2. nodi camau yn y broses cyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid lle mae angen cyfnewid gwybodaeth rhwng cydweithwyr
  3. cytuno â chydweithwyr pryd i drosglwyddo'r cyfrifoldeb am gwblhau camau gweithredu gwasanaeth i gwsmeriaid
  4. cadarnhau sut y dylid cyfnewid gwybodaeth rhwng cydweithwyr er mwyn gallu cwblhau camau gweithredu gwasanaeth i gwsmeriaid
  5. gwneud yn siŵr bod y wybodaeth ofynnol yn cael ei rhoi i gydweithwyr wrth drosglwyddo cyfrifoldeb iddynt
  6. cynnal ymwybyddiaeth o holl fanylion y camau gweithredu gwasanaeth i gwsmeriaid y mae angen i'ch cydweithwyr eu cwblhau
  7. gofyn i'ch cydweithwyr a ydynt wedi cwblhau'r camau gweithredu gwasanaeth i gwsmeriaid y cytunwyd arnynt
  8. nodi camau gweithredu dilynol ar gyfer gwasanaeth i gwsmeriaid os nad yw eich cydweithwyr wedi gallu cwblhau'r gwaith y gwnaethoch drosglwyddo iddynt
  9. adolygu gyda'ch cydweithwyr sut caiff camau gweithredu gwasanaeth i gwsmeriaid eu rhannu
  10. cynllunio a chytuno ar welliannau i'r ffordd y rhennir camau gweithredu gwasanaeth i gwsmeriaid rhwng cydweithwyr
  11. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gweithdrefnau a systemau gwasanaeth i gwsmeriaid eich sefydliad a ddefnyddir ar gyfer y gwasanaethau neu'r cynhyrchion rydych yn gysylltiedig â'u darparu
  2. y gweithdrefnau trosglwyddo ar gyfer cyfnewid gwybodaeth gyda chydweithwyr i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid
  3. y cydweithwyr y gallwch drosglwyddo cyfrifoldeb iddynt i gwblhau camau gweithredu gwasanaeth i gwsmeriaid a'u rolau
  4. y dulliau a ddefnyddir i wneud yn siŵr bod yr holl wybodaeth ofynnol yn cael ei throsglwyddo rhyngoch chi a'ch cydweithwyr
  5. y gweithdrefnau sefydliadol a'r cyfryngau a'r platfformau cyfathrebu y gallwch eu defnyddio i drosglwyddo gwybodaeth i gydweithwyr
  6. pwysigrwydd gwneud yn siŵr bod cydweithwyr wedi deall y camau y mae angen iddynt eu cymryd i gwblhau gwasanaeth
  7. pwysigrwydd gofyn i gydweithiwr a ydynt wedi cwblhau'r camau gweithredu gwasanaeth i gwsmeriaid yr oeddech yn eu disgwyl
  8. y sefyllfaoedd pan fydd yn ofynnol i chi gymryd camau dilynol pan na fydd eich cydweithwyr wedi gallu cwblhau'r camau trosglwyddo
  9. sut i adolygu'r ffordd y caiff camau gweithredu gwasanaeth i gwsmeriaid eu rhannu mewn prosesau gwasanaeth i gwsmeriaid gyda chydweithwyr
  10. y dulliau a ddefnyddir i nodi gwelliannau posibl i weithdrefnau trosglwyddo a chytuni arnynt
  11. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFACSB8

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Cod SOC

7212

Geiriau Allweddol

Cyflwyno; cyfrifoldeb; cydweithwyr; gweithio gyda'n gilydd; gwasanaeth i gwsmeriaid; cyfathrebu; datrys problemau; gweithio gydag eraill; rhoi gwybodaeth; gwaith tîm; derbyn gwasanaethau gwybodaeth