Datblygu eich sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid eich hun

URN: INSCS007
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 22 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig â Hanfodion Gwasanaeth i Gwsmeriaid. Mae'n ymwneud â datblygu eich sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid eich hun, a'ch cydweithwyr. Mae'n cynnwys iaith a chysyniadau gwasanaeth i gwsmeriaid yn ogystal â'r cyd-destun sefydliadol a'r amgylchedd allanol rydych chi'n gweithio ynddo.  Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.

Rydych yn cymryd cyfrifoldeb am ddatblygu eich sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid eich hun yn barhaus. Rydych yn cymryd cyfrifoldeb am ddatblygu gwybodaeth a sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid drwy ddefnyddio gwahanol ffynonellau gwybodaeth ac rydych yn gofyn am adborth gan eich goruchwyliwr neu'ch uwch-reolwr.

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu eich sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid eich hun drwy weithio ochr yn ochr â'ch cydweithiwr a rhoi adborth adeiladol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi'r wybodaeth a'r sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid penodol sydd eu hangen arnoch yn eich rôl gwasanaeth i gwsmeriaid
  2. cytuno ar gamau gweithredu i wella eich gwybodaeth a'ch sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid gyda'ch rheolwr neu fentor
  3. creu cynllun datblygu personol yn seiliedig ar gamau gweithredu y cytunwyd arnynt
  4. cyflawni eich gweithgareddau datblygu personol ac adolygu eich cynnydd yn rheolaidd
  5. cael adborth gan eich rheolwr neu fentor am eich perfformiad a diweddaru eich cynllun datblygu personol
  6. nodi gwahanol ffynonellau gwybodaeth a chymorth fydd yn eich helpu i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid
  7. cael gafael ar wybodaeth i gynorthwyo eich datblygiad a storio deunyddiau hunanastudio i'w defnyddio yn y dyfodol
  8. adolygu'r deunyddiau hunanastudio rydych wedi'u casglu, a diweddaru eich cynllun datblygu personol
  9. cael gafael ar wybodaeth ddiweddaraf sefydliadol i gynyddu eich gwybodaeth am wasanaethau neu gynhyrchion a sut mae eich rôl yn cyfrannu at wasanaeth i gwsmeriaid
  10. monitro cyhoeddiadau i nodi syniadau neu ddatblygiadau newydd ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid y gallech eu cymhwyso yn eich gwaith
  11. newid y ffordd rydych chi'n delio â chwsmeriaid yn sgîl yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu
  12. rhannu eich cynllun datblygu personol â'ch rheolwr llinell, eich mentor neu gydweithwyr gwasanaeth i gwsmeriaid i ofyn am eu syniadau ar gyfer gweithgareddau pellach
  13. cofnodi'r hyn rydych wedi'i ddysgu am wasanaeth i gwsmeriaid a nodi'r camau gweithredu sy'n cael yr effaith fwyaf cadarnhaol
  14. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddod o hyd i wybodaeth am wasanaethau neu gynhyrchion eich sefydliad a chael gafael arni
  2. y ffynonellau gwybodaeth a sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid fydd yn eich helpu i ddatblygu
  3. y systemau a'r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer datblygu eich perfformiad personol eich hun ac eraill mewn gwasanaeth i gwsmeriaid
  4. sut mae eich ymddygiad yn effeithio ar eraill a'u datblygiad
  5. sut i adolygu eich cryfderau personol a'ch anghenion datblygu
  6. sut i greu cynllun datblygu personol ar gyfer chi eich hun a chydweithwyr fydd yn adeiladu ar gryfderau ac yn goresgyn gwendidau wrth ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid
  7. sut i gael adborth personol defnyddiol ac adeiladol gan eraill
  8. sut i ymateb yn gadarnhaol i adborth personol a chymryd camau i ddysgu oddi wrtho
  9. sut i lunio cynllun hyfforddi fydd yn adeiladu ar gryfderau cydweithwyr ac yn goresgyn eu gwendidau sy'n gysylltiedig â gwasanaeth i gwsmeriaid a'u swyddi
  10. sut i roi adborth personol adeiladol i eraill
  11. sut i helpu cydweithwyr i ymateb yn gadarnhaol i adborth personol
  12. sut i storio gwybodaeth a ddefnyddiwch i ddatblygu eich sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid
  13. pwysigrwydd canolbwyntio wrth hunanastudio i wella eich gwybodaeth a'ch sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid
  14. y ffyrdd y gallwch drosi gwybodaeth neu syniadau y daethoch o hyd iddynt drwy hunanastudio yn gamau gweithredu ymarferol yn y gwaith ar gyfer darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
  15. gwerth trafod beth ydych wedi'i ddysgu gyda'ch rheolwr llinell, mentor neu gydweithwyr sy'n gwneud gwaith tebyg
  16. y dulliau cofnodi camau gweithredu i wella eich sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid
  17. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFACSD10, CFACSD5, CFACSD6

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Cod SOC

7212

Geiriau Allweddol

datblygu sgiliau; datblygiad parhaus; gwella; hyfforddi; dangos; gwasanaeth i gwsmeriaid; datrys problemau; ymddygiadau; gweithio gydag eraill; gweithio mewn tîm; rhoi gwybodaeth; cael gwybodaeth; adborth adeiladol