Hyrwyddo gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol i gwsmeriaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig â Chyflwyno Gwasanaeth i Gwsmeriaid. Mae'n ymwneud â hyrwyddo gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol i gwsmeriaid. Mae'n cynnwys ymddygiadau a phrosesau gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n cael yr effaith fwyaf ar brofiad y cwsmer yn ystod y Broses o Gyflwyno Gwasanaeth i Gwsmeriaid. Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.
Rydych yn ehangu ac yn ymestyn y berthynas â chwsmeriaid drwy eu darbwyllo i ddefnyddio gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol y gallwch eu cynnig. Rydych yn trefnu gwasanaeth i gwsmeriaid i hyrwyddo defnydd ychwanegol o'ch gwasanaethau neu gynhyrchion drwy gyfathrebu â chwsmeriaid cyn mynd ati i ddarparu'r gwasanaethau neu'r cynhyrchion hynny'n effeithiol. Rydych hefyd yn monitro eich llwyddiannau a'ch methiannau i gydnabod y ffordd orau o gysylltu â'ch cwsmeriaid yn y dyfodol. Mae gwasanaethau neu gynhyrchion yn newid yn barhaus mewn sefydliadau i wneud yn siŵr eu bod yn bodloni disgwyliadau cwsmeriaid. Drwy gynnig gwasanaethau neu gynhyrchion newydd neu well gall eich sefydliad gynyddu boddhad cwsmeriaid a goroesi mewn amgylchedd cystadleuol. Rydych yn cadw golwg ar ddatblygiadau newydd ac yn annog eich cwsmeriaid i ymddiddori ynddynt. Mae eich cwsmeriaid yn disgwyl i wasanaethau neu gynhyrchion gael eu cynnig i fodloni eu disgwyliadau cynyddol ac rydych yn eu gwneud yn ymwybodol o'r hyn sydd ar gael gan eich sefydliad.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n hyrwyddo gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol i gwsmeriaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- datblygu gwybodaeth am wasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol eich sefydliad
- gofyn i gydweithwyr am wybodaeth am wasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol
- nodi gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol a allai fod o ddiddordeb i'ch cwsmeriaid
- nodi cyfleoedd i gynnig gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol fydd yn gwella eu profiad fel cwsmeriaid
- nodi manteision gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol i'ch cwsmeriaid a'r sefydliad
- esbonio nodweddion a manteision gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol i'ch cwsmeriaid
- annog cwsmeriaid i ofyn am wasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol
- trafod gyda chydweithwyr sut i hyrwyddo gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol i gwsmeriaid
- rhoi gweithdrefnau ar waith i ymateb i gwsmeriaid sydd â diddordeb mewn gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol
- hyrwyddo gwasanaethau neu gynhyrchion gan dimau a chydweithwyr eraill yn eich sefydliad
- helpu cwsmeriaid i gael mynediad at wasanaethau neu gynhyrchion a ddarperir gan dimau a chydweithwyr eraill yn eich sefydliad
- dod â'r sgwrs i ben os nad yw eich cwsmer yn dangos unrhyw ddiddordeb mewn gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol
- rhoi gwybodaeth i symud y broses werthu yn ei blaen pan fydd cwsmeriaid yn dangos diddordeb mewn gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol
- cytuno ar yr hyn sy'n cael ei werthu a gwneud yn siŵr bod cwsmeriaid yn deall y gwasanaethau neu'r cynhyrchion ychwanegol sydd i'w darparu
- trefnu i gyflwyno'r gwasanaethau neu'r cynhyrchion ychwanegol i'ch cwsmer erbyn y dyddiad y cytunwyd arno
- cyfeirio eich cwsmer at gydweithwyr pan ddarperir y gwasanaethau neu'r cynhyrchion ychwanegol gan dimau eraill
- cymharu'r gwahanol ddulliau a ddefnyddir i roi gwybod i gwsmeriaid am wasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol a chofnodi llwyddiannau a methiannau pob un
- nodi'r dulliau mwyaf effeithiol o gynnig gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol o'ch cofnodion
- rhannu gwybodaeth â chydweithwyr am y dulliau mwyaf effeithiol
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gael gafael ar wybodaeth am wasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol eich sefydliad
- y gwahanol dimau yn eich sefydliad sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau a chynhyrchion ychwanegol
- y cydweithwyr sy'n gallu eich cefnogi i ddatblygu eich gwybodaeth am wasanaethau a chynhyrchion ychwanegol
- sut i sicrhau bod gwasanaethau a chynhyrchion ychwanegol yn cyd-fynd â diddordebau ac anghenion cwsmeriaid
- y ffyrdd y gall cynnig gwasanaethau a chynhyrchion ychwanegol wella gwasanaeth eich sefydliad i gwsmeriaid
- gweithdrefnau a systemau eich sefydliad ar gyfer annog cwsmeriaid i ddefnyddio gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol
- sut bydd gwasanaethau a/neu gynhyrchion ychwanegol o fudd i'ch cwsmeriaid
- sut bydd defnydd eich cwsmer o wasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol o fudd i'ch sefydliad
- y dulliau y gellir eu defnyddio i hyrwyddo gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol i gwsmeriaid
- sut i gytuno ar ddulliau hyrwyddo gyda chydweithwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- y prif ffactorau sy'n annog cwsmeriaid i ddefnyddio eich gwasanaethau neu gynhyrchion
- sut i gyflwyno gwasanaethau a/neu gynhyrchion ychwanegol i gwsmeriaid gan amlinellu eu manteision
- sut i dawelu meddwl cwsmeriaid a
- sut i gytuno ar wasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol a'u darparu
- y gwahanol ddulliau y gallwch eu defnyddio i roi gwybodaeth i'ch cwsmeriaid am wasanaethau neu gynhyrchion
- pwysigrwydd cydweithwyr i ddylanwadu ar gwsmeriaid sy'n gwneud penderfyniadau am wasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol
- sut i werthuso'r dulliau a ddefnyddir i gynnig gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol a rhannu eich canfyddiad â chydweithwyr
- y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal