Darparu gwasanaeth di-dor i gwsmeriaid gyda thîm
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig ag Argraff a Delwedd. Mae'n ymwneud â darparu gwasanaeth di-dor i gwsmeriaid gyda thîm. Mae'n cynnwys maes sy'n cwmpasu'r ymddygiadau a'r prosesau gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n cael yr effaith fwyaf ar y ffordd y mae eich cwsmer yn eich ystyried chi a'ch sefydliad. Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.
Mae gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid yn ymdrech gan dîm. Rydych yn ennill teyrngarwch cwsmeriaid ac yn ei gynnal drwy gyd-dynnu â'r holl staff eraill sy'n helpu i drefnu sut y cyflwynir gwasanaethau neu gynhyrchion, rhyngweithio â'r cwsmer, neu gefnogi gweithgareddau gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae eich tîm yn cynnwys cydweithwyr, uwch-reolwyr a phartneriaid gwasanaethau sy'n gweithio mewn adrannau eraill neu sefydliadau allanol sy'n cyfrannu at gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid. Er mwyn cyflawni nodau ac amcanion eich sefydliad ar gyfer gwasanaeth i gwsmeriaid, byddwch yn meithrin perthynas waith effeithiol gyda'r holl aelodau hyn o'r tîm i gael eu cydweithrediad a'u cefnogaeth. Rydych yn 'gyfaill' i gydweithwyr i gefnogi eu datblygiad pan fo angen.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n darparu gwasanaeth di-dor i gwsmeriaid gyda thimau mewnol neu allanol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi strategaethau tîm ar gyfer darparu gwasanaeth di-dor i gwsmeriaid gyda chydweithwyr
- rhannu gwybodaeth i wella gwasanaeth i gwsmeriaid
- annog, derbyn ac ymateb yn gadarnhaol i adborth gan gydweithwyr ar berfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid
- delio â gwrthdaro a'i ddatrys drwy gydweithio â chydweithwyr
- adolygu strategaethau gwaith tîm ar gyfer darparu gwasanaeth di-dor i gwsmeriaid gyda chydweithwyr
- nodi partneriaid allweddol sy'n cefnogi'r gwaith o gyflwyno gwasanaeth di-dor i gwsmeriaid
- cytuno ar ddulliau darparu gwasanaeth di-dor i gwsmeriaid gyda phartneriaid gwasanaethau
- datblygu a chynnal perthynas waith gyda phartneriaid gwasanaethau
- sicrhau bod eich ymrwymiadau i bartneriaid gwasanaethau yn cael eu cyflawni
- gwirio bod ymrwymiadau partneriaid gwasanaethau i chi yn cael eu cyflawni fel y cytunwyd
- cyfathrebu â phartneriaid gwasanaethau ar faterion sy'n effeithio arnynt hwy a'ch cwsmeriaid
- datrys problemau gwasanaeth i gwsmeriaid drwy gydweithio â phartneriaid gwasanaethau
- gweithio gyda phartneriaid gwasanaethau i ddelio â gwrthdaro mewn modd adeiladol
- cefnogi datblygiad cydweithwyr drwy gytuno ar y wybodaeth a'r sgiliau penodol sydd eu hangen arnynt yn eu rolau ar gyfer darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
- nodi cyfleoedd a gweithgareddau i gydweithwyr ddatblygu eu sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid
- cynllunio gweithgareddau a sesiynau hyfforddi i gydweithwyr i'w helpu i ddatblygu eu sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid
- cefnogi cydweithwyr i ymarfer sgiliau, cymhwyso gwybodaeth ac ennill profiad i ddatblygu eu cymhwysedd ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid
- gwirio cynnydd cydweithwyr ac addasu eich dulliau hyfforddi pan fo angen
- cynllunio a chynnal sesiynau cyfeillio i gefnogi eich cydweithwyr yn y swydd, gan sicrhau nad ydych yn amharu ar ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid
- rhoi esiampl o dasgau gwasanaeth i gwsmeriaid i'ch cydweithiwr cyfeillio eu dilyn
- arsylwi eich cydweithiwr yn cyflawni'r tasgau i nodi beth maent yn ei wneud yn dda a'r meysydd i'w gwella
- rhoi adborth i'ch cydweithiwr am y gwaith y maent wedi'i wneud yn dda a sut y gallant wella eu perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid
- trafod camau gweithredu a chytuno arnynt gyda'ch cydweithiwr cyfeillio i ddatblygu eu perfformiad
- rhoi awgrymiadau ar gamau gweithredu effeithiol i'ch cydweithiwr cyfeillio o ran gwasanaeth i gwsmeriaid effeithiol yn seiliedig ar eich profiad eich hun
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y timau a'r partneriaid gwasanaethau y mae eich sefydliad yn gweithio gyda nhw a'r cytundebau lefel gwasanaeth (SLAs) sydd ar waith
- eich rôl mewn perthynas â gweithio gyda chydweithwyr mewnol a phartneriaid gwasanaethau allanol
- sut i ddadansoddi cyfraniad a rolau cydweithwyr a phartneriaid gwasanaethau wrth ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid
- y mathau o gymorth y gallwch eu darparu i gydweithwyr a phartneriaid gwasanaethau
- y cymorth y gall cydweithwyr a phartneriaid gwasanaethau ei roi i chi i ddarparu gwasanaeth di-dor i gwsmeriaid
- manteision a heriau cydweithio, a'r hyn a allai fynd o'i le
- sut i baratoi ar gyfer heriau mewn perthynas waith a'u datrys er boddhad y naill ochr
- gwerth a phwysigrwydd cyfathrebu'n effeithiol â chydweithwyr a phartneriaid gwasanaethau
- y mathau o ymddygiadau sy'n meithrin ac yn cynnal perthnasoedd gonest ac sy'n dangos parch gyda chydweithwyr a phartneriaid gwasanaethau
- y mathau o wrthdaro sy'n codi gyda chwsmeriaid a sut i ddelio â'r rhain mewn modd adeiladol gan ddilyn gweithdrefnau eich sefydliadau
- y tasgau sy'n gysylltiedig â gwahanol swyddi cydweithwyr
- meysydd y gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n elwa fwyaf o gymorth cyfeillio
- sut i ddewis yr amseroedd gorau i weithio ochr yn ochr â'ch cydweithwyr cyfeillio
- y ffyrdd o weithio ochr yn ochr â'ch cydweithwyr cyfeillio heb darfu ar y berthynas â chwsmeriaid
- y technegau ar gyfer rhoi adborth a beirniadaeth adeiladol i'ch cydweithwyr cyfeillio
- pwysigrwydd sefydlu perthynas gyda'ch cydweithwyr cyfeillio
- yr ystod o gamau y gall eich cydweithwyr eu cymryd i wella eu perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid
- y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal