Meithrin perthnasoedd â chwsmeriaid a'u cynnal
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig ag Argraff a Delwedd. Mae'n ymwneud â meithrin perthnasoedd â chwsmeriaid a'u cynnal. Mae'n cynnwys maes sy'n cwmpasu'r ymddygiadau a'r prosesau gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n cael yr effaith fwyaf ar y ffordd y mae eich cwsmer yn eich ystyried chi a'ch sefydliad. Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.
Mae meithrin perthnasoedd â chwsmeriaid yn elfen hanfodol o wasanaeth i gwsmeriaid. Mae perthnasoedd cryf â chwsmeriaid yn helpu eich sefydliad i nodi disgwyliadau eich cwsmeriaid a'u deall. Mae hefyd yn annog ffordd o weithio sy'n seiliedig ar bartneriaeth ac ymddiried yn ei gilydd, ac ennill teyrngarwch cwsmeriaid a'i gynnal. Gallwch sefydlu a chynnal perthnasoedd â chwsmeriaid drwy ennill teyrngarwch nifer fawr o gwsmeriaid a'u hannog i ddefnyddio eich gwasanaeth fwy nag unwaith. Fel arall, gallwch feithrin nifer llai o gwsmeriaid gwerthfawr sy'n gwneud cyfraniad strategol pwysig at lwyddiant eich sefydliad.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n meithrin ac yn cynnal perthnasoedd â chwsmeriaid, gan ddylanwadu ar y ffordd y mae eu sefydliad yn pennu lefel y gwasanaeth a gynigir i wahanol gwsmeriaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r mathau o gwsmeriaid ar gyfer meithrin perthnasoedd tymor hwy a theyrngarwch
- cyfathrebu â'r mathau o gwsmeriaid a nodwyd fel eu bod yn gwybod eu bod yn bwysig i'ch sefydliad
- esbonio eich rôl, pwrpas cysylltu a'r manteision cyffredin o feithrin perthynas tymor hwy gyda chwsmeriaid
- croesawu cyfathrebu dwy ffordd am ddisgwyliadau cwsmeriaid
- rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid am wasanaeth a chynhyrchion eich sefydliad
- derbyn beirniadaeth gan gwsmeriaid mewn modd agored ac adeiladol
- asesu a yw disgwyliadau cwsmeriaid yn cael eu bodloni'n gyson
- creu atebion i gynnal perthnasoedd gwasanaeth i gwsmeriaid a'u gwella
- dylanwadu ar gyflwyno gwasanaethau cwsmeriaid i wneud yn siŵr eich bod yn diwallu anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid, ac yn rhagori arnynt lle bo hynny'n bosibl
- casglu adborth gan gwsmeriaid i sicrhau bod yr atebion a ddarperir yn arwain at foddhad cwsmeriaid
- casglu adborth gan gydweithwyr am yr effaith y mae atebion yn ei chael ar foddhad cwsmeriaid a'u teyrngarwch
- dadansoddi adborth i gynnig newidiadau fydd yn datblygu perthnasoedd â chwsmeriaid tymor hwy a theyrngarwch
- cyflwyno eich newidiadau arfaethedig i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn eich sefydliad a chytuno ar gamau gweithredu
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y mathau o gwsmeriaid y mae eich sefydliad yn darparu gwasanaethau neu gynhyrchion ar eu cyfer
- sut i nodi a blaenoriaethu'r mathau o gwsmeriaid y dylech feithrin perthynas tymor hwy gyda nhw yn seiliedig ar gynlluniau eich sefydliad
- y dulliau a ddefnyddiwyd gan eich sefydliad i sefydlu perthynas tymor hwy â'r mathau o gwsmeriaid a gafodd eu blaenoriaethu
- eich rôl a'ch cyfrifoldebau ar gyfer meithrin a chynnal perthnasoedd â chwsmeriaid, a'r cydweithwyr yr ydych yn gweithio gyda nhw
- pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu wrth ddelio â chwsmeriaid a meithrin perthnasoedd
- sut i ystyried manteision cyffredin cynnal a meithrin perthynas tymor hwy gyda chwsmeriaid, a chytuno ar y manteision hyn
- sut i gyfathrebu â chwsmeriaid pan fyddant yn anfodlon ar wasanaethau neu gynhyrchion
- sut i drafod gyda chwsmeriaid mewn ffordd sy'n cydbwyso eu disgwyliadau â disgwyliadau eich sefydliad
- y mathau o gyfaddawdu sy'n dderbyniol i'ch sefydliad wrth fodloni disgwyliadau cwsmeriaid
- sut i ddefnyddio eich dylanwad a'ch awdurdod yn eich sefydliad i fodloni disgwyliadau cwsmeriaid neu ragori arnynt
- y dulliau monitro boddhad cwsmeriaid sy'n briodol i lefel eich awdurdod yn y sefydliad
- y rôl sydd gan cysylltu drwy'r rhyngrwyd a'r cyfryngau cymdeithasol, a'r potensial y mae hyn yn ei gynnig ar gyfer meithrin perthnasoedd â chwsmeriaid a'u cynnal
- y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal