Rheoli rhaglen wobrwyo gwasanaeth i gwsmeriaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig â Chyflwyno Gwasanaeth i Gwsmeriaid. Mae'n ymwneud â rheoli rhaglen wobrwyo gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae'n cynnwys ymddygiadau a phrosesau gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n cael yr effaith fwyaf ar brofiad y cwsmer yn ystod y Broses o Gyflwyno Gwasanaeth i Gwsmeriaid. Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.
Gall rhaglen wobrwyo gwasanaeth i gwsmeriaid wneud cyfraniad gwerthfawr at strategaeth gwasanaeth i gwsmeriaid eich sefydliad. Mae'n ysgogi aelodau'r tîm yn ogystal â dangos eich ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid. Rydych yn cynllunio rhaglen wobrwyo gwasanaeth i gwsmeriaid, gan nodi'r cynllun mwyaf addas. Rydych yn rhoi eich rhaglen wobrwyo ar waith i ysgogi aelodau'r tîm a rheoli'r gwaith beirniadu, cyhoeddi canlyniadau a gwerthuso ei effeithiolrwydd i gyflawni ei amcanion.
Mae'r safon ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid ar lefelau goruchwylio neu reoli sy'n rheoli rhaglen wobrwyo gwasanaeth i gwsmeriaid ar gyfer unigolion neu dimau yn eu sefydliad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- pennu boddhad cwsmeriaid ac amcanion cymhelliant tîm ar gyfer cynllun gwobrwyo gwasanaeth i gwsmeriaid
 - adolygu opsiynau rhaglen wobrwyo gwasanaeth i gwsmeriaid mewnol ac allanol
 - dewis opsiynau rhaglen wobrwyo gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n diwallu anghenion eich sefydliad
 - cymharu manteision ac anfanteision pob opsiwn rydych chi wedi'i ddewis
 - dewis yr opsiwn sy'n cyfateb orau i'ch amcanion o ran boddhad cwsmeriaid a chymell timau
 - nodi manteision a chostau'r rhaglen o'ch dewis mewn perthynas â'r amcanion a bennwyd
 - datblygu'r achos busnes dros gyflwyno neu ddatblygu rhaglen wobrwyo gwasanaeth i gwsmeriaid ymhellach
 - cytuno ar amcanion a gweithgareddau'r rhaglen gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
 - cynllunio'r rhaglen wobrwyo gwasanaeth i gwsmeriaid o'ch dewis
 - hysbysu ac ysgogi cwsmeriaid ac aelodau'r tîm wrth lansio'r rhaglen wobrwyo gwasanaeth i gwsmeriaid
 - gwneud yn siŵr bod meini prawf y gwobrwyo ar gyfer gwasanaeth i gwsmeriaid yn dryloyw ac yn deg
 - rhoi gwybod i gwsmeriaid am y rhaglen wobrwyo gwasanaeth i gwsmeriaid i ddangos ymrwymiad eich sefydliad i ddarparu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid
 - trefnu'r gwaith o feirniadu gwobrau unigol a thîm
 - cyhoeddi'r canlyniadau a chyflwyno gwobrau mewn modd sy'n cyd-fynd â diwylliant eich sefydliad
 - gwerthuso effeithiolrwydd y rhaglen wobrwyo i gwsmeriaid ac aelodau'r tîm i nodi gwelliannau yn y dyfodol
 - dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddiffinio'r amcanion ar gyfer rhaglen wobrwyo gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n cwmpasu boddhad cwsmeriaid a chymhelliant timau
 - y damcaniaethau gwahanol o ran cymhelliant a sut gall cydnabyddiaeth ysgogi timau gwasanaeth i gwsmeriaid
 - y gwahanol opsiynau sydd ar gael ar gyfer y rhaglenni gwobrwyo gwasanaeth i gwsmeriaid a ddefnyddir gan eich sefydliad chi a sefydliadau eraill
 - sut i adolygu a dethol opsiynau fydd yn gweithio yn eich sefydliad
 - pwysigrwydd cymharu opsiynau i ddewis y dull fydd yn bodloni'r amcanion a bennwyd
 - sut i ddatblygu achos busnes a'i gyflwyno i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gael sêl eu bendith
 - sut i ddefnyddio rhaglenni gwobrwyo gwasanaeth i gwsmeriaid fel dulliau hyrwyddo i roi gwerth ychwanegol i foddhad cwsmeriaid
 - manteision ac anfanteision y gwahanol wobrau sy'n gysylltiedig â rhaglenni gwobrwyo
 - yr agweddau ar ddiwylliant eich sefydliad a allai ychwanegu gwerth at raglen wobrwyo gwasanaeth i gwsmeriaid neu amharu arni
 - dulliau posibl o roi cyhoeddusrwydd i raglenni gwobrwyo gwasanaeth i gwsmeriaid
 - pwysigrwydd sicrhau bod rhaglenni gwobrwyo yn cael eu hystyried yn rhai tryloyw a theg gan weithwyr gwasanaeth i gwsmeriaid
 - sut i fynd at feirniaid posibl ar gyfer rhaglenni gwobrwyo a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt
 - ffyrdd o feirniadu a sut i friffio beirniaid
 - y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal