Darparu gwasanaeth i gwsmeriaid mewn ffordd ecogyfeillgar a chynaliadwy
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig â Chyflwyno Gwasanaeth i Gwsmeriaid. Mae'n ymwneud â darparu gwasanaeth i gwsmeriaid mewn ffordd ecogyfeillgar a chynaliadwy. Mae'n cynnwys ymddygiadau a phrosesau gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n cael yr effaith fwyaf ar brofiad y cwsmer yn ystod y Broses o Gyflwyno Gwasanaeth i Gwsmeriaid. Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.
Mae ymwybyddiaeth amgylcheddol a chymryd camau cadarnhaol er budd cynaliadwyedd yn rhan bwysig o ddiwylliant a strategaeth eich sefydliad. Mae eich sefydliad wedi llunio polisïau i sicrhau eu bod yn cael cymeradwyaeth cwsmeriaid drwy hyrwyddo dull cynaliadwy o ymdrin â'u gwasanaethau neu eu cynnyrch er mwyn gwella enw da'r sefydliad. Rydych yn darparu gwasanaeth i gwsmeriaid gan ddilyn canllawiau a gweithdrefnau i arddangos eich ymrwymiad personol a sefydliadol i'r amgylchedd, cynaliadwyedd a safonau amgylcheddol. Gall gwasanaeth i gwsmeriaid effeithio ar berfformiad amgylcheddol drwy fynnu adnoddau ychwanegol. Gall polisïau amgylcheddol effeithio ar wasanaeth i gwsmeriaid drwy osod cyfyngiadau ar sut y gellir eu darparu. Rydych yn adolygu'r cysylltiad rhwng gwasanaeth i gwsmeriaid a materion amgylcheddol i nodi newidiadau a'u cyflwyno. Rydych yn annog ymwybyddiaeth amgylcheddol a chynaliadwyedd gyda chydweithwyr, cyflenwyr, cwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill i'w hatgoffa o'u cyfrifoldebau.
Mae'r safon ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n darparu gwasanaeth i gwsmeriaid mewn ffordd ecogyfeillgar a chynaliadwy.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- annog cwsmeriaid i gyfrannu at bolisïau amgylcheddol eich sefydliad
- rhoi gwybod i gwsmeriaid am bolisïau amgylcheddol a chynaliadwyedd eich sefydliad
- hyrwyddo dulliau ecogyfeillgar a chynaliadwy wrth ddelio â chwsmeriaid a phartneriaid gwasanaethau
- rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid a phartneriaid gwasanaethau am bolisïau amgylcheddol a chynaliadwyedd eich sefydliad
- nodi cyfleoedd i arbed allyriadau ynni a charbon wrth gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid
- nodi cyfleoedd i wella sut y rheolir gwastraff wrth gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid
- rhoi gwybod i gydweithwyr ag awdurdod am y gwelliannau posibl yr ydych wedi'u nodi
- nodi sut mae polisïau eich sefydliad ar gyfer gwasanaeth i gwsmeriaid yn cysylltu â pholisïau amgylcheddol
- dadansoddi cysylltiadau rhwng polisïau amgylcheddol eich sefydliad a systemau a phrosesau cyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid
- adolygu systemau gwasanaeth i gwsmeriaid eich sefydliad i nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliannau amgylcheddol
- nodi partneriaethau gwasanaethau sy'n effeithio ar broffil amgylcheddol eich sefydliad a sut y gallant ei wella
- datblygu cynllun gweithredu i hyrwyddo camau amgylcheddol a gwelliannau o ran cyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid
- annog cydweithwyr i hyrwyddo gwasanaethau a chynhyrchion ecogyfeillgar
- nodi ffyrdd o ddefnyddio llai o adnoddau wrth gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid
- rhoi gwelliannau amgylcheddol ar waith gyda chwsmeriaid a chydweithwyr gwasanaethau
- cyfleu gwelliannau amgylcheddol i gwsmeriaid
- annog partneriaid gwasanaethau a chwsmeriaid i gymryd rhan mewn gwelliannau
- datblygu ymwybyddiaeth cydweithwyr o faterion amgylcheddol a sut y gallant gyfrannu
- datblygu ymwybyddiaeth rhanddeiliaid cymunedol o ddulliau amgylcheddol eich sefydliad
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- egwyddorion arferion amgylcheddol a chynaliadwyedd parhaus sy'n berthnasol i weithrediadau gwasanaeth i gwsmeriaid
- polisïau eich sefydliad sy'n cysylltu materion amgylcheddol â gwasanaeth i gwsmeriaid
- sut i annog cwsmeriaid i gyfrannu at bolisïau amgylcheddol
- egwyddorion arbed ynni a lleihau allyriadau carbon
- egwyddorion rheoli gwastraff sy'n berthnasol i'ch sefydliad
- y materion a'r risgiau amgylcheddol a gynrychiolir gan wasanaethau neu gynhyrchion eich sefydliad
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer rheoli ynni, allyriadau carbon a gwastraff
- sut i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid am bolisïau a gweithdrefnau amgylcheddol eich sefydliad
- sut i weithio gyda phartneriaid gwasanaeth i hyrwyddo manteision amgylcheddol a chynaliadwy
- y dulliau y mae eich sefydliad yn eu defnyddio i annog cydweithwyr i rannu syniadau ar gyfer gwelliannau amgylcheddol
- pwysigrwydd cael awdurdod priodol ar gyfer rhoi newidiadau ar waith mewn gweithdrefnau gwasanaeth i gwsmeriaid
- y berthynas rhwng camau amgylcheddol a chostau i'ch sefydliad
- sut mae polisïau amgylcheddol eich sefydliad yn cysylltu â chyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid
- y technegau ar gyfer adolygu agweddau amgylcheddol ar systemau gwasanaeth i gwsmeriaid
- y gwahanol gamau y gellir eu cymryd i wella agweddau amgylcheddol ar gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid
- y dulliau sydd ar gael i ddefnyddio llai o adnoddau wrth gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid
- y technegau cyfathrebu a datblygu ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol ymhlith rhanddeiliaid cymunedol
- y dulliau y gellir eu defnyddio i annog cwsmeriaid i weithredu mewn ffordd fwy ecogyfeillgar
- y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal