Darparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y cwsmer

URN: INSCS008
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 22 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig ag Argraff a Delwedd. Mae'n ymwneud â darparu gwasanaeth sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf. Mae'n cynnwys maes sy'n cwmpasu'r ymddygiadau a'r prosesau gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n cael yr effaith fwyaf ar y ffordd y mae eich cwsmer yn eich ystyried chi a'ch sefydliad. Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.

Darperir gwasanaeth proffesiynol i gwsmeriaid gan bobl sy'n dda gyda phobl. Mae eich ymddygiad yn effeithio ar yr argraff sydd gan gwsmeriaid o'r gwasanaeth y maent yn ei dderbyn. Rydych yn rhoi argraff gadarnhaol pryd bynnag y byddwch yn delio â chwsmeriaid sy'n adlewyrchu eich sefydliad a'r gwasanaeth y mae'n ei ddarparu i gwsmeriaid. Rydych chi'n creu'r argraff gyntaf gywir, yn ymateb i geisiadau gan gwsmeriaid, ac yn rhoi gwybodaeth iddynt i ddiwallu eu hanghenion. Mae rhai o'ch cwsmeriaid yn disgwyl gwahanol bethau gan y gwasanaeth rydych chi'n ei gynnig, ond mae safonau sefydliadol y mae angen i chi gadw atynt o ran ymddygiad ac agweddau. Pan fyddwch yn creu'r argraff gywir ac yn dangos agwedd gadarnhaol, rydych yn lleihau'r risg y bydd rhywun yn digio neu'n anfodlon â'ch sefydliad.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n darparu gwasanaeth sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf a chadw at ofynion eu sefydliad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. rhoi argraff broffesiynol i gwsmeriaid wrth ddilyn canllawiau eich sefydliad
  2. cyfarch eich cwsmer drwy ddefnyddio canllawiau ac arddull eich sefydliad
  3. dilyn côd gwisg eich sefydliad i gyflwyno'r ddelwedd broffesiynol ofynnol i'ch cwsmeriaid
  4. nodi disgwyliadau cwsmeriaid a'u cadarnhau
  5. gwirio eich bod wedi deall disgwyliadau'r cwsmeriaid yn llawn
  6. parhau i gyfathrebu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'ch cwsmeriaid a thawelu eu meddwl
  7. dewis arddulliau cyfathrebu sy'n diwallu anghenion eich cwsmeriaid, gan ddefnyddio geiriau sy'n ddealladwy iddynt
  8. addasu eich ymddygiad chi i ymateb i wahanol ymddygiadau gan gwsmeriaid
  9. cwblhau eich tasgau gwaith i fodloni disgwyliadau eich cwsmeriaid yn seiliedig ar yr hyn y mae eich sefydliad yn ei gynnig
  10. nodi anghenion a disgwyliadau unigol cwsmeriaid ac ymateb iddynt
  11. rhoi amser i'ch cwsmeriaid ystyried eich ymatebion a rhoi esboniad pellach pan fo'n briodol
  12. rhannu gwybodaeth â chwsmeriaid am sut mae'r gwaith o gyflwyno'r gwasanaeth neu'r cynnyrch yn mynd
  13. nodi gwybodaeth a allai fod yn gymhleth i'ch cwsmer a gwneud yn siŵr ei fod yn ei deall
  14. cynnig hyblygrwydd i helpu cwsmeriaid unigol heb leihau lefel y gwasanaeth yr ydych yn ei roi i eraill
  15. rhannu gwybodaeth â chydweithwyr i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid
  16. ymateb i gwsmeriaid sy'n gofyn am gymorth o fewn cytundebau lefel gwasanaeth (SLAs)
  17. cydnabod sut mae cwsmeriaid yn teimlo i sefydlu perthynas â nhw ac ystyried eu safbwyntiau
  18. dangos brwdfrydedd dros wasanaethau a chynhyrchion i gwsmeriaid
  19. canolbwyntio ar eich cwsmeriaid ac anwybyddu pethau sy'n tynnu eich sylw wrth ddarparu gwasanaeth iddynt
  20. torri ar draws eich gwaith gyda'ch cwsmer pan fo angen, gan ddilyn canllawiau eich sefydliadau
  21. esbonio i gwsmeriaid pan fo angen y rhesymau pam na ellir bodloni disgwyliadau
  22. dangos eich bod yn rhagori ar lefelau gwasanaeth sylfaenol i greu argraff ar gwsmeriaid pan fo angen
  23. diolch i gwsmeriaid am y wybodaeth y maent wedi'i rhoi ac am ddefnyddio eich sefydliad
