Hyrwyddo gwasanaeth i gwsmeriaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig ag Argraff a Delwedd. Mae'n ymwneud â hyrwyddo gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae'n cynnwys maes sy'n cwmpasu'r ymddygiadau a'r prosesau gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n cael yr effaith fwyaf ar y ffordd y mae eich cwsmer yn eich ystyried chi a'ch sefydliad. Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.
Mae gan staff sydd â lefelau uchel o gyfrifoldeb am wasanaeth i gwsmeriaid rôl bwysig fel hyrwyddwyr gwasanaeth rhagorol yn eu sefydliadau. Rydych yn hyrwyddo gwasanaeth i gwsmeriaid i bartneriaid sy'n cefnogi eich sefydliad i ddarparu gwasanaeth dibynadwy i gwsmeriaid. Mae gennych hefyd arbenigedd helaeth sy'n gallu bod o fudd i gydweithwyr a phartneriaid.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n hyrwyddo gwasanaeth i gwsmeriaid drwy fod wastad yn effro i faterion sy'n effeithio ar wasanaeth i gwsmeriaid, dadansoddi'r materion hyn a'u goblygiadau, herio ar ran y cwsmer a rhannu eich arbenigedd ag eraill.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi rôl gwasanaeth i gwsmeriaid yng nghynlluniau strategol a busnes eich sefydliad
- monitro datblygiadau yn eich sefydliad i nodi'r rhai sy'n bwysig i gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid
- cefnogi'r gwaith o ddadansoddi datblygiadau sy'n ymwneud â gwasanaeth i gwsmeriaid yn eich sefydliad
- herio datblygiadau ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid o safbwynt y cwsmer
- dylanwadu ar gydweithwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i sicrhau bod datblygiadau'n gwella gwasanaeth i gwsmeriaid
- dangos esiampl o ran sut i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid gan dilyn canllawiau eich sefydliad
- ymateb i geisiadau am gyngor neu wybodaeth am wasanaeth i gwsmeriaid gan gydweithwyr a phartneriaid
- gwneud gwaith ymchwil i wella neu wirio dulliau cyfathrebu â chwsmeriaid
- cyfleu cyngor a gwybodaeth am wasanaeth i gwsmeriaid o fewn canllawiau eich sefydliad
- cefnogi cydweithwyr a phartneriaid i ystyried goblygiadau eich cyngor neu wybodaeth i'w gwaith eu hunain
- nodi camau gweithredu ar gyfer y cydweithwyr a'r partneriaid a gafodd y cyngor neu'r wybodaeth gennych i'w hystyried
- monitro'r camau gweithredu a gymerwyd sy'n gysylltiedig â chyngor neu wybodaeth
- gwerthuso canlyniadau eich cyngor neu wybodaeth
- adolygu'r ffordd rydych yn casglu gwybodaeth, yn llunio cyngor a'i gyfleu i gydweithwyr a phartneriaid
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- cynlluniau strategol a busnes eich sefydliad sy'n ymwneud â chyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid
- eich rôl a'ch cyfrifoldebau mewn cysylltiad â hyrwyddo sut y cyflwynir gwasanaeth i gwsmeriaid, gan gynnwys terfynau eich awdurdod
- y prosesau gwneud penderfyniadau yn eich sefydliad a phwy sy'n gysylltiedig
- sut i fonitro datblygiadau ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid yn eich sefydliad
- sut i feithrin perthnasoedd a defnyddio eich dylanwad a'ch awdurdod i effeithio ar y broses o wneud penderfyniadau
- y mathau o ddatblygiadau sefydliadol sy'n debygol o effeithio ar wasanaeth i gwsmeriaid a sut i ddadansoddi'r goblygiadau ar gyfer gwasanaeth i gwsmeriaid
- pwysigrwydd dangos empathi gyda chwsmeriaid a sut i gynrychioli eu safbwynt mewn ffordd adeiladol
- sut i nodi pryd mae angen cyngor a gwybodaeth ar gydweithwyr a phartneriaid ar faterion sy'n ymwneud â gwasanaeth i gwsmeriaid
- sut i ddefnyddio gwahanol fathau o ymchwil i gefnogi eich cyngor a'ch gwybodaeth am wasanaeth i gwsmeriaid
- sut i roi cyngor a gwybodaeth i gydweithwyr a phartneriaid
- y ffyrdd y gallwch fonitro'r camau gweithredu a gymerwyd o ganlyniad i'ch cyngor a'ch gwybodaeth
- sut i werthuso canlyniadau eich cyngor a'ch gwybodaeth i nodi gwelliannau
- y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal