Darparu cymorth i gwsmeriaid ar-lein

URN: INSCS006
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 22 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig â Hanfodion Gwasanaeth i Gwsmeriaid. Mae'n ymwneud â darparu cymorth i gwsmeriaid ar-lein. Mae'n cynnwys iaith a chysyniadau gwasanaeth i gwsmeriaid yn ogystal â'r cyd-destun sefydliadol a'r amgylchedd allanol rydych chi'n gweithio ynddo.  Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.

Mae llawer o sefydliadau'n datblygu eu gwasanaeth i gwsmeriaid drwy gyfeirio cwsmeriaid tuag at wasanaethau ar-lein.  Ar rai adegau, mae gwasanaeth cwsmeriaid a ddarperir ar-lein yn gadael cwsmer wedi'i ynysu ac yn dibynnu ar lwybrau a chyfarwyddiadau ar sgrîn.  Gall cwsmer ofyn am help wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy gyfathrebu ar-lein. Rydych yn deall yr hyn y mae eich cwsmeriaid yn ceisio'i gyflawni, sut mae'r system yn caniatáu hynny a pha bwynt y maent wedi'i gyrraedd wrth ddod o hyd i'r llwybr cywir, cyn mynd ati i'w helpu i ddiwallu eu hanghenion. Gall anawsterau godi os bydd y system ar-lein yn methu neu os nad yw'r cwsmeriaid yn gallu cwblhau'r hyn y mae arnynt ei eisiau.  Gall sefydliadau hefyd gyfeirio cwsmeriaid at borth hunanwasanaeth sy'n cael ei gynnal gan y cwsmer. Mae cwsmeriaid rheolaidd yn dod yn gyfarwydd â sut mae technolegau'n gweithredu ar y pyrth hyn ac efallai y byddant yn teimlo'n anghyfforddus ynghylch cael cynnig cymorth. Gall eraill fod yn defnyddio'r technolegau am y tro cyntaf neu'n cael problemau. Weithiau mae technolegau'n methu ac mae angen ymyrraeth awdurdodedig i'w datrys Rydych yn cydnabod y mathau o gymorth ac ymyrraeth sydd eu hangen ac yn eu darparu i ddiwallu anghenion cwsmeriaid a meithrin eu hyder wrth ddefnyddio'r technolegau.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n darparu cymorth i gwsmeriaid ar-lein.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadw golwg ar y wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaethau ar-lein y mae eich cwsmeriaid yn eu defnyddio
  2. gwrando'n astud er mwyn cadarnhau beth mae eich cwsmeriaid yn ceisio'i gyflawni wrth ddefnyddio gwasanaethau ar-lein
  3. nodi'r hyn sy'n peri anawsterau i'ch cwsmeriaid
  4. holi eich cwsmeriaid i gadarnhau eu bod yn gyfarwydd â'r gwasanaethau ar-lein
  5. nodi problemau cwsmeriaid gyda gwasanaethau ar-lein a chytuno ar y camau i'w goresgyn
  6. cyfarwyddo cwsmeriaid drwy ddilyniannau sgrîn ar-lein, gan eu hannog i weithredu'r system drostynt eu hunain
  7. cynorthwyo eich cwsmeriaid drwy esbonio pam mae angen camau penodol yn y broses
  8. cynnig tywys y cwsmer drwy'r broses neu gwblhau'r trafodiad eich hun
  9. hyrwyddo gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol wrth gefnogi cwsmeriaid â gwasanaethau ar-lein
  10. paratoi i ddangos sut i ddefnyddio technolegau hunanwasanaeth ac ateb cwestiynau cyffredin amdano
  11. arsylwi cwsmeriaid yn defnyddio technoleg hunanwasanaeth yn unol â gofynion eich sefydliad
  12. dangos sut i ddefnyddio technolegau hunanwasanaeth
  13. nodi adegau pan mae cwsmeriaid yn cael anawsterau gyda thechnolegau hunanwasanaeth
  14. ymateb i geisiadau am gymorth gan gwsmeriaid sy'n defnyddio technolegau hunanwasanaeth
  15. defnyddio opsiynau caniatáu gan staff i glirio technolegau hunanwasanaeth i'w defnyddio gan gwsmeriaid
  16. cyfarwyddo cwsmeriaid i ddefnyddio'r technolegau hunanwasanaeth a chaniatáu iddynt weithredu'r gwasanaethau hynny ac ymarfer camau
  17. cynnig sylwadau cadarnhaol a chalonogol i gwsmeriaid pan maent yn dysgu sut i ddefnyddio'r technolegau hunanwasanaeth
  18. datrys problemau gyda thechnolegau hunanwasanaeth, rhoi gwybod i gydweithwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau am wallau a phroblemau
  19. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae system eich sefydliad ar gyfer cyflwyno gwasanaethau ar-lein yn gweithio a phwysigrwydd datblygu eich gwybodaeth a'r sgiliau sy'n gysylltiedig â'i defnyddio
  2. pwysigrwydd gwrando'n astud i gael gwybod beth mae eich cwsmer yn ceisio'i gyflawni
  3. y ffyrdd o gyfathrebu â chwsmeriaid sydd â gwahanol lefelau o sgiliau a dealltwriaeth o'r system ar-lein
  4. y rhesymau dros annog cwsmeriaid i gwblhau trafodion dros eu hunain
  5. pwysigrwydd meithrin hyder cwsmeriaid wrth ddefnyddio'r system ar-lein drwy eu helpu i ddysgu
  6. manteision ac anfanteision tywys cwsmeriaid gam wrth gam drwy'r system o'i gymharu â chwblhau'r trafodiad eich hun
  7. y gwasanaethau neu'r cynhyrchion ychwanegol y gellir eu hyrwyddo i gwsmeriaid ar-lein
  8. y rhesymau pam mae eich sefydliad yn cynnig technolegau hunanwasanaeth i gwsmeriaid
  9. pwysigrwydd arsylwi cwsmeriaid yn defnyddio technolegau hunanwasanaeth a sut i wneud hyn
  10. sut i weithredu'r technolegau hunanwasanaeth o safbwynt cwsmeriaid a staff
  11. y cwestiynau cyffredin am ddefnyddio technolegau hunanwasanaeth a'r atebion y dylid eu darparu
  12. y technegau dangos y technolegau hunanwasanaeth i gwsmer
  13. y signalau a'r arwyddion sy'n dangos bod angen help ar gwsmer gyda thechnolegau hunanwasanaeth
  14. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer defnyddio camau ymyrryd gan staff i glirio technolegau hunanwasanaeth
  15. pwysigrwydd meithrin hyder cwsmeriaid wrth ddefnyddio technolegau hunanwasanaeth
  16. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ymdrin â phroblemau technolegau hunanwasanaeth
  17. y cydweithwyr sy'n gallu eich helpu gyda phroblemau technolegau hunanwasanaeth
  18. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFACSD4, CFACSD7

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Cod SOC

7212

Geiriau Allweddol

wyneb yn wyneb; ffôn; system yn methu; datblygu; gwella; ar-lein; gwasanaeth i gwsmeriaid; canolfannau cyswllt; gwella; datblygu; cyfathrebu; datrys problemau; gwaith tîm; gwybodaeth; technolegau hunanwasanaeth; profiad cwsmeriaid