  24. cynorthwyo cydweithwyr i ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y cwsmer yn unol â gofynion eich sefydliad
  25. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. safonau eich sefydliad ar gyfer darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
  2. y gwahaniaeth rhwng gwasanaeth sy'n rhoi'r cwsmer yn y canol a gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, a'r gweithgareddau sy'n ymwneud â'r rhain
  3. côd gwisg eich sefydliad a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar wneud argraff broffesiynol ar gwsmeriaid
  4. sut i gwblhau'r tasgau gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig â'ch swydd, gan gynnwys yr amser sydd ei angen i gwblhau gwahanol dasgau a sut y gallai hyn effeithio ar eich cwsmeriaid
  5. sut i gwblhau eich gweithgareddau gwaith eich hun mewn ffordd drefnus
  6. beth mae eich cwsmeriaid yn ei ddisgwyl gennych chi a'ch gwaith
  7. y dulliau a'r arddull cyfathrebu y mae eich sefydliad yn eu defnyddio wrth ddelio â chwsmeriaid
  8. sut i adnabod pan fydd cwsmer yn ddig neu'n ddryslyd ac addasu eich ymddygiad i ddiwallu eu hanghenion
  9. sut i gael gafael ar wybodaeth am wasanaethau a chynhyrchion eich sefydliad i roi hyn i gwsmeriaid i ddiwallu eu hanghenion
  10. sut i wybod a yw cwsmeriaid wedi deall y wybodaeth a yr ydych wedi'i rhoi a sut i addasu eich dulliau gweithredu
  11. terfynau gwasanaethau a chynhyrchion eich sefydliad a sut i esbonio'r rhain i gwsmeriaid pan nad yw eu disgwyliadau wedi'u bodloni
  12. pwysigrwydd cydbwyso anghenion un cwsmer ag anghenion cwsmeriaid eraill
  13. sut i wneud eich gwaith mewn ffordd sy'n iach ac yn ddiogel i chi, eich cwsmeriaid a'ch cydweithwyr
  14. yr arwyddion y mae cwsmer yn eu rhoi wrth geisio cael eich sylw
  15. pwysigrwydd meithrin perthynas â gyda chwsmeriaid a'r arferion cysylltiedig y gellir eu defnyddio i adeiladu a chynnal perthynas
  16. pwysigrwydd cadw amser a gwneud yn siŵr eich bod yn lle y disgwylir i chi fod i roi gwasanaeth i gwsmeriaid
  17. yr ymddygiadau y mae'r rhan fwyaf o gwsmeriaid yn eu hystyried yn "foesau da" a'r hyn y gallant ei ystyried yn "foesau gwael" neu'n anghwrtais
  18. ffyrdd o gyfathrebu â'ch cwsmeriaid a sut i ddewis y dull sy'n diwallu anghenion cwsmeriaid orau e.e. wyneb yn wyneb, dros y ffôn, neges destun, ebost, yn ysgrifenedig neu gyfryngau cymdeithasol eraill
  19. y mathau o iaith y gallai eich cwsmeriaid a'ch cydweithwyr eu hystyried yn anaddas a pham y gallai fod yn sarhaus
  20. yr effaith y mae agwedd gyfeillgar yn ei chael ar argraffiadau cwsmeriaid ohonoch chi, a'ch sefydliad
  21. sut i ddefnyddio agwedd gyfeillgar gyda chwsmeriaid heb fod yn orgyfarwydd
  22. y rhesymau dros dorri ar draws eich gwaith gyda chwsmeriaid
  23. y gwahanol fathau o iaith corff gadarnhaol a negyddol a mynegiannau'r wyneb
  24. y gwahaniaethau unigol posibl rhwng cwsmeriaid a sut i fodloni eu disgwyliadau gwahanol yn seiliedig ar agweddau fel eu hoedran, eu diwylliant a'u personoliaeth
  25. sut i gefnogi cydweithwyr a chydweithio â nhw i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid
  26. y rhesymau pam y gallai fod angen i chi dorri ar draws eich gwaith gyda chwsmeriaid a sut i wneud hyn mewn ffordd sy'n lleihau'r effaith ar gwsmeriaid
  27. canllawiau eich sefydliad ar gyfer diolch i gwsmeriaid am wybodaeth a roddwyd ac am ddefnyddio gwasanaethau a chynhyrchion eich sefydliad
  28. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFACSA1, CFACSA2, CFACSA4, CFACSB1

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Cod SOC

7212

Geiriau Allweddol

allweddeiriau ymddiriedolaeth cwsmeriaid; hyrwyddwr; gwasanaeth i gwsmeriaid; gwneud penderfyniadau; gwrando; boddhad cwsmeriaid; cyfeillgar; cadarnhaol; ffocws ar sylw personol; gweithio gydag eraill; cyfathrebu; iaith y corff; diwylliant