Rheoli cyfathrebiadau mewn amgylchedd gwasanaeth i gwsmeriaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig â Hanfodion Gwasanaeth i Gwsmeriaid. Mae'n ymwneud â rheoli cyfathrebiadau mewn amgylchedd gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae'n cynnwys iaith a chysyniadau gwasanaeth i gwsmeriaid yn ogystal â'r cyd-destun sefydliadol a'r amgylchedd allanol rydych chi'n gweithio ynddo. Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.
Rydych yn cyfathrebu â chwsmeriaid a chydweithwyr gan ddefnyddio iaith a chysyniadau sy'n ddealladwy iddynt. Rydych yn darparu gwasanaeth i gwsmeriaid yn eich sefydliad ac yn cyfrannu at fodloni gofynion eich sefydliad. Gallwch ddisgrifio ac egluro'r cynhyrchion neu'r gwasanaethau y mae eich sefydliad yn eu cynnig a sut mae'n darparu gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae hyn yn golygu eich bod yn defnyddio'r iaith gywir ac yn deall pam mae angen i sefydliad ystyried anghenion cwsmeriaid ochr yn ochr â'r hyn y mae'r sefydliad yn fodlon ac yn gallu ei ddarparu. Mae angen i bawb sy'n ymwneud â gwasanaeth i gwsmeriaid wybod cynnwys yr elfen gwasanaeth i gwsmeriaid yn eu swydd. I ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid, mae angen i chi hefyd ddeall beth sydd ei eisiau ar eich cwsmeriaid a sut maent yn teimlo. Mae hyn yn golygu eich bod yn rhannu gwybodaeth â nhw ac yn gwrando'n astud arnynt. Mae angen i'ch cwsmeriaid ddeall beth ydych yn ei ddweud wrthynt a beth allwch ei wneud ar eu cyfer. Mae cyfathrebu yn sgil hanfodol ar gyfer darparu gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae eich rôl gwasanaeth i gwsmeriaid yn cynnwys siarad â chwsmeriaid wyneb yn wyneb neu gyfathrebu'n rhithwir. Gall hyn fod dros y ffôn, drwy blatfformau cyfryngau cymdeithasol neu byrth ar y we.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n rheoli cyfathrebiadau sydd wrth wraidd gwasanaeth i gwsmeriaid eu sefydliad, gan ddelio â chwsmeriaid a chydweithwyr fel ei gilydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi proffiliau cwsmeriaid eich sefydliad a'u disgwyliadau
- trafod disgwyliadau cwsmeriaid a chytuno arnynt gyda chydweithwyr
- defnyddio systemau, technolegau, prosesau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid
- cael mynediad at y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid o fewn canllawiau a chytundebau lefel gwasanaeth eich sefydliad
- cadarnhau eich rôl a'ch cyfrifoldebau ar gyfer darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
- crynhoi gwybodaeth am wasanaeth a chynnyrch eich sefydliad i gwsmeriaid
- nodi'r opsiynau sydd ar gael i ymateb i'ch cwsmeriaid a manteision ac anfanteision pob un o'r rhain
- cysylltu â chwsmeriaid mewn modd parchus a phroffesiynol wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy ddulliau cyfathrebu rhithwir
- dilyn protocol cyfathrebu yn unol â chanllawiau eich sefydliad
- dechrau sgwrs gyda chwsmeriaid i sefydlu eu perthynas
- cadarnhau pwy yw cwsmeriaid gan ddilyn canllawiau sefydliadol a deddfwriaeth diogelu data berthnasol
- ymateb i gyfathrebiadau gan gwsmeriaid o fewn canllawiau ac amserlenni eich sefydliad
- defnyddio gwahanol fathau o gwestiynau i egluro anghenion neu ofynion eich cwsmeriaid
- gwneud yn siŵr eich bod yn deall anghenion neu ofynion cwsmeriaid
- egluro beth ydych yn ei wneud wrth gael gafael ar wybodaeth i roi ymateb i gwsmeriaid
- rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid mewn ymateb i'w cwestiynau neu geisiadau
- crynhoi canlyniad eich cyswllt â chwsmeriaid ac unrhyw gamau gweithredu i'w cymryd
- gwneud yn siŵr bod anghenion cwsmeriaid wedi'u diwallu yn ystod y cyswllt ac ymateb i'w holl gwestiynau neu geisiadau
- diweddaru cofnodion cwsmeriaid yn ystod cyswllt, neu wedi hynny, i adlewyrchu pwyntiau allweddol sgyrsiau
- cymryd negeseuon er mwyn eu rhoi i gydweithwyr pan na allwch ddelio â chwestiynau neu geisiadau cwsmeriaid
- cyfathrebu â chydweithwyr i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid
- crynhoi gwybodaeth gan gwsmeriaid ar gyfer cydweithwyr wrth ddelio â sefyllfaoedd y tu hwnt i lefel eich awdurdod
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- proffiliau cwsmeriaid eich sefydliad a'u disgwyliadau
- y gwahaniaethau rhwng cwsmeriaid mewnol ac allanol
- pam mae gweithdrefnau sefydliadol a gwaith tîm yn bwysig ar gyfer darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
- systemau, technolegau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid
- sut i ddod o hyd i wybodaeth am gynhyrchion a gwasanaethau eich sefydliad i gefnogi anghenion cwsmeriaid
- y berthynas rhwng disgwyliadau cwsmeriaid a boddhad cwsmeriaid, a sut i ddiwallu eu hanghenion
- y cynhyrchion a'r gwasanaethau a gynigir gan eich sefydliad a'ch rôl wrth ddarparu'r gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig â'r rhain
- pwysigrwydd gwasanaeth i gwsmeriaid a'r gwahanol rolau a chyfrifoldebau ar gyfer darparu gwasanaeth i gwsmeriaid yn eich sefydliad
- y protocol cyfathrebu yn unol â chanllawiau eich sefydliad
- sut i ddechrau sgwrs gyda'ch cwsmeriaid i sefydlu eu perthynas
- sut i sefydlu pwy yw'r cwsmer yn unol â chanllawiau sefydliadol a deddfwriaeth diogelu data berthnasol
- y mathau o wybodaeth y mae angen i chi ei rhoi i roi gwasanaeth da i gwsmeriaid
- y mathau o gwestiynau i'w gofyn i egluro anghenion neu ofynion eich cwsmeriaid
- sut i wneud yn siŵr eich bod yn deall anghenion a gofynion eich cwsmeriaid
- sut i ddefnyddio gwahanol fathau o gwestiynau i wneud yn siŵr eich bod yn deall beth mae cwsmeriaid yn ei ddweud wrthych
- sut i grynhoi gwybodaeth i gwsmeriaid
- pam mae'n bwysig defnyddio geiriau y mae eich cwsmeriaid yn eu deall a'r gwahaniaeth rhwng iaith negyddol a chadarnhaol
- sut i siarad â chwsmeriaid wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy ddulliau cyfathrebu rhithwir
- canlyniad eich cyswllt â chwsmeriaid ac unrhyw gamau gweithredu i'w dilyn
- sut mae eich arddull cyfathrebu yn effeithio ar y gwasanaeth a gaiff y cwsmer gennych
- sut i ddiweddaru cofnodion cwsmeriaid yn ystod cyswllt, neu wedi hynny, i adlewyrchu pwyntiau allweddol sgyrsiau
- pa wybodaeth sy'n ddefnyddiol i'w rhannu mewn negeseuon â chydweithwyr
- y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal