Cynnal amgylchedd iach a diogel i gwsmeriaid a chydweithwyr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig â Hanfodion Gwasanaeth i Gwsmeriaid. Mae'n ymwneud â chynnal amgylchedd iach a diogel i gwsmeriaid a chydweithwyr. Mae'n cynnwys iaith a chysyniadau gwasanaeth i gwsmeriaid yn ogystal â'r cyd-destun sefydliadol a'r amgylchedd allanol rydych chi'n gweithio ynddo. Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.
Mae iechyd a diogelwch yn bwysig ym mhob maes gwaith, boed mewn swyddfa neu yn y cartref, ac mae hyn yn wir am wasanaeth i gwsmeriaid. Rydych yn darparu lefelau uchel o wasanaeth i gwsmeriaid, gan gydnabod ei bod hefyd yn bwysig cynnig amgylchedd sy'n galluogi ac yn annog staff i weithio'n ddiogel er eu lles eu hunain ac i gwsmeriaid.
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal amgylchedd gwaith iach a diogel i gwsmeriaid a chydweithwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi peryglon iechyd a diogelwch wrth weithio gartref ac yn amgylchedd swyddfa eich sefydliad
- asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig â pheryglon a nodir
- nodi ffactorau iechyd a diogelwch a allai wneud staff gwasanaeth i gwsmeriaid yn llai effeithiol
- nodi ffactorau iechyd a diogelwch a allai beri pryder i gwsmeriaid
- gwerthuso'r ffactorau iechyd a diogelwch a nodwyd yn erbyn polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad a disgwyliadau cwsmeriaid
- rhoi gwybodaeth am risgiau a pheryglon i gydweithwyr sy'n gyfrifol am iechyd a diogelwch
- rhoi gwybodaeth am iechyd a diogelwch yn y gweithle i staff gwasanaeth i gwsmeriaid
- cadarnhau cyfrifoldebau staff am iechyd a diogelwch gyda nhw
- cynnal mesurau i reoli risgiau i iechyd a diogelwch sy'n cyd-fynd â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
- gwirio bod cwsmeriaid a staff yn cael eu briffio ar fesurau i reoli risgiau i iechyd a diogelwch
- monitro'r defnydd o fesurau rheoli iechyd a diogelwch i wneud yn siŵr bod staff yn eu dilyn
- galluogi staff i nodi peryglon iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig â'r amgylcheddau y maent yn gweithio ynddynt a rhoi gwybod am y peryglon hyn
- cynorthwyo staff i reoli eu cydbwysedd bywyd-gwaith ac iechyd meddwl
- defnyddio gweithdrefnau sefydliadol y cytunwyd arnynt i ddelio â pheryglon pan fyddant yn digwydd
- adolygu elfennau iechyd a diogelwch yr amgylchedd gwasanaeth i gwsmeriaid pan fo hynny'n ofynnol gan eich sefydliad
- cynnal ymarferion brys o fewn maes eich cyfrifoldeb
- dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cadw cofnodion iechyd a diogelwch yn gyfredol ac ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau iechyd a diogelwch
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd cynnal gwaith iach, diogel ac effeithiol gartref neu mewn swyddfa
- eich rôl a'ch cyfrifoldebau o ran iechyd a diogelwch yn y gweithle
- y cydweithwyr sydd â chyfrifoldebau penodol dros iechyd a diogelwch yn eich gweithle a sut maent yn gallu eich cefnogi
- pwysigrwydd yr holl gydweithwyr sy'n cymryd cyfrifoldeb am iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd gwasanaeth i gwsmeriaid
- y pryderon posibl a allai fod gan gwsmeriaid ynghylch iechyd a diogelwch a sut i ddelio â'r rhain
- sut i gael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf am ofynion cyfreithiol a rheoliadol ar gyfer iechyd a diogelwch a chodau ymarfer perthnasol
- y ffyrdd y caiff gwybodaeth am iechyd a diogelwch ei rhannu yn eich sefydliad fel bod gan yr holl staff y wybodaeth ddiweddaraf
- y mathau o beryglon iechyd a diogelwch sy'n debygol o ddigwydd ym maes eich cyfrifoldeb
- sut i asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig â pheryglon iechyd a diogelwch
- y gwahanol fathau o ffactorau sy'n effeithio ar iechyd a diogelwch a sut i'w gwerthuso, e.e. pobl, offer, deunydd, yr amgylchedd a phrosesau
- y materion iechyd a diogelwch a allai godi oherwydd bod staff yn gweithio gartref
- y ffyrdd y gallwch chi a'ch sefydliad gefnogi staff i reoli eu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, arferion cydweithio o bell, iechyd meddwl ac iechyd corfforol mewn amgylcheddau gweithio gartref ac ar y safle
- sut i gynnal driliau brys yn eich amgylchedd gwasanaeth i gwsmeriaid a phryd i wneud hyn
- sut i reoli risgiau mewn ffordd sy'n cyd-fynd â gofynion cyfreithiol a rheoliadol a chodau ymarfer
- polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer iechyd a diogelwch
- y gweithdrefnau cofnodi ac adrodd yn eich sefydliad sy'n berthnasol i gynnal amgylchedd iach a diogel
- y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal